Y Dadeni Dysg
Cyfnod chwyldroadol yn hanes Ewrop oedd y Dadeni Dysg, neu yn syml y Dadeni, sydd yn nodi'r trawsnewid o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod modern. Prif nodwedd yr oes hon oedd yr ailddeffroad yn nysgeidiaeth clasurol a'r ymdrech i adfywio ac adeiladu ar syniadau a gwerthoedd yr Henfyd, yn enwedig drwy ddyneiddiaeth. Dechreuodd ar droad y 13g a'r 14g yn yr Eidal, ac oddi yno ymledodd yn gyntaf yn y 15g i Sbaen a Phortiwgal ac yn yr 16g i'r Almaen, Ffrainc, y Gwledydd Isel, Lloegr, a Gwlad Pwyl. Datblygodd yng nghyd-destun argyfyngau'r Oesoedd Canol Diweddar a newidiadau cymdeithasol mawr y 14g a'r Diwygiad Protestannaidd yn y 15g. Yn ogystal â'r adfywiad clasurol a dyneiddiaeth, a fynegir drwy gyfryngau llenyddiaeth, celf, pensaernïaeth, a cherddoriaeth, nodir y Dadeni gan ddyfeisiau a darganfyddiadau newydd, gan gynnwys y cwmpawd, powdwr gwn, a'r wasg argraffu.
![]() Trem ar Fflorens, un o brif ddinasoedd y Dadeni Dysg. | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, arddull pensaernïol, mudiad diwylliannol ![]() |
Dechreuwyd | 14 g ![]() |
Daeth i ben | 17 g ![]() |
Rhagflaenwyd gan | celf Gothig, Yr Oesoedd Canol, Oesoedd Canol Diweddar ![]() |
Olynwyd gan | Baróc, Cyfnod Modern Cynnar ![]() |
Lleoliad | Gorllewin Ewrop ![]() |
Yn cynnwys | y Dadeni Cynnar, yr Uchel Ddadeni, Proto-Renaissance, Renaissance sculpture, paentio'r Dadeni, pensaernïaeth y Dadeni, cerddoriaeth y Dadeni, Llenyddiaeth y Dadeni, Renaissance dance, celf y Dadeni, y Dadeni Eidalaidd ![]() |
![]() |
Cyd-destun hanesyddolGolygu
Weithiau, caiff dechrau'r Dadeni Dysg ei ddyddio i farwolaeth yr Ymerawdwr Ffredrig II—yr arweinydd olaf i feddu ar reolaeth dros ogledd a chanolbarth yr Eidal—ym 1250. Dyma ddyddiad digon mympwyol, ond mae'n nodi un o'r elfennau pwysicaf a arweiniai at gychwyniadau'r Dadeni yn yr Eidal, sef annibyniaeth de facto y rhanbarthau hynny a fyddai'n ganolfannau diwylliannol y dyneiddwyr.
CelfGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
LlenyddiaethGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
CerddoriaethGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
GwyddoniaethGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Llinell amser o’r DadeniGolygu
- 1308–1321: Y bardd Dante Alighieri yn ysgrifennu ei gampwaith La Divina Commedia.
- 1353: Giovanni Boccaccio yn ysgrifennu'r Decamerone.
- 1434: Cromen y Duomo yn Fflorens yn cael ei gwblhau gan Filippo Brunelleschi.
- 1435: Cyhoeddir y traethawd dylanwadol De pictura ('Am beintiadau') gan Leon Battista Alberti, sydd yn cynnwys yr astudiaeth gwyddonol cyntaf o berspectif.
- 1453: Cwymp Caergystennin – trobwynt yn hanes rhyfela oherwydd y defnydd eang o bowdwr gwn.
- Tua 1455: Y Beibl argraffiedig cyntaf yn cael ei gynhyrchu gan Johann Gutenberg.
- 1469: Lorenzo de' Medici, a elwir yn Il Magnifico yn dod i rym yn Fflorens. Llenwa ei lys â deallusion mwyaf y cyfnod, gan gynnwys yr arlunwyr Sandro Botticelli a Michelangelo, y bardd Angelo Poliziano a'r athronwyr Marsilio Ficino a Giovanni Pico della Mirandola.
- 1477: Y llyfr argraffiedig cyntaf yn Lloegr (Dicets and Sayings of the Philosophers) yn cael ei gynhyrchu gan William Caxton. Sandro Botticelli yn peintio Primavera.
- 1485: Harri Tudur yn meddiannu coron Lloegr ym Mrwydr Bosworth.
- tua 1485: Sandro Botticelli yn peintio Genedigaeth Gwener.
- 1492: Christopher Columbus yn glanio yn y Byd Newydd.
- 1495–1498: Leonardo da Vinci yn peintio Y Swper Olaf ym Milan.
- 1501–1504: Michelangelo yn cerflunio ei gampwaith Dafydd.
- tua 1502: Leonardo da Vinci yn peintio Mona Lisa.
- 1508–1512: Michelangelo yn peintio golygfeydd o Genesis ar nenfwd y Cappella Sistina yn Rhufain.
- 1509: Harri VIII yn esgyn i orsedd Lloegr.
- 1516: Utopia gan syr Thomas More yn cael ei gyhoeddi.
- 1517: Damcaniaethau Wittenburg gan Martin Luther yn cael eu cyhoeddi, gan ddechrau’r Diwygiad Protestannaidd.
- 1532: Cyhoeddir Il Principe gan Niccolò Machiavelli.
- 1534: Harri VIII yn torri gyda Rhufain.
- 1536-1543: Deddf Uno Cymru a Lloegr.
- 1545: Dechrau’r Gwrth-Ddiwygiad, ymateb yr eglwys Babyddol i'r Diwygiad Protestannaidd.
- 1577–1580: Syr Francis Drake yn hwylio o amgylch y byd.
- 1588: Beibl William Morgan, y Beibl cyntaf yn y Gymraeg, yn cael ei gyhoeddi.
- 1600–1601: William Shakespeare yn ysgrifennu ei ddrama Hamlet.