Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
Pasiwyd Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 dccc 3, ar 7 Medi 2017[1] Rhoddodd hyn yr hawl i Senedd Cymru amrywio treth ar dirlenwi gan godi incwm a cheisio newid arferion ailgylchu a gwaredu sbwriel.
Enghraifft o'r canlynol | Deddf Senedd Cymru |
---|---|
Iaith | Saesneg, Cymraeg |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Disodlodd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yr hen dreth dirlenwi yng Nghymru o fis Ebrill 2018.[2] a gweinyddir gan Awdurdod Cyllid Cymru ac mewn cydweithrediad gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.
Cyd-destun
golyguCyhoeddwyd bod y dreth am gael ei datganoli i Gymru yn 2016 a'r disgwyl y byddai'n cael ei defnyddio yn fwy ar gyfer newid agweddau ac arferion pobl wrth waredu sbwriel yn hytrach nag ar gyfer codi symiau sylweddol o arian. Disgwyy byddai'r dreth yn codi £27m yn 2018-19.[3] Nodwyd bod bron i 2,000,000 tunnell o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi yng Nghymru bob blwyddyn, ond roedd disgwyl i'r cyfanswm, a'r cyfanswm trethi, ostwng yn y dyfodol wrth i lefelau ailgylchu gynyddu.
Cyfradd Treth
golyguCeir 3 cyfradd ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi:[4]
- Cyfradd is ar gyfer deunyddiau sy’n diwallu’r amodau sy’n cael eu hamlinellu yn y Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
- Cyfradd safonol ar gyfer yr holl ddeunyddiau eraill
- Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi ar gyfer gwarediadau trethadwy sy’n cael eu gwneud mewn mannau heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig
Cododd y cyfradd dreth yn ystod tair mlynedd gyntaf y dreth newydd.
Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
golyguRhan o waddol y dreth newydd oedd sefydlu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi lle byddai arian o'r dreth yn cael ei ddosrannu i fudiadau a busnesau ar gyfer gwella arferion amgylcheddol ac ailgylchu.
Gweinyddir y Gronfa gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Bydd y cynllun yn cefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol lleol mewn ardaloedd y mae gwaredu gwastraff i safleoedd tirlenwi yn effeithio arnynt.
Mae'r gronfa tn agored i unrhyw fudiad ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar un neu fwy o'r themâu canlynol:
- bioamrywiaeth - creu Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth er budd cynefinoedd a rhywogaethau amrywiol
- lleihau gwastraff a dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi - hyrwyddo ymwybyddiaeth ac arferion gorau er mwyn lleihau maint y gwastraff a gynhyrchir
- gwelliannau amgylcheddol ehangach - dod â budd ehangach i gymunedau drwy wella ansawdd lle
Mae'r grantiau'n werth rhwng £5,000 a £49,999. Mis Ionawr 2020 oedd dyddiad cau y ceisidau cyntaf erioed ar gyfer y Gronfa.[5]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017: Testun
- ↑ https://llyw.cymru/treth-gwarediadau-tirlenwi-canllaw
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/38104621
- ↑ https://llyw.cymru/cyfraddau-treth-datgelu-tirlenwi
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-27. Cyrchwyd 2020-07-27.