Gall Calan hefyd gyfeirio at y dydd cyntaf o'r mis: Calan Mai, Calan Gaeaf

Dydd Calan yw'r enw ar gyfer diwrnod cyntaf y flwyddyn, sef 1 Ionawr. Gall y gair "calan" hefyd gyfeirio at ddydd cyntaf mis. Arferid credu nifer o goelion a oedd yn berthnasol i'r diwrnod cyntaf o'r flwyddyn e.e. arwyddocâd y person cyntaf i ddod dros trothwy'r drws. Ym Mhenfro aethpwyd â dŵr o gwmpas y tai i'w ddiferyd dros y trigolion i sicrhau hapusrwydd am weddill y flwyddyn. Roedd hel calennig yn arferiad drwy Gymru benbaladr. Mewn ardaloedd eraill yr arferiad oedd i ddyn penddu ymweld â'r tŷ efo darn o lo; deuai hyn â lwc dda i'r trigolion.

Dydd Calan
Parti Dydd Calan i blant y Brithdir, ger Dolgellau, ym 1955.
Enghraifft o:gwyl genedlaethol, New Year celebrations, diwrnod rhyngwladol Edit this on Wikidata
Mathgŵyl Edit this on Wikidata
Rhan opublic holidays in Greece, public holidays in the United Kingdom, public holiday in Japan, public holidays in Austria, public holidays in Latvia, public holidays in Algeria, public holidays in Uruguay, public holidays in Sabah, public holidays in Russia, public holidays in Portugal, public holidays in Australia Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganNos Galan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn 1752 newidiwyd y dyddiad i'r un presennol; cyn hynny diwrnod cynta'r flwyddyn oedd 13 Ionawr[1]. Mae rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r Hen Galan e.e. Cwm Gwaun a Llandysul ar sail yr hen galendr Iwlaidd gafodd ei ddisodli ym 1752 gan galendr Gregori.[2]

Penillion

golygu

Dyma rai penillion sy’n cael eu canu ar 13 Ionawr:

Mae dydd Calan wedi gwawrio
Dydd tra hynod yw i gofio,
Dydd i roddi, dydd i dderbyn,
Yw’r trydydd dydd ar ddeg o’r flwyddyn.
Rhowch yn hael i rai gwael,
Rhowch yn hael i rai gwael,
Pawb sy’n ffyddlon i roi rhoddion
Yw’r rhai hynny sydd yn cael.[3]

Tarddiad y gair "Calan"

golygu

Mae'r gair "calan" yn dod o'r gair Lladin calendae "y galwedig", yr enw ar gyfer diwrnod cyntaf pob mis yn y calendr Rhufeinig.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan er gwaetha'r tywydd; adalwyd 05/101/2013
  2. Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan o hyd ; adalwyd 05/01/2013
  3. Gwefan Bro Waldo Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback; Yr Hen Galan; adalwyd 05/01/2013

Dolenni allanol

golygu