Belarws
Gweriniaeth dirgaeedig yn nwyrain Ewrop yw Belarws (hefyd Belarws, Belarŵs neu Rwsia Wen; Belarwseg a Rwseg: Беларусь). Mae'n ffinio â Rwsia i'r dwyrain, ag Wcrain i'r de, â Gwlad Pwyl i'r gorllewin, ac â Lithwania a Latfia i'r gogledd. Minsk yw ei phrifddinas – mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys Brest, Grodno, Gomel, Mogilev, Vitebsk a Bobruisk. Coedwigir un traean o'r wlad, ac mae amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yn ganolog i'r economi. Belarws yw un o’r gwledydd yr effeithwyd yn fwyaf difrifol arni gan ymbelydredd niwclear o ddamwain atomfa Chernobyl o 1986 yn yr Wcrain.
![]() | |
Рэспубліка Беларусь (Belarwseg) | |
![]() | |
Arwyddair |
Hospitality Beyond Borders ![]() |
---|---|
Math |
gwladwriaeth sofran ![]() |
Enwyd ar ôl |
Rws Gwyn ![]() |
| |
Prifddinas |
Minsk ![]() |
Poblogaeth |
9,408,400 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
Ni, Felarwsiaid ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Roman Golovchenko ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Belarwseg, Rwseg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Dwyrain Ewrop ![]() |
Arwynebedd |
207,600.496983 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Yr Wcráin, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd ![]() |
Cyfesurynnau |
53.5283°N 28.0467°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Cyngor y Gweinidogion ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Y Cynulliad Cenedlaethol ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywydd Belarws ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Alexander Lukashenko ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prif Weinidog ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Roman Golovchenko ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) |
54,442 million US$ ![]() |
CMC y pen |
5,733 US$ ![]() |
Arian |
Belarusian ruble ![]() |
Canran y diwaith |
6 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
1.62 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.798 ![]() |
Yn ystod ei hanes, bu rhannau Belarws dan reolaeth sawl gwlad, gan gynnwys Dugiaeth Polatsk, Archddugiaeth Llethaw, Cymanwlad Gwlad Pwyl-Llethaw, ac Ymerodraeth Rwsia. Daeth Belarws yn weriniaeth Sofietaidd ym 1922. Datganodd y weriniaeth ei sofraniaeth ar 27 Gorffennaf 1990. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, datganodd Belarws ei hannibyniaeth yn swyddogol ar 25 Awst 1991. Alexander Lukashenko yw arlywydd y wlad ers 1994. Yn ystod ei reolaeth, mae Lukashenko wedi gweithredu polisïau y cyfnod Sofietaidd, er gwaethaf gwrthwynebiadau oddi wrth bwerau gorllewinol. Mae Belarws yn trafod gyda Rwsia i uno'r ddwy wlad yn un wladwriaeth a elwir yn Undeb Rwsia a Belarws, er bod y trafodaethau yn stolio ers sawl blwyddyn.
DaearyddiaethGolygu
HanesGolygu
Rhanbarth y dalaith mawr Rws Ciefaidd oedd Belarws, tan y farwolaeth y Brenin Yaroslav I "y Doeth" ym 1054.