Debrett's
Cyhoeddwr arbenigol yw Debrett's a sefydlwyd ym 1769 sy'n cyhoeddi cyfeiriaduron achyddol ar bendefigaeth y Deyrnas Unedig a'r bonedd, yn bennaf y gyfrol Debrett's Peerage & Baronetage. Mae Debrett's hefyd wedi cyhoeddi cyfeirlyfrau ar safon ymddygiad, y tymor, priodasau, coginio, a phynciau eraill.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cyhoeddwr ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1769 ![]() |
Pencadlys | Mayfair ![]() |
Gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | https://www.debretts.com/ ![]() |
Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o Peerage of England, Scotland, and Ireland gan John Debrett yn Llundain ym 1802. Bellach mae Debrett's Peerage & Baronetage yn cynnwys gwybodaeth ar y Teulu Brenhinol Prydeinig, y bendefigaeth, Cyfrin Gynghorwyr, Arglwyddi Sesiwn yr Alban, barwnigion, a phenaduriaid claniau'r Alban.[1]
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Debrett's Peerage. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2014.
Dolen allanolGolygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Debrett's