Mayfair
Ardal yng nghanol Llundain, prifddinas Lloegr, yw Mayfair, a leolir yn Ninas Westminster.
Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | West End Llundain |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Marylebone, Soho |
Cyfesurynnau | 51.5103°N 0.1472°W |
Cod OS | TQ285805 |
Cod post | W1K, W1J |
Hanes
golyguEnwir Mayfair ar ôl gŵyl flynyddol May Fair a barhaodd bythefnos, a gynhaliwyd o 1686 ar safle Shepherd Market heddiw, hyd iddo gael ei wahardd yno ym 1764. Hyd 1686, cynhaliwyd y May Fair yn Haymarket, ac ar ôl 1764, symudwyd i Fair Field yn Bow gan fod y trigolion a oedd yn weddol gyfoethog yn teimlo fod y ffair yn 'tynnu tôn y lle i lawr'.[1]
Mae Mayfair yn ffinio â Hyde Park i'r gorllewin, Oxford Street i'r gogledd, Piccadilly a Green Park i'r de a Regent Street i'r dwyrain. Datblygwyd y rhan helaeth o'r ardal rhwng canol yr 17g a chanol yr 18g, fel ardal breswyl ffasiynol, gan nifer o berchnogion, y pwysicaf o'r rhain oedd y teulu Grosvenor. Prynodd y teulu Rothschild rannau mawr o Mayfair yn ystod yr 19g. Mae rhydd-ddaliad rhan helaeth o Mayfair yn eiddo i Ystad y Goron.
Masnachol yw'r ardal yn bennaf erbyn hyn, gyda swyddfeydd mewn tai sydd wedi cael eu haddasu ac adeiladau newydd.
Mae adnabyddiaeth a bri Mayfair wedi tyfu oherwydd ei ddynodiad fel yr eiddo drytaf yn y set Brydeinig o'r gêm Monopoly.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-18. Cyrchwyd 2010-02-12.
Dolenni allanol
golygu- Safle'r May-fair gwreiddiol Archifwyd 2008-06-16 yn y Peiriant Wayback
- BBC: Reviving the Mayfair May Fair
- Hanes Mayfair Archifwyd 2008-03-29 yn y Peiriant Wayback