Gemau fideo chwarae rôl yw Pokémon X a Pokémon Y o 2013 y datblygwyd gan Game Freak a gyhoeddwyd gan The Pokémon Company a Nintendo ar gyfer y Nintendo 3DS. Nhw yw gemau cyntaf y chweched genhedlaeth o'r prif gemau fideo Pokémon. Cafwyd eu cyhoeddi yn Ionawr 2013 gan gyn-arlywydd Nintendo Satoru Iwata trwy ddigwyddiad Nintendo Direct arbennig. Cafodd Pokémon X ac Pokémon Y eu rhyddhau'n fyd-eang yn Hydref 2013, felly nhw oedd y gemau cyntaf a gyhoeddir gan Nintendo i gael rhyddhad cydamserol ar draws y byd ym mhob rhanbarth allweddol.

Yn yr un modd â germau blaenorol, mae'r ddwy gêm yn dilyn taith hyfforddwr Pokémon ifanc a'i ffrindiau, wrth iddynt hyfforddi Pokémon. Y tro hwn, mae'r gemau'n cymryd lle yn rhanbarth Kalos - sydd wedi'i seilio ar Ffrainc - gyda'r nod o rwystro cynlluniau'r sefydliad troseddol Tîm Flare, wrth geisio herio Pencampwr Cynghrair Pokémon. Cyflwynodd X ac Y 72 rhywogaeth o Pokémon newydd, ac mae'n cynnwys nodweddion newydd fel y math tylwyth teg (fairy) newydd, y gallu i addasu golwg eich cymeriad, diweddariad i'r fecaneg frwydr a hyfforddi, a graffeg 3D polygonaidd wedi'i rendro'n llwyr yn hytrach na'r sbreitiau a ddefnyddiwyd mewn cenedlaethau blaenorol. Mae ffurf newydd o esblygiad Pokémon, o'r enw "Mega Evolution", yn caniatáu i chwaraewyr esblygu ymhellach nifer o rywogaethau o Pokémon sydd eisoes wedi esblygu'n llawn, gyda 30 o'r esblygiadau hyn ar gael yn y gemau hyn. Mae'r ddau deitl yn annibynnol o'i gilydd, ond yn cynnwys yr un plot i raddau helaeth, ac er y gellir chwarae pob un ar wahân, mae amnewid Pokémon rhwng y ddwy gêm yn angenrheidiol, fel yn gemau'r gorffennol, er mwyn i chwaraewr gael gafael ar bob rhywogaeth o Pokémon.

Derbyniodd X ac Y adolygiadau cadarnhaol gan feirniaid, a oedd yn canmol y datblygiadau yn y modd chwarae a'r arloeson. Roedd beirniaid yn hoff o olwg y gemau a'r newid i fodelau 3D, er roedd beirniadaeth ar stori'r gemau. Roedd y gemau hynod ddisgwyliedig yn llwyddiant masnachol, gan werthu pedair miliwn o gopïau ledled y byd yn ystod y penwythnos cyntaf, gan guro record eu rhagflaenwyr Pokémon Black a White, a nhw oedd y gemau a werthodd gyflymaf ar y 3DS. Erbyn 30 Medi 2020, cafodd cyfanswm cyfunol o 16.49 miliwn o gopïau eu gwerthu, yn gwneud X ac Y y gemau a werthodd ail-orau ar y system ar ôl Mario Kart 7.

Y Gêm golygu

Mae Pokémon X ac Y yn gemau fideo chwarae rôl gydag elfennau antur, wedi'u cyflwyno mewn persbectif uwchben y trydydd person. Nhw hefyd yw'r gemau Pokémon cyntaf i gynnwys graffeg 3D sy'n gydnaws â'r consolau yn nheulu Nintendo 3DS. Mae'r chwaraewr yn rheoli hyfforddwr Pokémon ifanc sy'n mynd ar gyrch i ddal a hyfforddi creaduriaid o'r enw Pokémon ac ennill brwydrau yn erbyn hyfforddwyr eraill. Trwy drechu Pokémon mewn brwydrau ar sail tro, mae Pokémon y chwaraewr yn ennill profiad, gan ganiatáu iddynt lefelu a chynyddu eu hystadegau brwydr, dysgu symudiadau newydd, ac mewn rhai achosion, esblygu i fod yn Pokémon mwy pwerus. Fel arall, gall chwaraewyr dal Pokémon gwyllt yn ystod hap-cyfarfyddiadau trwy eu gwanhau mewn brwydr ac yn eu dal gyda pheli Pokê ball, i'w hychwanegu at barti'r chwaraewr. Mae chwaraewyr hefyd yn gallu brwydro ac amnewid Pokémon gyda chwaraewyr dynol eraill gan ddefnyddio ffwythiannau rhyngrwyd y Nintendo 3DS, a gafodd eu gwella yng ngemau'r chweched genhedlaeth. Yn yr un modd â gemau blaenorol yn y gyfres, dim ond yn X neu Y y mae rhai Pokémon ar gael, gan annog chwaraewyr i amnewid gydag eraill er mwyn cael gafael ar bob Pokémon.[1]

Nodweddion newydd golygu

Pokémon X ac Y yw'r gemau cyntaf yn y brif gyfres a gyflwynir mewn graffeg polygonal cwbl 3D, gan ganiatáu ar gyfer mwy o ryngweithio gyda'r tros-fyd a graffeg fwy deinamig yn ystod brwydrau[2]. Gall chwaraewyr hefyd addasu ymddangosiad eu hyfforddwr Pokémon, gan ddewis rhyw, tôn croen a lliw gwallt ar ddechrau'r gêm, a gallant yn ddiweddarach prynu gwisgoedd ac ategolion yn y gêm i newid edrychiad eu cymeriad. Yn ymuno â'r cenedlaethau blaenorol o Pokémon mae rhywogaethau newydd, fel y Pokémon dechreuol newydd; Chespin, Fennekin a Froakie, a'r Pokémon sydd, o fewn y byd Pokémon ffuglennol, yn cael eu disgrifio fel Pokémon chwedlonol, sef Xerneas, Yveltal a Zygarde.[3][4] Bydd chwaraewyr hefyd yn gallu dewis o un o'r Pokémon cychwynnol clasurol o Pokémon Red a Blue nes ymlaen yn y gêm.[5] Cyflwynir y math tylwyth teg (fairy) newydd ar gyfer Pokémon hen a newydd, y math newydd cyntaf a ychwanegwyd at y gyfres ers Pokémon Gold a Silver.[6] Dywedodd datblygwyr y gêm taw rheswm am yr ychwanegiad yw cydbwyso'r math draig (dragon).[7]

Elfen newydd yn y gyfres yw Mega Evolution, lle gall Pokémon sydd eisoes wedi esblygu'n llawn, fel Mewtwo a Lucario, ddefnyddio eitemau arbennig o'r enw "Mega Stones" i esblygu ymhellach dros dro i ffurfiau Mega yn ystod brwydr,[8] ac mae cwpl o Pokémon hyd yn oed yn cael mwy nag un ffurf Mega bosibl.[9] Hefyd wedi'u cyflwyno mae brwydrau awyr, a chyfarfyddiadau torf. Brwydrau awyr yw brwydrau sy'n digwydd canol-awyr lle ond Pokémon sy'n hedfan sy'n gallu brwydro; ychwanegwyd y rhain i ddangos galluoedd 3D y gêm a darparu persbectif newydd o frwydro. Mae cyfarfyddiadau torf yn gyfarfyddiadau gwyllt un yn erbyn pump a ddyluniwyd i fod yn anoddach na brwydrau gwyllt safonol un yn erbyn un.[10][11] Mae Pokémon-Amie yn gadael i chwaraewyr ryngweithio â'u Pokémon gan ddefnyddio sgrin gyffwrdd a chamera'r 3DS, trwy chwarae gyda nhw a rhoi danteithion iddynt i gryfhau eu bondiau rhwng hyfforddwr a Pokémon, gan effeithio yn y pen draw ar y ffordd y mae'r Pokémon yn gweithredu yn ystod brwydrau. Mae Super Training yn cynnwys gemau mini amrywiol sy'n helpu i adeiladu ystadegau sylfaenol Pokémon y chwaraewr, sydd yn ei dro yn datgloi bagiau hyfforddi y gall Pokémon eu defnyddio i dyfu'n gryfach ar eu pennau eu hunain.[12]

Lleoliad golygu

Mae'r gemau'n cymryd le yn rhanbarth Kalos siâp seren, un o nifer o ranbarthau o'r fath ar draws y byd Pokémon ffuglennol. Mae'r rhanbarth, sydd yn canolbwyntio ar harddwch, wedi'i ysbrydoli'n helaeth gan Ffrainc ac, i raddau llai, Ewrop gyfan.[13][14] Mae gan lawer o leoliadau a thirnodau ar draws Kalos ysbrydoliaeth yn y byd go iawn, gan gynnwys Prism Tower (Tŵr Eiffel), Amgueddfa Gelf Lumiose (y Louvre) a'r cerrig y tu allan i Dref Geosenge (cerrig Carnac).[15][16] Mae Pokémon gwyllt yn byw ym mhob cornel o ranbarth Kalos, llawer ohonynt yn ymddangos yn yr ardal hon yn unig.

Cyfeiriadau golygu

  1. Hernandez, Patricia (12 October 2013). "Pokemon X Versus Pokemon Y: Which To Buy". Kotaku. Gawker Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 January 2018. Cyrchwyd 2 January 2018.
  2. "ONM Blog: Trailer of the week: Pokemon X and Y". Official Nintendo Magazine. 19 May 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 June 2013. Cyrchwyd 24 May 2013.
  3. "『ポケットモンスター エックス・ワイ』最初のパートナーとなる3匹のポケモンと伝説のポケモン"ゼルネアス"、"イベルタル"が公開! - ファミ通.com". Famitsu (yn Japaneeg). 15 January 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 February 2013. Cyrchwyd 15 January 2013.
  4. O'Mara, Matthew. "Meet Xerneas and Yveltal, two new legendary Pokémon". Financial Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 February 2013. Cyrchwyd 9 January 2013.
  5. Futter, Mike (4 September 2013). "Pokemon X: Original Starters Get Mega Evolutions In X & Y Trailer". Game Informer. GameStop. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 September 2013. Cyrchwyd 11 September 2013.
  6. Reynolds, Matthew (20 September 2013). "Pokemon X and Y won't receive online patches to rebalance moves, types". Digital Spy. Hearst Magazines. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 October 2013. Cyrchwyd 26 October 2013.
  7. Reynolds, Matthew (20 September 2013). "Pokemon X and Y won't receive online patches to rebalance moves, types". Digital Spy. Hearst Magazines. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 October 2013. Cyrchwyd 26 October 2013.
  8. Fahey, Mike (9 August 2013). "Here's How Pokemon X And Y's New Mega Evolutions Work". Kotaku. Gawker Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 October 2016. Cyrchwyd 15 February 2018.
  9. Fahey, Mike (13 September 2013). "Mega Mewtwo X Is Cool. More Gender-Specific Pokemon Forms Are Cooler". Kotaku. Gawker Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 January 2018. Cyrchwyd 15 February 2018.
  10. Masuda, Junichi; Yoshida, Hironobu (19 September 2013). "Pokemon X/Y: WHY?! Director Masuda himself answers!". GamesRadar (Cyfweliad). Cyfwelwyd gan Zach Betka. Future plc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 August 2017. Cyrchwyd 15 February 2018.
  11. "Pokemon X and Y's Horde Battles and Sky Battles revealed". Polygon. Vox Media. 11 June 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 August 2013. Cyrchwyd 4 September 2013.
  12. "A Brief Look At Pokemon Amie And Super Training In Pokémon X And Y - Siliconera". Siliconera. Curse. 12 October 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 January 2018. Cyrchwyd 2 January 2018.
  13. Campbell, Colin (5 July 2013). "How France inspired Junichi Masuda in making Pokémon X and Y". Polygon. Vox Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 June 2016. Cyrchwyd 22 June 2016.
  14. Watts, Steve (23 October 2013). "How Europe inspired Pokemon X and Y's creature designs". Shacknews. GameFly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 July 2016. Cyrchwyd 30 January 2016.
  15. Campbell, Colin (5 July 2013). "How France inspired Junichi Masuda in making Pokémon X and Y". Polygon. Vox Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 June 2016. Cyrchwyd 22 June 2016.
  16. O'Farrell, Brad (10 April 2015). "How Pokemon's world was shaped by real-world locations". Polygon. Vox Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 June 2016. Cyrchwyd 22 June 2016.