Andras Millward
Awdur Cymreig toreithiog oedd Andras Millward (1966 – 16 Hydref 2016).[1] Roedd yn nodedig am y nofelau Deltanet, Prosiect Nofa ac Un Cythraul yn Ormod (Y Lolfa, 1996) [2] sy'n cael ei chydnabod fel un o gampweithiau ffuglen yr 1990au.
Andras Millward | |
---|---|
Ganwyd | 1966 Aberystwyth |
Bu farw | 16 Hydref 2016 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Tad | Edward Millward |
Bywgraffiad
golyguFe'i magwyd yn Aberystwyth yn fab i'r darlithydd Cymraeg Tedi Millward a Silvia Hart. Ei chwaer yw'r gantores Llio Millward. Roedd yn byw ym Mryste ac yn gweithio yn y maes technoleg gwybodaeth. Roedd e hefyd yn hyfforddwr ar gyfer crefft ymladd Wing Chun.[3]
Bu farw yn Hydref 2016 yn 50 oed. Roedd ganddo ddwy ferch. Dywedodd yr awdures Elin Llwyd Morgan ei fod yn "berson addfwyn iawn, ac roedd ganddo hiwmor tawel" a fod "ei gyfraniad yn un pwysig achos roedd o’n ysgrifennu mewn genre sy’n eithaf anodd yn y Gymraeg".
Llyfryddiaeth
golygu- Penderfyniadau - Parti Tom (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2002)
- Y Corff (Gwasg Gomer, 1998)
- Deltanet (Gwasg Gomer, 1999)
- Prosiect Nofa (Y Lolfa, 1992)
- Samhain (Y Lolfa, 1994)
- Un Cythraul yn Ormod (Y Lolfa, 1996)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Teyrnged i’r awdur Andras Millward , Golwg360, 31 Hydref 2016.
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
- ↑ Yatedo - Andras Millward. Adalwyd ar 23 Awst 2016.