Defnyddiwr:Cymrodor/Canllaw
Ym mrawddeg cyntaf erthygl, cyfeirir at y pwnc mewn llythrennau trwm wrth roi tri chollnod pob ochr iddo. Mae dau gollnod pob ochr yn creu llythrennau italig.
Cynnwys Erthygl
golyguPenawdau
golyguHafalnodau pob ochr sy'n creu penawdau ac is-benawdau i rannu'r erthygl yn adrannau. Mae'r tabl cynnwys yn ymddangos yn yr erthygl yn awtomatig.
Dolenni
golyguMewn cromfachau sgwâr dwbl mae dolenni mewnol, gyda'r testun yn ymddangos mewn lliw coch os nad oes erthygl o'r enw. Defnyddir y beipen (|) ble mae'r ddolen yn wahanol i'r testun, er enghraifft wrth dreiglo yn Gymraeg.
Mae hefyd yn hawdd cynnwys dolenni allanol, megis http://www.wicicymru.org, [1], neu Wici Cymru.
Mewnosod cyfryngau
golyguYn ogystal â delweddau, mae'n bosib mewnosod dogfennau, fideos a chlipiau sain o Gomin Wikimedia (http://commons.wikimedia.org)
Rhestri
golyguMae dau fath o restr;
- Eitemau heb
- eu rhifo
- Eitemau wedi
- eu rhifo
Templedi
golyguYr Wyddfa Eryri | |
---|---|
Llun | Yr Wyddfa o'r Garn |
Uchder | 1085m (3560tr) |
Lleoliad | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Mae defnyddio templedi yn hwyluso creu rhai rhannau arbennig o fewn erthyglau. Daw enw'r templed yn syth ar ôl y cromfachau cyrliog agoriadol yna mae'r beipen yn nodi'r elfennau gwahanol nes i ddwy gromfach gyrliog gau'r templed.
Cyfeirio
golyguMae'n arfer da a phwysig i roi cyfeirnodau wrth grybwyll ffeithiau sy'n tarddu o ymchwil neu wrth ddyfynnu gwaith neu eiriau rhywun arall. Sylwer y defnydd isod o'r templedi {{Dyf gwe ...}} a {{Dyf llyfr ...}}.
- Un o egwyddorion Cynghrair Cymunedau Cymraeg yw gwneud y Gymraeg yn iaith naturiol bywyd bob dydd.[1]
- Credai Cymdeithas yr Iaith y dylai enwau Cymraeg fod ar holl enwau llefydd a thai mewn datblygiadau newydd sy'n cael eu cymeradwyo gan awdurdodau cynllunio lleol.[2]
Ymddangosir rhifau'r cyfeirnodau yn awtomatig a dim ond templed syml dan bennawd adran sydd ei angen i ddangos y rhestr cyfeiriadau...
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cynghrair Cymunedau Cymraeg. Egwyddorion Cynghrair Cymunedau Cymraeg. Adalwyd ar 20 Ebrill 2014.
- ↑ (Mawrth 2014) Bil Eiddo a Chynllunio er Budd ein Cymunedau (Cymru) 2014. Cymdeithas yr Iaith, tud. 9. URL
Categorïau
golyguMae'n llawer haws defnyddio Wicipedia os yw erthyglau yn cael eu categoreiddio. Nodwch gategorïau reit ar ddiwedd yr erthygl. Maent yn ymddangos yn y troedyn.