Defnyddiwr:Jason.nlw/Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol/Prosiectau


Projects

Mae'r Llyfrgell wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar nifer o brosiectau a ariennir gan Grantiau sy'n canolbwyntio ar wella cynnwys Cymraeg ac mae'r Wicimediwr Cenedlaethol hefyd wedi bod yn archwilio ffynonellau cyllid eraill er mwyn darparu digwyddiadau a phrosiectau arloesol. Isod ceir gwybodaeth am yr holl brosiectau a ariennir yn allanol.

Wicipop


Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect 3 mis o hyd, i hyfforddi golygyddion i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gerddoriaeth a'r diwylliant pop Cymraeg. Y nod yw creu 500 o erthyglau newydd trwy rhaglen o digwyddiadau, partneriaethau cynnyws a data a prawf efo awtomeiddio creu cynnwys o data. Mae modd dilyn y prosiect ar ein tudalen Wicibrosiect. Dyma ragor o lincs perthnasol.


WiciIechyd

Yn dilyn llwyddiant y prosiect Wicipop, a ariennir gan grant Llywodraeth Cymru, gwnaeth y Llyfrgell Genedlaethol gais llwyddiannus am £40,000 gan y Gymraeg Llywodraeth er mwyn rhedeg prosiect 9 mis gyda'r nod o wella cynnwys cysylltiedig ag iechyd ar y Wicipedia yr iaith Gymraeg. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned, gan sicrhau rhyddhau testunau iechyd trwyddedig agored a defnyddio data, a chyfieithu peirianyddol i gynhyrchu cynnwys Wikipedia yn yr iaith Gymraeg yn awtomatig. Darllen yr adroddiad llawn.

Wicipobl

Ariannwyd prosiect Wicipobl (Wiki People) gan Lywodraeth Cymru a'i reoli gan Wicimediwr Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Menter Iaith Món (Rhagfyr 2018-Mawrth 2019). Nod y prosiect oedd rhannu casgliadau LlGC yn agored er mwyn helpu i wella ansawdd y wybodaeth am bobl Cymru ar y Wicipedia Cymraeg. Cafodd y prosiect cyfan ei strwythuro gan ddefnyddio 'IMpact Playbook' Europeana er mwyn monitro'r effeith cydweithrediad GLAM-Wiki yn well. Cyhoeddwyd adroddiad effaith llawn.

Mae prosiect Wicipobl yn dod i ben yn swyddogol a bydd adroddiad llawn ar gael yn gyhoeddus mewn da bryd. Ond yn y cyfamser hoffwn i rannu rhai o'r prif ganlyniadau:

  • LLyfrgell Genedlaethol wedi rhannu bron 5,000 o portreadau i Comin ar trwydded CC-0.
  • Wedi creu Wikidata efo 100% o'r ddata yn ymdangos yn Gymraeg (Saesneg oedd y metadata)
  • Mae 25% or delweddau mewn defnydd ar Wiki mewn 55 iaeth.
  • Cynhaliwyd 4 digwyddiad mewn ysgolion - gyda 50 erthygl newydd
  • Cynhaliwyd Hacathon Hanes yn Caerdydd i gwneud defnydd o data agored LLGC
  • Adroddiad gan Defnyddiwr:Prosiect Wici Môn yn edrych ar sut, a pam i ddefnyddio Wici mewn ysgolion
  • Cynhaliwyd 'Cyfieith-a-thon' yn y Llyfrgell gen i cyfieithu erthyglau o'r Saesneg
  • Cyfanswm o 1444 erthygl newydd ar bobl Cymreig pwysig, a pobol enwog yn ein casgliad Portreadau genedlaethol

Ac yn amlwg mae'r gwaith wedi cael effaith positif ar stats y Wici Cymraeg:

  • Mwy o olygiadau yn ystod mis Ionawr nag unrhyw fis arall yn hanes Wicipedia
  • Y nifer uchaf o olygyddion gweithredol mewn mis ers 2013 (Ionawr)
  • Nifer o hits misol uchaf ers 2015.



Llinell Amser Bywgraffiadur

Ariannir prosiect llinell amser Bywgraffidur Cymru gan y MY-D Foundation in y Swistir. Rheolir y prosiect gan LlGC a datblygir y llinell amser gan Histropedia. Bydd y Llinell Amser yn defnyddio Wikidata a delweddau agored a rennir gan LlGC i ddatblygu llinell amser ddwyieithog er mwyn darganfod cynnwys y bywgraffiadur.

WiciAddysg Roedd hyn yn prosiect gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar y cyd gyda WiciMôn. Ariannwyd y prosiect gan Llywodraeth Cymru am cyfnod penodol rhwng Medi 2019 a Medi 2020.

Mae ymchwil yng Nghymru a thu hwnt wedi dangos tro ar ôl tro, bod rhan fwyaf o blant ysgol yn defnyddio Wicipedia er mwyn cyflawni gwaith cartref a gwaith cwrs. Os mae disgyblion yn ofalus, ac yn gwirio ffeithiau trwy'r cyfeiriadau a rhestrau darllen gall Wicipedia fod yn ffynhonnell ddefnyddiol iawn i'r maes addysg. Mae gan y Wicipedia Saesneg 6 miliwn erthygl gyda miloedd o wirfoddolwyr yn creu, gwella a chywiro erthyglau pob dydd.

Tua 130,000 o erthyglau sydd efo ni yn y Gymraeg, ond oherwydd maent ein cymuned mae llai o olygwyr ar gael i gywiro, gwella, ehangu neu greu cynnwys. Felly mae rhaid i lawer o blant ysgol trwy i'r Saesneg er mwyn dod o hyd i wybodaeth gyflawn. Yn ddelfrydol dyle bod modd i bob plentyn yng Nghymru dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel ymateb i'r broblem yma bu prosiect Wici Addysg yn anelu at ddechrau gwella'r sefyllfa, a sefydlu fformat ar gyfer rhedeg prosiectau tebyg yn y dyfodol. Prif dargedau'r prosiect oedd;

  • Cydweithio efo athrawon Hanes i adnabod y 100 erthygl bwysicaf i ddisgyblion.
  • Cydweithio efo athrawon i greu templed ar gyfer erthyglau sydd yn caniatáu cyflwyno gwybodaeth sydd yn addas a defnyddiol i blant Cyfnod Allweddol 2-5.
  • Adnabod a defnyddio adnoddau perthnasol sydd yn bodoli'n barod, megis adnoddau dysgu CBAC, HWB a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Creu neu wella'r 100 erthygl a nodwyd trwy addasu testun a defnyddio gwybodaeth o'r adnoddau a nodwyd.
  • Cynllunio a chreu 10 fideo byr i gyd-fynd efo'r 10 erthygl bwysicach.
  • Cynllunio a chyflawni 4 digwyddiad prawf efo ysgolion uwchradd i greu cynnwys syml am elfennau o hanes lleol.*

* Oherwydd Pandemig Covid 19 a'r cyfyngiadau gwaith a theithio roedd rhaid i ni addasu rau elfenau o'r prosiect. Nid oedd modd i ni cyfweld ag ysgolion neu cynnal digwyddiadau efo plant trwy'r ysgolion. Felly, yn lle cynllunio a chyflawni 4 digwyddiad prawf efo ysgolion uwchradd, cwblhawyd y gwaith canlynol;

  • Cydweithio efo pobol ifanc er mwyn creu cyfres o 7 fideo yn esbonio'r gwanhaol camau o olygu Wicipedia
  • Creu 10 fideo byr ychwanegol i gydfyd efo erthyglau am bynciau Cymraeg