Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918
Roedd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn Ddeddf Seneddol a basiwyd i ddiwygio'r system etholiadol ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon. Fe'i gelwir weithiau fel y Pedwerydd Ddeddf Diwygio. Y ddeddf hon oedd y cyntaf i gynnwys bron pawb yn y system wleidyddol a chynnwys menywod am y tro cyntaf, gan ymestyn yr etholfraint gan 5.6 miliwn o ddynion[1] ac 8.4 miliwn o fenywod.[2] Deddfodd nifer o arferion newydd mewn etholiadau, gan gynnwys gwneud preswyliaeth mewn etholaeth benodol yn sail i'r hawl i bleidleisio, tra'n sefydlu y dull etholiadol cyntaf-i'r felin a gwrthod cynrychiolaeth gyfrannol.[3]
Enghraifft o'r canlynol | election act, Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad | 1918 |
Dyddiad cyhoeddi | 1918 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Cefndir
golyguHyd yn oed ar ôl pasio'r Trydydd Ddeddf Diwygio yn 1884, dim ond 60% o ddeiliaid cartrefi gwrywaidd dros 21 oed oedd â'r bleidlais. Yn dilyn erchylliadau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ni fyddai miliynau o filwyr a oedd wedi dychwelyd, wedi bod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol hwyr. (Bu'r etholiad blaenorol ym mis Rhagfyr 1910. Roedd Deddf y Senedd 1911 wedi gosod uchafswm Senedd yn bum mlynedd, ond gohiriodd gwelliant i'r Ddeddf yr etholiad cyffredinol tan ar ôl i'r rhyfel orffen.) Dechreuodd mater hawl pleidlais i fenywod gasglu momentwm yn ystod hanner olaf y 19g yn seiliedig ar waith meddylwyr rhyddfrydol megis John Stuart Mill. Roedd y Swffragetau a'r Swffragetiaid wedi gwthio ar eu cyfer eu hunain i gael eu cynrychioli cyn y rhyfel, ond ychydig iawn a gyflawnwyd er gwaethaf ymosodiad treisgar gan rai fel Emmeline Pankhurst ac Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched.
Codwyd y mater gan y Swffraget Millicent Fawcett yng Nghynhadledd y Llefarydd ym 1916. Galwodd am i'r oedran pleidleisio gael ei ostwng i 18 i ddymchwel y mwyafrif gwrywaidd. Awgrymodd hefyd, pe na fyddai hyn yn bosibl, y dylai menywod 30-35 mlwydd oed gael eu rhyddfreinio. Gwelwyd mwyafrif o unfrydedd trawsbleidiol yn y dadleuon yn Nhŷ'r Senedd. Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cartref, George Cave (Con) o fewn y glymblaid llywodraethol y Ddeddf:
“ | War by all classes of our countrymen has brought us nearer together, has opened men’s eyes, and removed misunderstandings on all sides. It has made it, I think, impossible that ever again, at all events in the lifetime of the present generation, there should be a revival of the old class feeling which was responsible for so much, and, among other things, for the exclusion for a period, of so many of our population from the class of electors. I think I need say no more to justify this extension of the franchise.[4] | ” |
Termau'r Ddeddf
golyguMae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn ehangu pleidlais trwy ddiddymu bron pob cymhwyster eiddo ar gyfer dynion a thrwy rhyddfreinio menywod dros 30 a gyfarfu â chymwysterau lleiafswm eiddo. Derbyniwyd rhyddfreinio'r grŵp olaf hwn fel cydnabyddiaeth o'r cyfraniad a wnaed gan weithwyr amddiffyn menywaidd. Fodd bynnag, nid oedd menywod o hyd yn wleidyddol gyfartal â dynion (a allai bleidleisio o 21 oed); llwyddwyd i gael cydraddoldeb etholiadol llawn yn Iwerddon yn 1922, ond ni ddigwyddodd hyn ym Mhrydain hyd at Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl (Etholfraint Cydradd) 1928.
Amodau'r Ddedd oedd:[5]
- Enillodd pob dyn dros 21 y bleidlais yn yr etholaeth lle'r oeddent yn preswylio. Gallai dynion a oedd wedi troi 19 yn ystod y gwasanaeth mewn cysylltiad â'r Rhyfel Byd Cyntaf hefyd bleidleisio hyd yn oed os oeddent o dan 21, er bod peth dryswch ynghylch a allent wneud hynny ar ôl cael eu rhyddhau o'r gwasanaeth. Esboniodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1920 hyn yn gadarnhaol, er bod hyn ar ôl etholiad cyffredinol 1918.
- Derbyniodd menywod dros 30 oed y bleidlais os oeddent naill ai'n aelod neu'n briod ag aelod o'r Gofrestr Llywodraeth Leol, perchennog eiddo, neu'n berson graddedig mewn etholaeth Prifysgol.
- Rhai seddi wedi'u hailddosbarthu i drefi diwydiannol.
- Pob pol ar gyfer etholiad i'w gynnal ar ddyddiad penodol, yn hytrach na thros nifer o ddiwrnodau mewn gwahanol etholaethau fel o'r blaen.[6]
Roedd costau'r swyddogion dychwelyd am y tro cyntaf i gael eu talu gan y Trysorlys. Cyn etholiad cyffredinol 1918, trosglwyddwyd y costau gweinyddol ar yr ymgeiswyr i'w talu, yn ogystal â'u treuliau personol.
Newidiadau gwleidyddol
golyguRoedd maint yr etholwyr wedi treblu o'r 7.7 miliwn a oedd â hawl i bleidleisio yn 1912 i 21.4 miliwn erbyn diwedd 1918. Roedd y merched nawr yn cyfrif am tua 43% o'r etholwyr. Pe bai menywod wedi cael eu rhyddfreinio ar sail yr un gofynion â dynion, byddent wedi bod yn y mwyafrif oherwydd colli dynion yn y rhyfel. Gall hyn esbonio pam y setlwyd ar 30 oed.[7]
Yn ychwanegol at y newidiadau i'r bleidlais, sefydlodd y Ddeddf hefyd y system bresennol o gynnal etholiadau cyffredinol ar un diwrnod, yn hytrach na chael ei chynnal dros gyfnod o wythnosau (er mai dim ond un diwrnod ym mhob etholaeth y byddai'r pleidleisio ei hun yn digwydd),[6] ac fe gyflwynodd y gofrestr etholiadol flynyddol.
Pleidleisiau
golyguCafodd y bil ar gyfer Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ei basio gan fwyafrif o 385 i 55 yn Nhy'r Cyffredin ar 19 Mehefin 1917. Roedd yn rhaid i'r bil barhau i fynd trwy Dŷ'r Arglwyddi, ond nid oedd yr Arglwydd Curzon, llywydd y Gynghrair Genedlaethol ar gyfer Gwrthwynebiad Pleidlais Menywod, eisiau gwrthdaro â'r Ty Cyffredin ac felly ni wnaeth wrthwynebu'r bil. Roedd llawer o wrthwynebwyr eraill y Mesur yn Nhy'r Arglwyddi wedi'u siomi pan wrthododd i weithredu fel eu llefarydd. Pasiwyd y bil gan 134 i 71 o bleidleisiau. Cynyddodd pleidlais menywod eto yn 1928 gan iddynt barhau i fod yn 52.7% o'r etholwyr.
Canlyniad
golyguYr etholiad cyntaf a gynhaliwyd dan y system newydd oedd etholiad cyffredinol 1918. Cynhaliwyd y bleidlais ar 14 Rhagfyr 1918, ond ni ddechreuwyd cyfrif y pleidleisiau tan 28 Rhagfyr 1918. (Gweler http://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/SN04512/SN04512.pdf)
Ar ôl i'r Ddeddf hon roi pleidlais i oddeutu 8.4 miliwn o fenywod, pasiwyd Deddf Senedd (Cymhwyster Menywod) 1918 ym mis Tachwedd 1918, gan ganiatáu i ferched gael eu hethol i'r Senedd. Roedd nifer o ferched yn sefyll i gael eu hethol i Dŷ'r Cyffredin yn 1918, ond dim ond un, sef ymgeisydd Sinn Féin ar gyfer Dublin St. Patrick's, Constance Markievicz, a etholwyd; fodd bynnag, dewisodd beidio â chymryd ei sedd yn San Steffan ac yn hytrach eistedd yn Dail Eireann (y First Dail) yn Nulyn. Y wraig gyntaf i gymryd ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin oedd Nancy Astor ar 1 Rhagfyr 1919, ar ôl cael ei ethol yn AS Clymblaid Ceidwadol ar gyfer Plymouth Sutton ar 28 Tachwedd 1919.
Fel Aelodau Seneddol, enillodd menywod yr hawl i ddod yn weinidogion y llywodraeth. Y gweinidog cabinet menywaidd cyntaf ac aelod o'r Cyfrin Gyngor oedd Margaret Bondfield a oedd yn Weinidog Llafur rhwng 1929 a 1931.[8]
Roedd rhai cyfyngiadau i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl: nid oedd yn creu system gyflawn o un person, un bleidlais. Mwynhaodd 7% o'r boblogaeth bleidlais lluosog yn etholiad 1918: dynion dosbarth canol yn bennaf a gafodd bleidlais ychwanegol oherwydd etholaeth prifysgol (cynyddodd y Ddeddf hon bleidlais y brifysgol trwy greu seddi Prifysgolion Cyfunol Saesneg) neu ledaenu busnes i etholaethau eraill. Roedd anghydraddoldeb arwyddocaol hefyd rhwng hawliau pleidleisio dynion a menywod: gallai menywod bleidleisio dim ond os oeddent dros 30 oed. Roedd hyn trwy gynllun ac i wneud yn iawn am y lleihad mewn dynion yn dilyn y rhyfel byd cyntaf.
Ffynonellau
golygu- "Index of Representation of the People Bill". Hansard. Dates 1917-06-06 to 1918-11-04 relate to the bill enacted in 1918. Cyrchwyd 11 Medi 2016.
Darllen pellach
golygu- Robert Blackburn, "Laying the foundations of the modern voting system: The Representation of the People Act 1918", Parliamentary History 30.1 (2011): 33–52
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Harold L. Smith (12 Mai 2014). The British Women's Suffrage Campaign 1866–1928: Revised 2nd Edition. Routledge. t. 95. ISBN 978-1-317-86225-3.Check date values in:
|date=
- ↑ Martin Roberts (2001). Britain, 1846–1964: The Challenge of Change. Oxford University Press. t. 1. ISBN 978-0-19-913373-4.
- ↑ Blackburn (2011).
- ↑ Hansard HC Debs (22 May 1917) vol 93, C 2135: http://parlipapers.proquest.com/parlipapers/docview/t71.d76.cds5cv0093p0-0016, Accessed 17 Chwefror 2017.
- ↑ Fraser, Sir Hugh. "The Representation of the People Act, 1918 with explanatory notes". Internet Archive. Cyrchwyd 28 Ionawr 2009.
- ↑ 6.0 6.1 Syddique, E. M. "Why are British elections always held on Thursdays?". The Guardian. Cyrchwyd 10 Ebrill 2017.
- ↑ "Electoral Registers Through The Years", on electoralregisters.org website. Accessed 27 Gorffennaf 2015
- ↑ Heater, Derek (2006). Citizenship in Britain: A History. Edinburgh University Press. t. 145. ISBN 9780748626724.