Annwyl Sian, Diolch am eich erthygl ar Edward John Hughes. Yn anffodus nid ydych yn defnyddio Wicipedia yn y ffordd gywir am eich bod yn cael gwared o gywiriadau o ran fformat mae eraill yn ei wneud i wella'r erthygl.

Mae'n ymddangos eich bod yn golygu rhyw destun yn lleol ac yna ei ludo i fewn yn syth i olygydd Wicipedia. Mae hyn yn golygu fod gwaith eraill yn cael ei golli. Mae'n rhaid i chi olygu y testun ar y wefan ei hun gan ddechrau gyda'r fersiwn presennol a pheidio newid neu ddileu newidiadau gan eraill (heblaw am gywiro ffeithiau lle mae ffynhonnell ar gael neu gywiro iaith). Er fod cynnwys yr erthygl yn safonol mae angen i erthyglau fod mewn arddull addas ar gyfer Wicipedia ac yn cynnwys rhestr o ffynonellau. Ar hyn o bryd mae perygl i'r erthygl gael ei ddileu am fod gymaint o waith cywiro gan eraill yn cael ei golli. --Dafyddt (sgwrs) 16:32, 3 Chwefror 2020 (UTC)