Defnyddiwr:Liamjflynn/Dyn Vitruvius
Italian: L'uomo vitruviano | |
---|---|
Arlunydd | Leonardo da Vinci |
Blwyddyn | c. 1490 |
Maint | 34.6 cm × 25.5 cm × (13.6 mod × 10.0 mod) |
Lleoliad | Gallerie dell'Accademia, Venice, Italy |
Dyluniad gan y polymath Leonardo da Vinci tua 1490 yw'r Dyn Vitruvian (eidaleg: l'uomo vitruviano
[ˈlwɔːmo vitruˈvjaːno]; a elwir yn wreiddiol Le proporzioni del corpo umano secondo Vitruvio, yn llythrennol. 'Cyfrannau o'r corff dynol yn ôl Vitruvius')[1]. Dilynir gan nodiadau yn seiliedig ar waith y pensaer Rhufeinig Vitruvius. Mae'r dyluniad, a wnaed ag inc ar bapur, yn dangos dyn mewn dau ystum trosargraffedig gyda'i freichiau a'i goesau ar led mewn cylch a sgwâr. Mae'n cynrychioli cysyniad Leonardo da Vinci o'r cyfrannau corff dynol delfrydol.
Cyhoeddwyd gyntaf mewn atgynhyrchiad ym 1810. Fodd bynnag, ni chyrhaeddodd y darluniad ei enwogrwydd presennol nes iddo gael ei atgynhyrchu eto ar ddiwedd y 19eg ganrif. Nid yw'n amlwg a oedd wedi dylanwadu ar arfer artistig yn adeg Leonardo neu'n hwyrach. Fe'i amddifynnir yn y Gabinetto dei disegni e delle stampe o'r Gallerie dell'Accademia, yn Fenis, yr Eidal, o dan gyfeirnod 228. Megis y mwyafrif o weithiau ar bapur, dim ond yn achlysurol y'i arddangosir i'r cyhoedd, ac nid yw'n rhan o'r arddangosfa arferol. [2] [3] Arddangosid y gwaith yn ddiweddar yn arddangosfa gwaith Da Vinci'r rhwng 24 Hydref 2019 a 24 Chwefror 2020 fel rhan o gytundeb rhwng Ffrainc a'r Eidal. [4] [5]
Testun a theitl
golyguMae'r ddelwedd hon yn dangos y cymysgedd o fathemateg a chelf yn ystod y Dadeni yn ogsystal â dangos dealltwriaeth ddofn Leonardo o gyfranedd. Hefyd, mae'r dyluniad hwn yn sylfaen i Leonardo ymdrechu cysylltu dyn â natur. Credai fod teithi'r corff dynol yn gyfatebol i deithi'r bydysawd. "
Yn ôl y testun sy'n ei ganlyn, sydd wedi ei ysgrifennu o chwith, fe'i gwnaed fel astudiaeth o gyfrannau'r corff dynol (gwrywaidd) fel y disgrifir yn De Architectura 3.1.2–3 Vitruvius, a ddywed:
Er bod Leonardo yn dangos gwybodaeth eglur am Vitruvius, nid yw ei ddyluniad yn dilyn y disgrifiad o'r testun gwreiddiol. Wrth iddo lunio'r cylch a'r sgwâr mae ef wedi sylwi na all y sgwâr fod â'r un canol â'r cylch, [6] ac mae felly wedi'i ganoli ar y afl. Yr addasiad hwn yw'r rhan arloesol o ddyluniad Leonardo a'r hyn sydd yn ei wahaniaethu oddi wrth ddarluniau cynharach. Mae hefyd yn ymadawiad o gysyniad gwreiddiol Vitruvius gan ei fod wedi llunio'r breichiau lawer yn uwch na chopa'r pen, yn hytrach na'r ongl lawer is a awgrymodd Vitruvius, lle mae'r breichiau yn ffurfio llinellau sy'n croestorri ar y fogail.
Ysbrydoliaeth a chydweithrediad posibl
golyguRoedd llawer o artistiad wedi ceisio dylunio lluniau a fyddai'n bodloni honiad Vitruvius y gall corff dynol ffitio mewn i sgwâr yn ogystal â chylch. Francesco di Giorgio Martini oedd y cyntaf i wneud hyn yn y flynyddoedd 1480.[7][8] Mae'n bosibl bod Leonardo wedi'i ddylanwadu gan waith ei ffrind Giacomo Andrea, pensaer gyda phwy a oedd wedi ciniawa yn 1490. Cyfieira Leonardo hefyd yn uniongyrchol at "(dyn) Vitruvius Andrea".[9] Mae dyluniad Andrea yn cynnwys arwyddion ei fod wedi rhwbio rhywbeth allan, sydd yn awgrymu ei fod yn waith gwreiddiol.[10][11] Megis Dyn Vitruvius Leonardo, mae Andrea hefyd yn canoli ei gylch ar y fogail, ond dim ond un ystum sydd i'w weld.
Tarddiad
golyguPrynodd Giuseppe Bossi y llun gan Gaudenzio de 'Pagave, [12] a oedd wedi ei disgrifio, ei drafod a'i ddarlunio yn flaenorol.[13] Y flwyddyn ganlynol, echdynnodd y rhan o'i fonograff sy'n ymwneud â'r Dyn Vitruvian a'i gyhoeddi fel Delle opinioni di Leonardo da Vinci intorno alla simmetria de 'Corpi Umani (1811), gydag ymroddiad i'w ffrind Antonio Canova . [14]
Ar ôl i Bossi farw yn 1815, roedd y Gallerie dell'Accademia yn Fenis, yr Eidal wedi prynu'r Dyn Vitruvius yn 1822, yn ogystal â nifer o ddyluniadau Leonardo ac mae wedi aros yno ers hynny.[15] Ar ôl i'r Louvre wneud cais i'w fenthyca ar gyfer arddangosfa o waith Leonardo yn 2019, dadleuodd yr Italia Nostra fod y dyluniad yn rhy fregus i'w gludo.[16]
Gweler hefyd
golygu- Anthropometreg
- Canonau artistig cyfrannau'r corff
- Robot Leonardo
- Modulor
- T-pose, term animeiddio cyfrifiadurol ar gyfer ystum sy'n debyg i un o ddwy osgo'r Dyn Vitruvian
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref>
o'r enw "sopra", a ddiffinir yn <references>
, yn y testun blaenorol.
<ref>
o'r enw "sotto", a ddiffinir yn <references>
, yn y testun blaenorol.Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Secret Language of the Renaissance – Richard Stemp
- ↑ "The Vitruvian man". Leonardodavinci.stanford.edu. Cyrchwyd 2010-08-20.
- ↑ "Da Vinci's Code". Witcombe.sbc.edu. Cyrchwyd 2010-08-20.
- ↑ "Leonardo da Vinci's Unexamined Life as a Painter". Aleteia. 1 December 2019. Cyrchwyd 1 December 2019.
- ↑ "Louvre exhibit has most da Vinci paintings ever assembled". The Atlantic. 1 December 2019. Cyrchwyd 1 December 2019.
- ↑ "The Vitruvian Man – Leonardo Da Vinci". About.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 April 2014. Cyrchwyd 20 November 2018.
- ↑ Wolchover, Natalie (31 January 2012). "Did Leonardo da Vinci copy his famous 'Vitruvian Man'?". NBC News. Cyrchwyd 19 November 2018.
- ↑ Lester, Toby (1 February 2012). "The Other Vitruvian Man". Smithsonian Magazine. Cyrchwyd 19 November 2018.
- ↑ Lester, Toby (1 February 2012). "The Other Vitruvian Man". Smithsonian Magazine. Cyrchwyd 19 November 2018.
- ↑ Lester, Toby (1 February 2012). "The Other Vitruvian Man". Smithsonian Magazine. Cyrchwyd 19 November 2018.
- ↑ "Leonardo: The Man Who Saved Science". Secrets of the Dead. Season 16. Episode 5. 5 April 2017. 52 minutes in. PBS.
- ↑ Bossi, Giuseppe (1810)Del Cenacolo di Leonardo da Vinci libri quattro (in Italian) Milano: Stamperia Reale p.208ff
- ↑ "Bibliographic reference". Ursusbooks.com. Cyrchwyd 2010-08-20.
- ↑ "Bibliographical notice, no. 319". Lib.rochester.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 January 2009. Cyrchwyd 20 August 2010.
- ↑ "LEONARDO DA VINCI. THE UNIVERSAL MAN". venezia.net. Cyrchwyd 2014-02-13.
- ↑ Giuffrida, Angela (8 October 2019). "Leonardo da Vinci work 'too fragile' to be transported to France". The Guardian. Cyrchwyd 12 October 2019.
[[Categori:Y Gymhareb Aur]] [[Categori:Diagramau]] [[Categori:Corff dynol]] [[Categori:Celf y Dadeni]] [[Categori:Erthyglau sy'n cynnwys testun Eidaleg]]