Delyth Jenkins
Telynores ac awdur o Groesoswallt yw Delyth Jenkins (ganwyd Delyth Evans). Mae wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt ers bron i chwarter canrif. Dechreuodd ar ei gyrfa gerddorol pan yn aelod o'r grwp gwerin Cromlech ac yna ffurfiodd y triawd offerynnol llwyddiannus Aberjaber.[1]
Delyth Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, telynor |
Gyrfa
golyguDechreuodd ddysgu Cymraeg, iaith ei theulu. Ac yn ei hugeiniau cynnar y deffrowyd ei diddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg, a dechreuodd ddysgu'r delyn. Yn methu â dod o hyd i athrawes a oedd yn arbenigo mewn cerddoriaeth draddodiadol, dysgodd trwy wrando ar eraill a thrwy arbrofi. O ganlyniad mae hi wedi datblygu arddull chwarae sy'n debyg iawn iddi hi ei hun.
Yn fuan ar ôl ymgymryd â'r delyn daeth Delyth yn aelod o'r grŵp Cromlech o Abertawe a oedd, o dan arweinyddiaeth Tommy Jenkins, yn un o'r grwpiau arloesol yn adfywiad cerddoriaeth werin Cymru. Ac yna, gyda Peter Stacey a Stevie Wishart, aeth ymlaen i ffurfio'r triawd offerynnol clodfawr Aberjaber.
Erbyn hyn, Mae hi’n hanner y ddeuawd DnA gyda ei merch Angharad Jenkins.
Fel unawdydd ac fel aelod o grwpiau amrywiol, mae Delyth wedi teithio ledled y wlad, mewn llawer o wledydd Ewropeaidd, ac yn America.[2] Mae hi wedi ysgrifennu llyfr, sef ‘'That Would Be Telyn', wedi cyhoeddi gan Y Lolfa, sydd yn disgrifio taith cerdded ar Llwbr Arfordir Sir Benfro|lwbr Arfordir Sir Benfro]].[3][4] Mae ganddi hefyd dri albwm sy’n cyfuno ei chariad tuag at gerddoriaeth draddodiadol a’i chyfansoddiadau modern. [5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 9780907551003, Ar y Ffin". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-07.
- ↑ "Biography – Delyth Jenkins" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-11-07.
- ↑ Gwefan y County Echo
- ↑ Gwefan y Lolfa[dolen farw]
- ↑ "Cyfeiriadur TRAC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-19. Cyrchwyd 2019-11-28.