Cais ffurfiol a arwyddwyd gan nifer o bobl i'w gyflwyno i unigolyn neu gorff awdurdodol yw deiseb.[2] Mynegiant o farn neu ewyllys y bobl yw'r ddeiseb a'i nod yw pwyso ar y derbynnydd i ateb cwyn neu wneud iawn am gam, i bleidleisio neu weithredu mewn ffordd arbennig, neu fel arall i dynnu ei sylw at fater arbennig. Mae'r hawl i ddeisyfu ar y llywodraeth yn iawnder dinesig ac yn agwedd sefydledig o'r drefn ddemocrataidd mewn nifer o wledydd.[3]

Deiseb Hui Hawaii Aloha Aina (Cynghrair Gwladgarol Hawaii) a arwyddwyd gan y mwyafrif o frodorion Hawaii i wrthwynebu cyfeddiannu'r ynysoedd yn rhan o'r Unol Daleithiau.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) The 1897 Petition Against the Annexation of Hawaii, Archifau Cenedlaethol UDA. Adalwyd ar 10 Chwefror 2017.
  2.  deiseb. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Chwefror 2017.
  3. (Saesneg) petition. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Chwefror 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.