Mae Ddifodiannau Mawr Bywyd (Saesneg: mass extinction events) yn ddigwyddiadau byd-eang pan welir lleihad yn y bywyd sydd ar y Ddaear a hynny ar raddfa enfawr. Gellir diffinio sawl difodiant drwy edrych ar y newid sylweddol yn yr amrywiaeth a nifer yr organebau amlgellog. Mae difodiannau o'r fath yn cael effaith ar gydrannau'r biosffêr.[1]

CambriaiddOrdoficiaiddSilwraiddDefonaiddCarbonifferaiddPermiaiddTriasigJwrasigCretasaiddPaleogenNeogen
Dwysedd difodiant organebau byw morol
yn ystod y Ffanerosöig
%
<-- Miliynau o flynyddoedd yn ôl
CambriaiddOrdoficiaiddSilwraiddDefonaiddCarbonifferaiddPermiaiddTriasigJwrasigCretasaiddPaleogenNeogen
Mae'r siart hon yn dangos y ganran ymddangosiadol o genws yr anifeiliaid morol a ddifodwyd dros gyfnos o amser.
Nid yw'n cynrychioli pob rhywogaeth o anifeiliaid morol, dim ond y rhai hynny y canfuwyd eu ffosiliau. Ceir dolen ar bob un o'r prif 5 difodiant.

'Dyw graddfa'r difodiannau mawr a welwyd dros y milenia ddim yn gyson: maen nhw'n digwydd heb batrwm o ran amser. Gellir dweud yn fras, o astudio ffosiliau fod difodiannau cefndirol yn digwydd tua 2 i 5 teulu (bioleg) (tacsonomegol) anifeiliaid morol bob miliwn o flynyddoedd. Dyma, felly, y math o ffosiliau a astudir yn fwyaf aml, oherwydd y cofnod manwl sydd ar gael ohonynt, o'i gymharu ag anifeiliaid y tir.

Y difodiant mawr cyntaf, mae'n debyg oedd yr 'Ocsigeneddio Mawr' (Great Oxygenation Event) pan welwyd diocsigen (O2) a gynhyrchwyd gan organebau biolegol yn atmosffer y blaned.[2]

Y difodiant mawr diwedda pedd y Digwyddiad difodiant Cretasaidd-Paleogenaidd pan welwyd difodi llawer iawn o anifeiliaid a phlanhigion a hynny mewn amser cymharol fyr.[3] Yn ychwanegol at y 5 prif ddifodiant mawr, ceir nifer o rai mân a'r difodiant hwnnw sy'n digwydd heddiw a achoswyd gan ddyn, a elwir weithiau y 6ed difodiant. Digwyddant gan mwyaf yn ystod y Ffanerosöig (yr Eon daearegol presennol, a'r un ble gwelwyd amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn esblygu).[4]

Pob genws
Genws a ddiffiniwyd yn dda
Tuedd
"Y Pum Difodiant Mawr"
Difodiannau eraill
Miliwn o flynyddoedd yn ôl
Amrywiaeth o fewn y Ffanerosöig, yn ôl cofnodion y ffosiliau. Mae'r echelin 'y' yn cynrychioli miloedd o genws.


Cyfeiriadau golygu

  1. Nee, S. (2004). "Extinction, slime, and bottoms". PLoS Biology 2 (8): E272. doi:10.1371/journal.pbio.0020272. PMC 509315. PMID 15314670. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=509315.
  2. Sosa Torres, Martha E.; Saucedo-Vázquez, Juan P.; Kroneck, Peter M.H. (2015). "Chapter 1, Section 2 "The rise of dioxygen in the atmosphere"". In Peter M.H. Kroneck and Martha E. Sosa Torres (gol.). Sustaining Life on Planet Earth: Metalloenzymes Mastering Dioxygen and Other Chewy Gases. Metal Ions in Life Sciences. 15. Springer. tt. 1–12. doi:10.1007/978-3-319-12415-5_1.
  3. Ward, Peter D (2006). "Impact from the Deep". Scientific American.
  4. Butterfield, N. J. (2007). "Macroevolution and macroecology through deep time". Palaeontology 50 (1): 41–55. doi:10.1111/j.1475-4983.2006.00613.x.

Nodiadau golygu

Llyfryddiaeth golygu

Dolennau allanol golygu