Eirisgeidh
Ynys yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Èirisgeidh (Saesneg: Eriskay). Saif rhwng ynysoedd mwy De Uist a Barraigh, a chysylltir hi a De Uist gan gob a adeiladwyd yn 2001[1]. Mae siop, eglwys a Chanolfan Gomuned ar Eirisgeidh. Mae fferi Caledonian MacBrayne rhwng Ceann a' Ghàraidh ar Eirisgeidh ac Ardmore ar Barraigh.[2] Poblogaeth Èirisgeidh yn 2001 oedd 133.
![]() | |
Math |
ynys, Cyngor Cymuned ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
143 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
Sir |
Ynysoedd Allanol Heledd, Uibhist a Deas ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
700 ha ![]() |
Gerllaw |
Cefnfor yr Iwerydd, Sea of the Hebrides ![]() |
Cyfesurynnau |
57.0756°N 7.2914°W ![]() |
![]() | |
Er mai ynys fechan ydyw, mae'n adnabyddus am nifer o resymau. Yma y glaniodd Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie) gyda saith o gymdeithion ar 23 Gorffennaf 1745 i ddechrau gwrthryfel y Jacobitiaid. Yn 1941, yma y bu llongddrylliad yr SS Politician gyda'i chargo o wisgi; digwyddiad a anfarwolwyd yn Whisky Galore.