David Lloyd (comics)
Arlunydd o Loegr yw David Lloyd (ganed 1950) sy'n arbenigo mewn comigion, ac sy'n adnabyddus am ddarlunio stori V for Vendetta, a ysgrifennwyd gan Alan Moore.
David Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 1950 Enfield Town |
Dinasyddiaeth | Lloegr, y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | arlunydd comics, arlunydd, actor, artist, sgriptiwr |
Adnabyddus am | V for Vendetta |
Gwobr/au | Gwobr Prometheus - Hall of Fame |
Gwefan | http://www.lforlloyd.com |
Gyrfa
golyguDechreuodd Lloyd weithio ar gomigion yn ystod yr 1970au hwyr, gan ddarlunio ar gyfer Halls of Horror, TV Comic a sawl teitl Marvel UK. Ynghyd â'r awdur Steve Parkhouse, creodd y cymeriad antur pwlp Night Raven.
Pan sefydlodd Dez Skinn gylchgrawn Warrior ym 1982, gofynnodd i Lloyd greu cymeriad newydd pwlp. Roedd Lloyd a'r ysgrifennwr Alan Moore wedi cyd-weithio ar sawl stori ar gyfer Doctor Who gynt, a chreodd y ddau V for Vendetta, antur gyda therfysgwr anarchaidd sy'n ymladd yn erbyn llywodraeth ffasgaidd ddyfodol. Wedi i'r cylchgrawn ddod i ben ym 1984, ail-argraffwyd y gyfres mewn lliw gan DC Comics ac fel nofel graffeg ym 1995. Addaswyd hefyd yn ffilm a ryddhawyd yn 2006.
Gweithiodd Lloyd hefyd ar Espers, gyda'r ysgrifennwr James D. Hudnall, ar gyfer Eclipse Comics; Hellblazer, gyda'r ysgrifenwyr Grant Morrison a Jamie Delano,[1] a War Story, gyda Garth Ennis, ar gyfer DC; a Global Frequency, gydag Warren Ellis, ar gyfer Wildstorm. Darluniodd hefyd, gyda Delano, The Territory ar gyfer Dark Horse, a gweithiodd hefyd ar deitlau eraill y cwmni megis Aliens and James Bond. Mae hefyd wedi cynhyrchu nofel graffeg, Kickback, ar gyfer y cyhoeddwr Ffrengig Editions Carabas.
Llyfryddiaeth
golygu- Night Raven:
- "Night Raven" (gyda Steve Parkhouse, Marvel UK, 1979)
- "House Of Cards" (gyda Jamie Delano, Marvel UK, one shot, 1993)
- Hulk: "Dr Scarabeus" (inc, gyda Steve Moore a phensel gan Paul Neary, yn Hulk Comic #15-20, Marvel UK, 1979)
- Doctor Who (gyda Alan Moore, Marvel UK):
- "Black Legacy" (yn Doctor Who Magazine #35-38, 1980, ail-argraffwyd yn Doctor Who #14, Marvel Comics)
- "Business as Usual" (yn Doctor Who Magazine #40-43, 1980 ail-argraffwyd yn Doctor Who #15, Marvel Comics)
- "The 4-D War" (in Doctor Who Magazine #51, reprinted in The Daredevils #6, 1980)
- "Black Sun Rising" (yn Doctor Who Magazine #57, hefyd The Daredevils #7, 1980)
- Time Bandits (pensiliau, gyda Steve Parkhouse a chysylltiadau gan John Stokes, addasiad ffilm, Marvel, 1982)
- V for Vendetta (gydag Alan Moore, cyfresir y ddau lyfr cyntaf yn Warrior #1-26, 1982–1985, DC, 10 rhifyn, 1988–1989, tpb, DC, 1995)
- Sláine: "Cauldron of Blood" (gyda Pat Mills, yn Dice Man #1, 1986)
- Hellblazer:
- Rare Cuts (trade paperback, 2005, Titan, ISBN 1-84023-974-3, DC/Vertigo, ISBN 1-4012-0240-3) yn casglu:
- "Early Warning" (gyda Grant Morrison, Hellblazer #25-26, 1990)
- "This is the Diary of Danny Drake" (gyda Garth Ennis, Hellblazer #56, 1993)
- The Horrorist (gyda Jamie Delano, Vertigo, 2-rifyn cyfresi-bychain, 1995, casglwyd yn The Devil You Know, 2007, ISBN 1-40121-269-7)
- Rare Cuts (trade paperback, 2005, Titan, ISBN 1-84023-974-3, DC/Vertigo, ISBN 1-4012-0240-3) yn casglu:
- The Territory (gyda Jamie Delano, Dark Horse, 4-rhifyn cyfresi-bychain, 1999, tpb, 96 tud., 2006, ISBN 1-59307-010-1)
- War Story (gyda Garth Ennis, Vertigo, un yn unig one shots):
- "Nightingale"[2] (2001, casglwyd yn War Stories: Volume 1, 2004 ISBN 1-84023-912-3)[3]
- "J for Jenny"[4] (2003, casglwyd yn War Stories: Volume 2, 2006 ISBN 1-4012-1039-2)[5]
- Kickback (argraffiad Ffrangeg gwreiddiol, Editions Carabas, 2005, argraffiad Saesneg, 2006, Dark Horse Comics, ISBN 1-59307-659-2)
- São Paulo (argraffiad Braseg gwreiddiol, editora Casa 21 Archifwyd 2018-03-07 yn y Peiriant Wayback, 2007, ISBN 978-85-88327-11-6)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alexander C. Irvine (2008). gol. Alastair Dougall: The Vertigo Encyclopedia (yn en). Efrog Newydd: Dorling Kindersley, tud. 102–111. OCLC 213309015
- ↑ Nodyn:Comicbookdb
- ↑ "War Stories: Vol. 1 profile". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-07. Cyrchwyd 2011-06-02.
- ↑ Nodyn:Comicbookdb
- ↑ "War Stories: Vol. 2 profile". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-07. Cyrchwyd 2011-06-02.