Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Ar 1 Awst 2024 newidiwyd enw'r Comisiwn yn Medr er ei fod yn cael ei hadnabod wrth yr enw llawn, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (defnyddir y talfyriad Cymraeg, CADY, yn Saesneg: Commission for Tertiary Education and Research; CTER) yn stadudol. Mae Medr yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, gan ddisodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) a chyfuno agweddau eraill o waith strategol cynllunio addysg yn y maes. Roedd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022) yn un o’r biliau olaf i gael Cydsyniad Brenhinol gan Frenhines Elisabeth II, cyn iddi farw yn gynharach yn y flwyddyn. Sefydlwyd y Comisiwn yn gyfreithiol yn 2022 a dod yn weithredol ar 1 Awst 2024 [1] a bydd yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio'r sectorau canlynol:
- Addysg bellach (AB), gan gynnwys colegau a chweched dosbarth ysgolion
- Addysg uwch (AU), gan gynnwys ymchwil ac arloesi
- Addysg i oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned
- Prentisiaethau a hyfforddiant [2]
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Awst 2024 |
Rhagflaenydd | Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru |
Cefndir
golyguComisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Ellen Hazelkorn i gynnal adolygiad o lywodraethu, rheoleiddio a goruchwylio addysg ôl-orfodol yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dau brif argymhelliad:
- datblygu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y sector AHO
- sefydlu corff hyd braich newydd sy'n gyfrifol am oruchwylio, cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth y sector.
Ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Gweinidog Addysg Senedd Cymru, Jeremy Miles AS, y byddai CCAUC yn dod i ben fel rhan o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.[3] Gydag hynny daeth y Comisiwn i fodolaeth - er y tueddir i alw'r Comisiwn wrth ei thalfyriad Saesneg, CTER. Bu sefydlu CETR yn un o’r diwygiadau mwyaf arwyddocaol i fframwaith system addysg Cymru ers Datganoli. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i arloesi gydag un awdurdod rheoleiddio, goruchwylio a chydlynu cyffredinol ar gyfer addysg drydyddol. [1]
Rhoi trefn ar addysg ôl-orfodol
golyguYn ôl yr awduron, cyfrifoldeb Medr yw gwireddu’r weledigaeth a nodir yn argymhellion adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn yn 2016, Tuag at 2030: Fframwaith ar gyfer datblygu system addysg ôl-orfodol o’r radd flaenaf i Gymru, o system ôl-orfodol integredig a chydlynol. Meddai'r Athro Hazelkorn yn ei hadroddiad:
“Mae un corff goruchwylio ar gyfer addysg drydyddol yn gwneud synnwyr ar adeg pan oedd cenhedloedd yn gynyddol yn rhoi mwy o sylw polisi i’r rhai nad ydynt yn mynychu’r brifysgol, ac felly’n edrych yn gynyddol ar ddatblygu systemau ôl-orfodol “mwy cydlynol”.[1]
Gweithredu
golyguDechreuodd y sefydliad rai gweithrediadau ym mis Medi 2023. Yn wreiddiol, cynigiwyd bod yn gwbl weithredol ym mis Ebrill 2024, er ym mis Ionawr 2024, cafodd ei ddyddiad gweithredu llawn ei ohirio tan fis Awst 2024. Yn lle hynny, byddai'r comisiwn yn dechrau datblygu cynlluniau ym mis Ebrill ond dim ond yn gweld trosglwyddo pwerau’n llawn o CCAUC ym mis Awst 2024.[4]
Penodwyd Simon Pirotte OBE yn Brif Weithredwr cyntaf Medr ym mis Ebrill 2023 gan adael ei swydd fel Prif Weithredwr Coleg Penybont. Bu Pirotte gweithio'n y sector addysg ers dros ddeng mlynedd ar hugain mewn swyddi ar draws addysg uwch, addysg bellach a’r sector ysgolion. Bu hefyd yn gweithio fel Pennaeth Adran yn Los Angeles, UDA ar Ysgoloriaeth Fulbright am flwyddyn.[5]
Newid enw i Medr
golyguMewn llythyr a gylchredwyd i rhanddeiliad y Comisiwn gan Simon Pirotte, y Prif Weithredwr, nodwyd y rheswm dros frandio'r Comisiwn wrth yr enw 'Medr'; "Gellir defnyddio medr i gyfeirio at 'sgìl' neu 'allu', sy'n adlewyrchu'r ffaith mai elfen greiddiol o'n gwaith bob amser fydd sicrhau bod ein sector trydyddol yn cefnogi'r doniau a'r galluoedd sydd gan bob unigolyn. Mae'r enw hefyd yn ddigon syml i weithio'n dda ar raddfa'r DU ac yn rhyngwladol ... Rydym hefyd wedi rhoi ystyriaeth ofalus i Safonau'r Gymraeg a'r gynsail a osodwyd gan sefydliadau eraill (fel Estyn ac Adnodd) o fabwysiadu un term Cymraeg fel enw."
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fel Endid Cyfreithiol - Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)". Gwefan ColegauCymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
- ↑ "Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil". Gwefan Llywodraeth Cymru. 21 Medi 2022. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
- ↑ "Welsh higher education funding body to be dissolved and new 'national steward' role created". Nation.Cymru. 1 Tachwedd 2021.
- ↑ "Datganiad Ysgrifenedig: Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - Diweddariad". www.llyw.cymru. 2024-01-24. Cyrchwyd 2024-05-21.
- ↑ "Cyhoeddi Simon Pirotte OBE fel Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd". Gwefan ColegauCymru. 19 Ebrill 2023.
Dolenni allanol
golygu- Gwybodaeth am y Comiwsiwn ar wefan Llywodraeth Cymru (Cymraeg)