De natura rerum Beda

llawysgrif Peniarth MS 540B o'r 12g

Mae’r De natura rerum Beda, sef llawysgrif Peniarth MS 540B, yn enghraifft brin o lawysgrif o’r 12g. Mae'n debygol iawn i'r llawysgrif darddu o Gymru. Mae traethawd gwyddonol Beda yn gynwysedig yn y llawysgrif.

De natura rerum Beda
Tudalen o lawysgrif De natura rerum Beda (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsg. MS 540B, ffol.1r)
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi12 g Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Beda Ddoeth

golygu

Roedd Beda yn athronydd, yn ddiwynydd ac yn hanesydd o Northumbria (673-735).

Bu'n Treulio'r rhan helaeth o'i fywyd ym mynachlogydd Jarrow Wearmouth, lle bu dylanwad mawr Cristnogol arno. Yn 692, ordeiniwyd Beda yn ddiacon ac yn 703 cafodd ei wneud yn offeiriad.

Ysgrifennodd Beda lu o destunau hanesyddol, diwinyddol a gwyddonol. Ysgrifennodd yr Historia ecclesiastica gentis Anglorum (‘Hanes Eglwysig y Saeson’). Dyma gyflwyniad hanes Lloegr o amser Iŵl Cesar hyd at 731. O ganlyniad i'r gwaith yma, rhoddwyd iddo'r teitl, ‘tad hanes Lloegr’. Wedi iddo farw, daeth yn adnabyddus fel Beda Ddoeth ac mae modd dod o hyd i’w feddrod yng Nghadeirlan Durham.

De natura rerum

golygu

O ganlyniad i'w gredoau crefyddol, roedd Beda yn ymhyfrydu yn y byd naturiol, megis creadigaeth Duw ac mae'r De natura rerum, sef ei draethawd gwyddonol ar ffenomenau naturiol, yn wyddoniadur o’r gwyddorau fel y’u dehonglwyd yr adeg hynny.

Mae gwaith Sant Isidore o Seville, Pliniws ac eraill yn rhoi esboniad o theori wyddonol gyfoes ym meysydd amser, cosmoleg a rhifyddeg ymhlith syniadau eraill. Mae 51 o benodau yn y gwaith cyflawn ac mae’r testun wedi’i gopïo i lawysgrifau a leolir mewn archifdai ar hyd y byd.

Disgrifiad a'r addurn

golygu

Mae gan y llawysgrif rwymiad lledr, sydd yn cynnwys dau ddarn dwyddalennog o bedair dalen ganol cwîr. Mae siap y memrwn yn afreolaidd ac yn galed gyda llawer o dyllau. Cafodd y testun ei addurno â llythrennau cyntaf addurnol ac mae gan tri o’r rhain (‘N’,‘M’ ac 'F') bennau a ffurfiau anifeilaidd rhubanog, tebyg iawn i’r rhai a welir mewn llawysgrifau Gwyddelig y cyfnod.

Hanes y llawysgrif

golygu

Anhysbys yw hanes cynnar y llawysgrif, er bod posibilrwydd cryf iddi darddu o Lanbadarn Fawr yn ystod hanner cyntaf y 12g. Mae’r gair ‘phia’ ar waelod ffolio 4v a chredir ei fod yn llawysgrifen yr hynafiaethydd Robert Vaughan o Hengwrt (c.1592–1667).

Mae'n bosib bod y llawysgrif wedi bod yn rhan o gasgliad Hengwrt hyd 1859 pryd y daeth i feddiant W W E Wynne o Beniarth. Gwerthodd W W E Wynne y llawysgrifau i Syr John Williams ym 1904.

Darllen pellach

golygu
  • Benedicta Ward, The Venerable Bede (Llundain, 2002)
  • Geoffrey Chapman, The Venerable Bede (Llundain, 1990)
  • Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd, 2000)
  • Gerald Bonner, gol., Famulus: Essays in Commemoration of the Thirteenth Centenary of the Birth of the Venerable Bede (Llundain, 1976)
  • M. L. W. Laistner & H. H. King, A Hand-List of Bede Manuscripts (Efrog Newydd, 1943)
  • Terry Deary, All about Bede: The Life and Times of the Venerable Bede 672-735 AD (Sunderland, 1996)

Dolen allanol

golygu