Deltanet
llyfr
Nofel Gymraeg i ddysgwyr yr iaith yw Deltanet, a ysgrifennwyd gan Andras Millward. Fe'i sgwennwyd fel bod y testun yn eithaf syml a chynhwysir geirfa ar waelod bob tudalen er mwyn rhoi cymorth i ddysgwyr. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1999. Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[1]
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
gwaith ysgrifenedig ![]() |
Awdur | Andros Millward |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi |
1999 ![]() |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781859027783 |
Tudalennau |
82 ![]() |
Genre | Ffuglen |
Cyfres | Nofelau Nawr |
Disgrifiad byrGolygu
Mae Deltanet, un o gwmnïau electronig mwyaf y byd, ar fin rhyddhau y DN Connect, dyfais a fydd yn trawsnewid y byd. Ond mae Ben Daniels, technegydd talentog yn DeltaNet, yn darganfod y gwir am DN Connect. Caiff Ben ei dynnu'n ddirybudd i'r byd tywyll sydd tu ôl i'r hysbysebion slic, lle mae pawb yn cuddio cyfrinach a lle mae gwybod y gwir yn arwain at berygl a marwolaeth.
CymeriadauGolygu
- Mae Ben Daniels yn dechnegydd talentog sy'n darganfod y gwir am eu technoleg
- Mae Alan yn gydweithiwr i Ben ar brosiect DN Connect
- Mae Julie Perkins yn ohebydd ar gyfer papur newydd "y Standard"
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 2 Tachwedd 2017.