Diolch am y golygiad ar Hanes Cymru. Yn anffodus mae'n llawn gwallau iaith a sillafu eitha sylfaenol, felly rwy wedi dadwneud y cyfan. Mae'n darllen fel cyfieithiad o destun Saesneg air am air heb efallai ddealltwriaeth o'r Gymraeg. Os wyt am ehangu'r erthygl, byddai'n well efallai creu'r erthygl mewn tudalen o fewn y gofod Defnyddiwr:Ecclestheswimmer a wedyn gofyn i eraill ei brawf-ddarllen. Ond does dim sicrwydd y byddai gan unrhywun yr amser i gywiro testun hir a'i dderbyn fel gwelliant ar y brif erthygl. --Dafyddt (sgwrs) 00:31, 16 Chwefror 2021 (UTC)

Cytuno gyda Dafydd. 2A00:23C6:9908:CD00:D08C:129C:6532:CAAD 12:56, 16 Chwefror 2021 (UTC)
Mae dy frawddeg 'Er nad yw'n wlad fawr o ran ei maint,' yn esiampl. Mae hyn yn gymharol. Ceir >30 o wledydd sofran, sy'n llai na Chymru o ran poblogaeth ac arwynebedd. Pam felly ei ddweud dan 'hanes Cymru'? Mae Wicipedia i fod yn wrthrychol. Oes angen, felly dweud 'Gwlad fach yw Cymru'? Mae'n ddatganiad hollol amherthnasol. Mae'r cymalau canlynol yn llawn o wallau: Mae tuedd bresennol yw i gorbwyso neu hanesyff , neu o ganlyniad o frodorwyr... Awgrym: defnyddia CYSILL i gywiro'r sillafu, yna'i roi mewn corlan ddrafftio, fel mae DafyddT yn ei awgrymu. Diolch. 2A00:23C6:9908:CD00:D08C:129C:6532:CAAD 13:25, 16 Chwefror 2021 (UTC)