Pokémon Ultra Sun ac Ultra Moon
Gemau fideo chwarae rôl yw Pokémon Ultra Sun a Pokémon Ultra Moon o 2017 y datblygwyd gan Game Freak, a gyhoeddwyd gan The Pokémon Company a Nintendo ar gyfer y Nintendo 3DS. Maen nhw'n rhan o seithfed genhedlaeth y gyfres o brif gemau Pokémon, ac maen nhw'n fersiynau dyrchafedig o'r gemau Pokémon Sun a Pokémon Moon o'r flwyddyn flaenorol. Nhw yw'r gemau Pokémon olaf ar gyfer y system Nintendo 3DS. Cafwyd eu cyhoeddi ym Mehefin 2017, a chafodd eu rhyddhau ar 17 Tachwedd 2017.
Yn yr un modd â gemau blaenorol, mae'r gemau'n dilyn taith hyfforddwr Pokémon ifanc, ac yn cymryd lle yn y rhanbarth Alola - wedi'i seilio ar Hawaii. Mae gwahaniaethau rhwng rhain a Sun a Moon yn cynnwys stori wahanol a nodweddion chwarae newydd, cymeriadau newydd, Pokémon a ffurfiau Pokémon newydd, gan gynnwys ffurfiau newydd o'r Pokémon chwedlonol Necrozma fel masgotiaid y fersiynau.
Cafodd y gemau dderbyniad cadarnhaol ar y cyfan, gyda beirniaid yn canmol y nodweddion a ychwanegwyd i Sun a Moon, er i rai ei feirniadu am i fwyafrif y stori fod yn rhy debyg. Erbyn diwedd 2018, roedd Ultra Sun ac Ultra Moon wedi gwerthu dros wyth miliwn o gopïau ledled y byd.
Y Gêm
golyguYn debyg i gemau blaenorol yn y gyfres, mae Pokémon Ultra Sun ac Ultra Moon yn gemau fideo chwarae rôl gydag elfennau antur. Er eu bod wedi'u gosod mewn fersiwn arall o ranbarth Alola, mae'r fecaneg a'r graffeg yn aros yr un fath i raddau helaeth â Pokémon Sun a Moon, a'r prif wahaniaethau yw bod ei stori wedi'i haddasu bellach gan gynnwys y Sgwad Ultra Recon.[1] Mae'r dyluniadau cymeriad chwaraewr hefyd yn wahanol, er eu bod yn dal yn bosib addasu eu golwg.[2] Mae "Global Missions", lle mae chwaraewyr ledled y byd yn gweithio tuag at nod ar y cyd, hefyd yn dychwelyd.[3]
Nodweddion newydd
golyguMae Ultra Sun ac Ultra Moon yn cyflwyno Bwystfilod Ultra (Ultra Beasts) newydd: Stakataka, Blacephalon, Poipole a'i esblygiad, Naganadel.[4] Yn ogystal, mae yna ffurfiau newydd ar gyfer y ffurfiau Pokémon chwedlonol Necrozma, a alwyd yn "Dusk Mane" a "Dawn Wings", a gyflawnir trwy amsugno'r Pokémon chwedlonol Solgaleo a Lunala, yn y drefn honno - mae'n debyg yn gysyniadol i Kyurem Du a Kyurem Gwyn o Black 2 a White 2. Hefyd, ychwanegwyd ffurf newydd o Lycanroc, Dusk Lycanroc. Gall chwaraewyr nawr deithio o amgylch rhanbarth Alola i gasglu Sticeri Totem, sy'n caniatáu i'r chwaraewr dderbyn Pokémon maint Totem. Ychwanegwyd tri gweithgaredd newydd: Mantine Surf, sy'n caniatáu i'r chwaraewr syrffio ar draws moroedd y rhanbarth - mae hefyd yn ffordd arall o ennill Pwyntiau Brwydr; Clwb Lluniau Alola, sy'n caniatáu i chwaraewyr dynnu lluniau o'u cymeriad gyda Pokémon; ac Ultra Warp Ride, sy'n caniatáu i'r chwaraewr deithio trwy amryw o Ultra Wormholes a dod ar draws Bwystfilod Ultra yn eu byd eu hunain - yn ogystal â dod o hyd i Pokémon chwedlonol o bob gêm yn y gyfres, hyd at dair gwaith, a thebygolrwydd uwch i Pokémon sgleiniog ymddangos.[5][6] Mae Symydiadau-Z newydd ar gael ar gyfer nifer o Pokémon, gan gynnwys Solgaleo, Lunala, Lycanroc, Mimikyu a Necrozma. Mae'r Pokédex Rotom nawr yn cynnwys Roto-Loto, sy'n caniatáu i'r chwaraewr ddefnyddio hwb, yn debyg i Bwerau-O o'r genhedlaeth flaenorol; a Phŵer Rotom-Z, sy'n caniatáu i chwaraewyr ddefnyddio hyd at ddau Symudiad-Z ym mhob brwydr.[7]
Lleoliad
golyguMae'r gemau'n rhoi pwyslais ar y Pokémon chwedlonol Necrozma[8] sydd, yn y fersiynau hyn, yn cymryd lle Lusamine fel prif elyn y gemau. Yn yr un modd â Sun a Moon, mae'r gemau wedi'u gosod yn rhanbarth Alola sy'n seiliedig ar Hawaii. Er eu bod i raddau helaeth yr un peth, mae'r gemau newydd yn cynnwys adeiladau a lleoliadau ychwanegol o'u cymharu â'r gemau blaenorol.[9] Mae nifer o'r prif gymeriadau a ymddangosodd yn Sun a Moon, fel Lusamine a'i phlant, yn dychwelyd yn y gêm gyda newidiadau sylweddol.[10] Cyflwynir grŵp newydd, y Sgwad Ultra Recon, gyda chymeriadau gwahanol yn y ddwy gêm. Mae Ultra Megalopolis, dinas helaeth lle mae Necrozma wedi dwyn pob ffynonellau golau, wedi'i leoli yng Ngofod Ultra a gellir ei gyrraedd trwy'r Ultra Wormholes.[11]
Mae grŵp gelyn arall, Tîm Rainbow Rocket, yn cael sylw mewn stori ôl-gêm, ac yn cynnwys pob un o'r arweinwyr grŵp gelyn blaenorol a ymddangosodd trwy gydol y gyfres, o Giovanni o Pokémon Red, Blue a Yellow, i Lysandre o Pokémon X ac Y. Mae Pokémon chwedlonol o genedlaethau blaenorol hefyd yn ymddangos.[12]
Stori
golyguYn debyg i Sun a Moon, mae cymeriad y chwaraewr yn un ar ddeg oed ac yn symud i Ynys Melemele yn Alola gyda'i mam. Yn ôl y traddodiad, mae gan y chwaraewr gystadleuwyr ar eu taith: Hau, bachgen cyfeillgar sy'n cyfeilio'r chwaraewr trwy gydol y stori, a Gladion, mab dieithr Lusamine. Yn ystod eu teithiau yn Alola yn dilyn heriau ynys traddodiadol y rhanbarth, maent yn cwblhau treialon sy'n cynnwys brwydrau gyda Pokémon pwerus o'r enw Pokémon Totem, ac yn dod ar draws nifer o grwpiau - un drygionus o'r enw Tîm Skull, o dan arweiniad dyn o'r enw Guzma; un mwy elusennol o'r enw'r Sefydliad Aether, o dan arweiniad menyw o'r enw Lusamine; ac un arall o'r enw Sgwad Ultra Recon, a ddaeth o ddimensiwn gwahanol, yr Ultra Megalopolis, lle mae Necrozma wedi dwyn ei olau. Mae llawer o'r stori'n ymdrin â nifer o Pokémon chwedlonol: Cosmog wedi'i llysenwi Nebby, sydd yn y pen draw yn esblygu i fod yn Solgaleo yn Ultra Sun, neu Lunala yn Ultra Moon; a Necrozma, sy'n ceisio cipio'r golau o Alola.
Yn ystod yr uchafbwynt, mae Lusamine yn defnyddio Nebby i greu porth i'r Ultra Megalopolis, lle mae hi a Guzma yn ceisio ymladd yn erbyn Necrozma ar gyfer y Sgwad Ultra Recon. Fodd bynnag, maent yn methu ac yn cael eu taflu yn ôl i'w dimensiwn yn nes ymlaen yn y stori, gyda Necrozma yn eu dilyn. Mae Necrozma yn ymladd yn erbyn Nebby, sydd bellach yn Solgaleo neu Lunala, ac yn ennill. Yna mae Necrozma yn amsugno'r Pokémon chwedlonol, yn troi i mewn i'w ffurf Dusk Mane neu Dawn Wings yn y fersiwn berthnasol, ac yn rhyddhau'r Bwystfilod Ultra i Alola cyn ymladd y chwaraewr. Ar ôl i'r chwaraewr ei drechu, mae Necrozma yn dianc i'r Ultra Megalopolis, gan fynd â golau'r byd gydag ef tra bod y chwaraewr, gyda chymorth y Sgwad Ultra Recon, yn teithio ar y naill ai Solgaleo neu Lunala (yn dibynnu ar fersiwn y gêm - y Pokémon sydd ddim ar clawr y gêm) trwy'r Gofod Ultra i gyrraedd yr Ultra Megalopolis. Yno, mae'r chwaraewr yn brwydro yn erbyn Necrozma, y tro hwn yn ei wir ffurf, Ultra Necrozma, am dynged y byd ac i achub Nebby. Mae'r chwaraewr yn ei drechu unwaith eto, gan ddod â golau yn ôl i Alola. Ar ôl cwblhau'r treialon, mae'r chwaraewr yn mynd ymlaen i frwydro yn erbyn Elite Four sydd newydd ei sefydlu, ac yna'ncuro Hau i ddod yn Bencampwr Cynghrair Pokémon go iawn cyntaf Alola.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Pokémon Ultra Sun & Moon Isn't A Sequel, Has A Different Main Story With Other Worlds To Visit - Siliconera". Siliconera (yn Saesneg). 2017-10-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 2017-11-01.
- ↑ Hayes, Matthew (18 August 2017). "New 'Pokemon Ultra Sun', 'Moon' Trailer Teases Return Of A Beloved Lost Feature". WWG. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 September 2017. Cyrchwyd 21 September 2017.
- ↑ Tapsell, Chris (15 December 2017). "Pokémon Ultra Sun Ultra Moon Global Missions - rewards, how to register and Global Mission targets explained". Eurogamer (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 January 2018. Cyrchwyd 2 January 2018.
- ↑ Frank, Allegra (5 October 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon get dark — literally — in new trailer". Polygon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 October 2017. Cyrchwyd 5 October 2017.
- ↑ Valens, Ana (22 September 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon trailer shows off new features". Dot Esports. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 October 2017. Cyrchwyd 23 September 2017.
- ↑ Hoffer, Christian. "Mewtwo is Catchable in Pokemon Ultra Sun and Ultra Moon, Other Details Revealed". WWG (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 October 2017. Cyrchwyd 30 October 2017.
- ↑ Knezevic, Kevin (12 October 2017). "Pokemon Ultra Sun And Moon Let You Use Two Z-Moves Per Battle". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2017. Cyrchwyd 30 October 2017.
- ↑ Skrebels, Joe (18 August 2017). "Pokemon Ultra Sun and Ultra Moon Story Details Revealed". IGN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 September 2017. Cyrchwyd 22 September 2017.
- ↑ Hayes, Matthew (18 August 2017). "New 'Pokemon Ultra Sun', 'Moon' Trailer Teases Return Of A Beloved Lost Feature". WWG. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 September 2017. Cyrchwyd 21 September 2017.
- ↑ Frank, Allegra (18 August 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon's trailer shows off a very different Alola". Polygon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 August 2017.
- ↑ Frank, Allegra (5 October 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon get dark — literally — in new trailer". Polygon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 October 2017. Cyrchwyd 5 October 2017.Frank, Allegra (5 October 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon get dark — literally — in new trailer". Polygon. Archived from the original on 5 October 2017. Retrieved 5 October 2017.
- ↑ "Pokemon Ultra Sun/Ultra Moon details - Team Rainbow Rocket, Legendary Pokemon, Battle Agency, more - Nintendo Everything". Nintendo Everything. 2 November 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 November 2017. Cyrchwyd 2 November 2017.