David Jones, Treffynnon
Cerddor, emynydd a gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd David Jones (Hydref 1770 – 25 Awst 1831).
David Jones, Treffynnon | |
---|---|
Ganwyd | Hydref 1770 Llanuwchllyn |
Bu farw | 25 Awst 1831 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, emynydd, cerddor, gwaith y saer |
Cefndir
golyguGanwyd David Jones, Hydref 1770 yn Coed-y-ddôl, Llanuwchllyn, sir Feirionnydd. Ei alwedigaeth oedd gwneuthurwr llestri coed. Aeth am gwrs o addysg yn ddyn ieuanc, i'r athrofa yn Wrecsam o dan yr athro Jenkin Lewis. Aeth i Dreffynnon i ofalu am yr eglwys Annibynnol yno yn 1801. Yn 1810 cyhoeddodd gasgliad o emynau, a chafwyd ail argraffiad yn 1821 yn cynnwys fel atodiad Egwyddorion neu Dônraddau Cerddoriaeth (Gamut) a amcanwyd yn bennaf er annogaeth a chynnorthwy i Bobl Ieuangc i ddysgu Peroriaeth Sanctaidd (3ydd arg. yn 1826). Yn 1831 aeth i Fanceinion i gasglu at gynorthwyo eglwysi gweiniaid. Bu farw 25 Awst 1831, yn Lerpwl, trwy ddamwain. Claddwyd ef yn Nhreffynnon.
Ffynonellau
golygu- Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, iv, 222;
- W. A. Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru (Caernarfon 1907);
- C. Ashton, Llyfryddiaeth Gymreig o 1801 i 1810 (1908);
- Y Gwyddoniadur Cymreig (1889–96) (ail arg.), vi, 416 D;
- R. T. Jenkins, Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn (1937), 99, 114].