Chwaraewr boccia sy'n cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yw David John Smith OBE (ganed 2 Mawrth 1989).[1]

David Smith
Ganwyd2 Mawrth 1989 Edit this on Wikidata
Eastleigh Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Prydain Fawr Prydain Fawr
Galwedigaethboccia player Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, OBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae e'n dod o Eastleigh, Hampshire, ac mae ganddo fe barlys yr ymennydd.[2] Ar ôl graddio o Prifysgol Abertawe penderfynodd aros yng Nghymru. Mae e'n byw ac yn hyfforddi yn Abertawe, lle mae'n cynnal clwb boccia cymunedol hefyd.[1] Mae Smith yn adnabyddus am ei wallt lliwgar.[3]

Roedd Smith rhan o dîm boccia Prydain y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf yn 2008, lle enillodd y tîm fedal aur. Enillodd Smith fedal efydd ei hun yn 2012, ac wedyn medal aur yng Ngemau Paralympaidd 2016 ym Mrasil,[1] gan ddod yn chwaraewr boccia mwyaf llwyddiannus Gwledydd Prydain.[2] Ym Mharis yn 2024 collodd Smith yn y rownd gyn derfynol, felly methodd ag ennill medal.[3]

Penodwyd Smith yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2022.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "David Smith OBE" (yn Saesneg). Boccia UK. Cyrchwyd 1 Medi 2024.
  2. 2.0 2.1 "Eastleigh's gold medallist David Smith flies flag for GB to close Paralympics". Hampshire Live (yn Saesneg). 5 Medi 2021. Cyrchwyd 1 Medi 2024.
  3. 3.0 3.1 "Smith 'out of gas' as he misses out on Bronze". BBC Sport (yn Saesneg). 1 Medi 2024. Cyrchwyd 1 Medi 2024.
  4. "The full list of Welsh people on the Queen's New Year Honours list". Wales Online (yn Saesneg). 31 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 1 Medi 2024.


 

 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.