Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Bil Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Pasiwyd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 gan Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2022 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 08 Medi 2022. Fe'i cyflwynwyd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.[1]

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022
Enghraifft o'r canlynolDeddf Senedd Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Disgrifir y ddeddf fel, 'Deddf gan Senedd Cymru i sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac i wneud darpariaeth arall ynghylch addysg drydyddol (sy'n cynnwys addysg uwch, addysg bellach a hyfforddiant) ac ymchwil.'

Roedd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

  • Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, fel y corff rheoleiddio annibynnol sy'n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Bydd addysg drydyddol yn cwmpasu addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac uwch, prentisiaethau a chweched dosbarth;
  • Cofrestru a rheoleiddio darparwyr addysg drydyddol;
  • Sicrhau ac ariannu addysg drydyddol ac ymchwil; Prentisiaethau;
  • Diogelu dysgwyr, gweithdrefnau cwynion ac ymgysylltu â dysgwyr;
  • Gwybodaeth, cyngor a chanllawiau; a Darpariaethau amrywiol a chyffredinol.[2]

Diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru golygu

Gyda pasio'r ddeddf daethpwyd â Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i ben, corff a sefydlwyd yn 1992.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. llyw.cymru; adalwyd 20 Chwefror 2023.
  2. busnes.senedd.cymru; adalwyd 20 Chwefror 2023.