Y Gronfa Genedlaethol Iddewig

golygu
 
Tystysgrif y Llyfr Euraidd; Y Gronfa Genedlaethol Iddewig

Sefydliad di-elw yw'r Gronfa Genedlaethol Iddewig (y JNF:,Keren Kayemet LeYisrael; Ha Fund HaLeumi gynt).  Fe'i sefydlwyd ym 1901 yn y Bumed Gyngres Seionaidd yn Basel, y Swistir, i brynu a datblygu tir ym Mhalesteina, (Israel a thiriogaethau Palestina yn ddiweddarach), ar gyfer gwladychu Iddewig. Hi oedd cangen weithredol Sefydliad Seionyddol y Byd.[1] Tair blynedd wedi sefydlu'r Gronfa, ym 1904 fe gofrestrodd y tir cyntaf a brynwyd ym mhentref Kfar Hittim yng Ngalilea Isaf. Yn yr un flwyddyn, prynwyd 2,000 dwnam yn Hulda, a'r 1,600 dwnam cyntaf yn Beit 'Arif, i'r dwyrain o Lyda (Lod), ac a ailenwyd yn Hebraeg yn Ben Shemen. Yn Ben Shemen mae coedwig gyntaf y Gronfa.[1] Ers hynny, mae'r Gronfa wedi prynu 2.6 miliwn dwnam o dir, wedi plannu 400,000 dwnam o goed, ac wedi 400,000 dwnam o dir pori.[2] Mae hefyd wedi adeiladu 230 o gronfeydd dŵr ac wedi creu rhyw 1,000 o fannau hamdden mewn coedwigoedd.[2]  

  1. 1.0 1.1 "The First Decade: 1901-1910". KKL-JNF. Cyrchwyd 14 Mawrth 2024.
  2. 2.0 2.1 "KKL-JNF: For a Sustainable Future for Israel". KKL-JNF. Cyrchwyd 14 Mawrth 2024.