Uibhist a Deas
Un o ynysoedd Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Uibhist a Deas (Saesneg: South Uist).
280px | |
Math |
ynys ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Lochboisdale ![]() |
Poblogaeth |
1,754 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
Sir |
Ynysoedd Allanol Heledd, South Uist ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
32,026 ha ![]() |
Uwch y môr |
620 metr ![]() |
Gerllaw |
Cefnfor yr Iwerydd, Sea of the Hebrides ![]() |
Cyfesurynnau |
57.2667°N 7.3167°W ![]() |
Hyd |
32 cilometr ![]() |
![]() | |
Saif Uibhist a Deas i'r de o ynys Beinn na Faoghla (Benbecula), gyda chob gerllaw Carnan yn cario'r briffordd A865 i'w cysylltu, ar draws culfor Bagh nam Faoilean. Yn y de, mae Uibhist a Deas ers 2003 wedi ei chysylltu ag ynys Eiriosgaigh (Eriskay) gerllaw Ludag, lle mae hefyd fferi yn ei chysylltu ag ynys Barraigh.
Yn fras, rhennir yr ynys yn dair rhan: Taobh a Tuath yn y gogledd, Ceann a Deas yn y de a Na Meadhanan rhyngddynt. Y prif bentref yw Loch Baghasdail (Lochboisdale), ger y llyn o'r un enw. Oddi yma, mae fferi yn hwylio i Oban a Mallaig ar dir mawr yr Alban.
Mae'r boblogaeth tua 1,800, gyda'r mwyafrif yn siarad Gaeleg. Yn 2006, prynwyd yr ynys gan y trigolion.