Tiriogaethau Palesteinaidd

Enw ar un o sawl ardal o Balesteina a gafodd eu meddiannu gan Yr Aifft a'r Iorddonen yn 1947 ac yna gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967 yw Tiriogaethau Palesteinaidd.

Tiriogaethau Palesteinaidd
Mathtiriogaeth dan feddiant, tiriogaeth ddadleuol, endid tiriogaethol gwleidyddol Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,483,450 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolIsraeli-occupied territories, Gwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
LleoliadDe Lefant, Palesteina Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina, Israel Edit this on Wikidata
Arwynebedd8,220 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaIsrael, Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.8833°N 35.2°E Edit this on Wikidata
Map
Ariandinar (Iorddonen), Sicl newydd Israel, punt yr Aifft Edit this on Wikidata
Ffiniau Palesteina yn 1922.
Map o'r Lan Orllewinol.
Map o Lain Gaza.

Erbyn heddiw defnyddir y term i gyfeirio yn benodol at yr ardaloedd o fewn Palesteina sydd o dan lywodraeth y Palesteiniaid yn bennaf (42% o'r Lan Orllewinol a holl Lain Gaza sy'n cael ei reoli gan Hamas).

Nid yw'n cynnwys Ucheldiroedd Golan (y 'Golan Heights' yn Saesneg) a gipiwyd o ddwylo Syria yn 1967 na Phenrhyn Sinai a gipwyd o ddwylo'r Aifft yn yr un adeg ond a roddwyd yn ôl i'r Aifft gan Israel yn 1979 yn dilyn cytundeb heddwch.

Defnyddir y term hwn fel arfer i gyfeirio at y rhanau hynny o Balesteina mae cryn ffraeo yn eu cylch, neu 'The Israeli-occupied territories'. Y term a ddefnyddir gan y Cenhedloedd Unedig (CU) yw "Tiroedd Palesteina sydd wedi eu Meddiannu" neu " Tiroedd Palesteina dan Feddiant Israel", ers y 1970au (Penderfyniadau 242 a 338 y CU).

Ar wahân i'r CU mae unrhyw drafodaethau ynghylch y tiroedd hyn yn cael eu cynnal rhwng Israel a Mudiad Rhyddid Palesteina. Ers y frwydr dros Llain Gaza yn 2007, mae'r Tiriogaethau wedi cael eu rhannu i ddau endid ar wahân: Hamas sy'n rheoli Llain Gaza a Byddin Rhyddid Palesteina o dan yr enw Awdurdod Cenedlaethol Palesteina yn rheoli'r Llain Orllewinol o dan eu harweinydd Mahmoud Abbas. Mae'r Palesteiniaid, felly, ers hyn, wedi eu hollti'n ddau.

Gweler hefyd

golygu