Delphinus (cytser)
Cytser seryddol yw Delphinus, eithaf bach o safbwynt maint yn y wybren.[1] Mae'r enw yn golygu dolffin yn Lladin oherwydd gwelodd pobl y byd clasurol ffurf dolffin yn y sêr disgleiriaf.[2]
Enghraifft o'r canlynol | cytser |
---|---|
Rhan o | Northern celestial hemisphere |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Delphinus un o'r 48 cytser ar restr yr athronydd Ptolemi yn yr ail ganrif. Heddiw mae Delphinus un o'r 88 cytser y gwnaeth yr Undeb Seryddol Rhyngwladol eu cydnabod yn swyddogol ym 1922. Del ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb am y cytser. Mae'r ffurf Delphini yn dynodi seren o'r cytser, er engrhaifft Alffa Delphini (α Del) a Beta Delphini (β Del), y sêr disgleiriaf yn y cytser.
Lleolir Dephinus ychydig i'r gogledd o'r cyhydedd wybrennol, rhwng y cytserau Aquila, Sagitta, Vulpecula, Pegasus, Equuleus ac Aquarius. Lleolir yr Haul yn wrthgyferbyniol i Orion yn y wybren ym mis Gorffennaf, oherwydd symudiad y Ddaear o amgylch yr Haul, a felly rhwng Gorffennaf a Hydref yw'r cyfnod gorau i weld y cytser ar ôl iddi nosi.
Mae Delphinus yn cynnwys rhan o'r Llwybr Llaethog ac o ganlyniad mae rhai nifylau a chlystyrau sêr i'w gweld yn y cytser. Ymhlith rhain mae'r nifwl planedol NGC 6891, a'r chlystyrau globylog NGC 6834 a NGC 7006, ond does dim un yn ddisglair iawn.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 2. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23568-8. Tud. 817–832. (Yn Saesneg.)
- ↑ Allen, Richard Hinckley (1899). Star-Names and Their Meanings. Efrog Newydd: G. E. Stechert. Tud. 198–201. (Yn Saesneg.)