Deinosoriaid yng Nghymru

Hyd at 2018 cafwyd hyd i olion tua 9 rhywogaeth o ddeinosoriaid yng Nghymru. Mae 8 ohonynt wedi'u canfod mewn creigiau i'r gorllewin o Benarth, ac un arall, sef dant Megalodon, wedi'i ganfod yn rhydd, ar draeth.

Dim ond mewn creigiau a gafwyd eu ffurfio yn y cyfnodau Triasig a'r Jwrasig y ceir olion deinororiaid, ac mae'r rhan fwyaf o greigiau drwy Gymru yn llawer hŷn na hynnny ac felly wedi eu ffurfio cyn oes y Deinosoriaid. Ond fe'i ceir mewn un rhan yn y de - rhwng Porthcawl a Phenarth, ond prin iawn ydy'r olion:

  • Canfuwyd dant y Megalodon ar draeth Aberaeron gan fachgen 11 oed (Robert L Gapper) yn 1989 a gwnaed ffilm ohono gan y BBC a gedwir heddiw yn archifdy'r Llyfrgaell Genedlaethol. Mae'n bosibl i'r ffosil hwn o ddant fod wedi'i gario gan donnau'r môr.

‏ Mae'r gweddill i'w canfod rhwng Porthcawl a Phenarth:

Map o'r wyth lleoliad yng Nghymru lle cafwyd hyd i ffosiliau deinosoriaid (hyd at 2018).
  • Ichthyosauriaid yn bennaf. Mae ffosiliau o'r rhain wedi'u ffurfio pan syrthion nhw i'r môr, neu'r traeth a'u gorchuddio gan dywod yn eitha sydyn, cyn iddyn nhw gael eu bwyta. Roedd gan yr ichthyosaur gorff tebyg i ddolffin a dannedd miniog i ddal a llarpio cig.
  • Dracoraptor hanigani - canfuwyd ei ffosiliau ar draeth Larnog (Lavernock) gan Nick a Rob Hanigan, o Lanilltud Fawr yng ngwanwyn 2014. Y penglog ddaeth gyntaf ac yna esgyrn eraill. Galwyd ef yn "Dracoraptor " (draig-leidr). Roedd yn 2.2tr o daldra a 6.5 tr o'i ben i'w gynffon. Canfuwyd 40% o esgyrn yr anifail. Mae'n deillio o ddechrau'r cyfnod Jwrasig, pan oedd yr hinsawdd yn yr ardal yma yn llawer cynesach nag yw e heddiw.
  • Pantydraco - a alwyd ar ôl chwarel leol. Mae tua'r un maint ag oedolyn o ran ei daldra, ond yn dair metr o'i sowdwl i ben ei gynffon, gyda phen fel draig a gên cryf iawn. Canfuwyd Pantydraco ym Mhant-y-ffynnon - chwarel ger y Bont-faen; o'r 'Pant' y daeth yr enw a 'drac' unwaith eto, sef y Lladin am 'ddraig'.
  • Clevosaurus cambrica - er nad yw'n dechnegol yn ddeinosor, byddai'r anifail hwn wedi cydfyw gyda'r deinosoriaid, yn wir, yr un pryd a'r Pantydraco. Fe'i canfuwyd gan fyfyriwr o Brifysgol Bryste Emily Keeble tra'n astudio ffosiliau a oedd wedi'u canfod yn y 1950au ar gyfer ei chwrs ar balaeontoleg. Roedd y ffosiliau wedi eu canfod yn yr un chwarel, sef Pant-y-ffynnon, ac yn rhywogaeth newydd a berthynai'n agos i'r Clevosaurus (neu'r "Gloucester lizard").
  • Tuatara, ymlusgiad a geir hefyd yn Seland Newydd.

Mae'r darganfyddiadau hyn o bwysigrwydd bydeang, nid oherwydd y nifer, ond gan fod y darganfyddiadau'n eitha cyflawn, ymlusgiaid wedi'u cadw a'u prisyrfio yn dda. Anifeiliaid bychan ydyn nhw i gyd, a gellir eu dychmygu'n ceisio dianc oddi wrth rai mwy.[1]

Pobl o Gymru

golygu

Defnyddiodd Richard Owen, gwyddonydd a hanai o Gymru, y gair Dinosauria yn gyntaf ym mlwyddyn 1842. Mae'r gair hwn yn gyfuniad o'r geiriau Groegaidd deinos ("ofnadwy" neu "arswydus") a sauros ("genau-goeg" neu "ymlusgiad"). Enwyd un rhywogaeth ar ôl Richard Owen, tad y deinosoriaid, sef yr Owenodon.

Ar wahân i Richard Owen, ceir llawer o baleontolegwyr eraill yng Nghymru a ystyrir o bwys mawr, gan gynnwys Dorothea Bate a aned yn Sir Gaerfyrddin, y ferch gyntaf i weithio yn Natural History Museum, Llundain.

Cyfeiriadau

golygu
  1. walesonline.co.uk; adalwyd 18 Ebrill 2018.