Dawns Gyrn Abbots Bromley

Dawns werin flynyddol unigryw yw Dawns Gyrn Abbots Bromley a gynhelir ym mhentref Abbots Bromley, Swydd Stafford, Lloegr, ar Ddydd Llun wedi'r Sul cyntaf wedi 4 Medi, yn ystod wythnos y gwyliau (wakes week).

Hen ffotograff o'r dawnswyr (tua 1900).
Y ddawns gyrn tu allan i'r dafarn leol (2018).

Deuddeg o ddawnswyr sydd – chwech yn dwyn pâr o gyrn carw Llychlyn yn ei ddwylo, y ffŵl, Marian Forwyn, y ceffyl pren, y bwäwr, y canwr triongl, a'r cerddor – a phob un ohonynt yn gwisgo carpiau ffug-ganoloesol a ddyluniwyd yn niwedd y 19g. Dynion sydd yn perfformio pob rhan yn draddodiadol, gan gynnwys Marian Forwyn. Câi'r cyrn, a gedwir yn Eglwys Sant Nicolas, eu mowntio ar ddelw bren o ben carw, a chanddi goes bren fer i'w chydio. Mae tri phâr o gyrn wedi eu paentio yn wyn gyda blaenau brown, a'r tri arall yn frown gyda blaenau euraid. Mae'r dawnswyr yn treulio'r holl ddydd yn cerdded terfynau'r plwyf, weithiau un ar ôl y llall, ac weithiau yn pleth-ddawnsio tra'n dilyn yr arweinydd. Pob hyn a hyn mae'r chwech sydd yn dwyn y cyrn yn ffurfio llinellau yn wynebu ei gilydd, gyda'r ceffyl pren a'r bwäwr, ac weithiau'r ffŵl a Marian Forwyn hefyd, yn ymuno yn y ddawns. Yn ôl coel gwlad, anlwcus ydyw os nad ydynt yn dawnsio heibio eich cartref. Wedi'r ddawns, dychwelir y cyrn i'r eglwys.[1]

Ansicr ydy tarddiad y cyrn, ac yn ôl prawf dyddio carbon ym 1976 mae un ohonynt yn dod o garw a fu farw tua 1065 OC ± 80 mlynedd.[1] Darfu ceirw Llychlyn o Brydain erbyn y cyfnod hwnnw, ac mae'n debyg felly iddynt eu mewnforio o wlad arall. Canfu'r cofnod cynharaf o'r ddawns gyrn yn The Natural History of Stafford-shire (1686) gan Robert Plot, a sonir am ddawns y ceffyl pren adeg y Nadolig, Dydd Calan, a Nos Ystwyll:

At Abbots, or now rather Pagets Bromley, they had alſo within memory, a ſort of ſport, which they celebrated at Chriʃmas (on New-year, and Twelft-day) call'd the Hobby-horʃe dance, from a perſon that carryed the image of a horʃe between his leggs, made of thin boards, and in his hand a bow and arrow, which paſſing through a hole in the bow, and ſtopping upon a ʃholder it had in it, he made a ʃnapping noiſe as he drew it to and fro, keeping time with the Muʃick: with this Man danced 6 others, carrying on their ſhoulders as many Rain deers heads, 3 of them painted white, and 3 red, with the Armes of the cheif families (viz. of Paget; Bagot, and Wells) to whom the revenews of the Town cheifly belonged, depicted on the palms of them, with which they danced the Hays, and. other Country dances. To this Hobby-horʃe dance there alſo belong'd a pot, which was kept by turnes, by 4 or 5 of the cheif of the Town, whom they call'd Reeves, who provided Cakes and Ale to put in this pot; all people who had any kindneſs for the good intent of the lnſtitution of the ʃport, giving pence a piece for themſelves and families; and ſo forraigners too, that came to ſee it: with which Mony (the charge of the Cakes and Ale being defrayed) they not only repaired their Church but kept their poore too: which charges are not now perhaps ſo cheerfully boarn.

—Robert Plot, The Natural History of Stafford-shire[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Jacqueline Simpson a Steve Roud, A Dictionary of English Folklore (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000), t. 1.
  2. Robert Plot, The Natural History of Stafford-shire (Rhydychen, 1686), t. 434.