Amdanaf i
Rwyf yn Gymro balch ac yn siaradwr Cymraeg. Gweithiais am dros ddwy flynedd fel Wicipediwr Preswyl cyn dod yn Wicipedia Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rwy'n eiriolwr dros gynnwys agored, yn hanesydd ac yn ffan fawr o Wikidata. Credaf fod Wikimedia a'r sector diwylliant yn bartneriaid naturiol, ac rwy'n awyddus i archwilio a dangos gwerth y bartneriaeth hon.
Rwy'n hoffi treulio fy amser hamdden yn yr awyr agored yn beicio, caiacio a chrwydro.
|
Fy ngwaith
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Wikimedia UK, a'r gymuned golygu wedi gweithio gyda'i gilydd ers 2014 i gynnal Wicipediwr Preswyl ac ym mis Awst 2017 penododd y Llyfrgell Genedlaethol Wicimediwr parhaol i'w staff. Bellach mae Wikipedia a'i chwaer-brojectau yn agwedd graidd o weithgareddau a gwasanaethau'r Llyfrgell. Gan adeiladu ar y cydweithio llwyddiannus rhwng y Llyfrgell, Wikimedia UK a chymuned Wiki, bydd y Wicimediwr Cenedlaethol yn arwain gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chasgliadau'r Llyfrgell, Cymru fel cenedl a'r iaith Gymraeg.
Nodau ac amcanion
- Hyrwyddo hanes, iaith a diwylliant Cymru ar lwyfannau Wikimedia.
- cynorthwyo efo adeiladu, tyfu a chynnal cymunedau o olygyddion newydd.
- Darparu mynediad agored i gynnwys digidol o'r Llyfrgell Genedlaethol trwy lwyfannau Wikimedia.
- Gweithio gyda'r Llywodraeth Cymru, y sectorau addysg a diwylliant i adeiladu partneriaethau, hyrwyddo mynediad agored ac annog ymgysylltu â phrosiectau Wikimedia.
- Sicrhau cyllid ar gyfer, a chyflwyno, prosiectau ar gyfer gwella ansawdd a chwmpas yr Wicipedia Cymraeg.
- Datblygu a chyflwyno prosiectau Wiki i wirfoddolwyr y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a datblygu'r cynllun ysgolheigion preswyl Wiki.
|