Newyddiadurwr, addysgwr, gwesteiwr podlediadau ac ymgyrchydd elusennol o Lundain oedd y Fonesig Deborah Anne James DBE (1 Hydref 198128 Mehefin 2022). Ar ôl cael ddiagnosis o ganser y coluddyn anwelladwy yn 2016, dechreuodd gynnal y podlediad You, Me and the Big C ar BBC Radio 5. Y pwn oedd ei brwydrau gyda’i salwch.

Deborah James
Ganwyd1 Hydref 1981 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mehefin 2022 Edit this on Wikidata
o canser colorectaidd Edit this on Wikidata
Woking Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, awdur, podcastiwr, codwr arian, athro ysgol, colofnydd, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Honorary doctorate from the University of East Anglia Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bowelbabe.org Edit this on Wikidata

Cafodd James ei geni yn Llundain, yn ferch i Heather ac Alistair James.[1] Cafodd ei haddysg yn Ysgol Salesian, Chertsey, Swydd Surrey, gan fynd ymlaen yn ddiweddarach i astudio economeg ym Mhrifysgol Caerwysg. Priododd â Sebastian Bowen a chawsant ddau o blant gyda'i gilydd.[1]

Bu James yn ddirprwy brifathrawes yn arbenigo mewn cyfrifiadureg ac e-ddysgu yn Ysgol Salesian, Chertsey. Symudodd i Ysgol Matthew Arnold yn Staines-upon-Thames lle bu'n gweithio hyd nes iddi gael diagnosis o ganser y coluddyn. Dechreuodd weithio fel newyddiadurwr a cholofnydd i'r Sun, gan fanylu ar ei thaith canser.[1] Ym mis Mawrth 2018, dechreuodd gyflwyno podlediad ar gyfer BBC Radio 5, ochr yn ochr â chyd-gleifion canser Lauren Mahon a Rachael Bland, a bu farw’r olaf ohonynt ym mis Medi 2018. [2]

Llyfryddiaeth golygu

  • F *** You Cancer: How to Face the Big C, Live Your Life and Still Be Yourself[3][4]


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Deborah James interview: 'I don't want to be a victim… being a sob story won't change anything'". The Times (yn Saesneg). 20 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 10 Mai 2022.
  2. "BBC presenter Rachael Bland's final podcast revealed after her death". Digital Spy (yn Saesneg). 13 September 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 10 Mai 2022.
  3. "Deborah James: how to live it up when you're dying". The Times (yn Saesneg). 9 Gorffennaf 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 10 Mai 2022.
  4. "Deborah James: 'We threw everything at COVID. Why can't we do the same for cancer'". The Daily Telegraph (yn Saesneg). 1 Hydref 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Chwefror 2022. Cyrchwyd 10 Mai 2022.