Grŵp gwerin offerynnol o ardal Abertawe oedd Aberjaber a fu’n nodedig am eu hagwedd arbrofol ac eclectig wrth gyfuno elfennau o’r traddodiad Cymraeg gydag alawon, seiniau ac arferion gwerin eraill. Sefydlwyd y band yn 1983.

Aberjaber
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr aelodau gwreiddiol oedd Peter Stacey (ffliwt, sacsoffonau, chwislau, pibau Cymreig, bodhrán), Delyth Evans (telyn Geltaidd) a Stevie Wishart (ffidil, feiola, crwth, hurdy-gurdy), y tri yn gyn-aelodau o’r grŵp gwerin Cromlech. Roedd y trac ‘Hindeg’, a ryddhawyd ar albwm olaf Cromlech, Igam Ogam (Sain, 1982), yn arwydd o’r cyfeiriad a gymerwyd gan Aberjaber. Bu Peter Stacey a Stevie Wishart yn dilyn astudiaethau ôl-radd mewn cerddoriaeth, gyda’r naill yn ymchwilio i gerddoriaeth yr 20g (gan gynnwys jazz, chwarae byrfyfyr a diwylliannau cerddorol y byd) a’r llall yn archwilio’r cysylltiadau rhwng chwarae’r ffidil yn y dull Iberaidd traddodiadol a thechnegau’r ffidil yn yr Oesoedd Canol.

Clywir rhai o’r dylanwadau hyn ar eu halbwm eponymaidd cyntaf (Sain, 1985), sy’n cynnwys trefniannau o alawon Cymraeg ynghyd ag alawon o wledydd eraill, megis ‘Hoffedd Meistres’ ac alaw draddodiadol o Galisia, ‘Aires De Pontevedra’. Rhyddhawyd Aberdaujaber flwyddyn yn ddiweddarach, gyda’r chwaraewr pibau Albanaidd Peter Wallace yn cyfrannu hefyd ar ‘The Lament for Ronald MacDonald of Morar’. Ar ôl seibiant o ddegawd ailffurfiodd y grŵp, gyda Ben Assare (soddgrwth, offerynnau taro) yn cymryd lle Stevie Wishart, gan ryddhau Y Bwced Perffaith (Sain, 1997), a oedd yn gyfuniad creadigol o alawon Cymreig, Gwyddelig, Albanaidd a Galisiaidd wedi eu gwisgo ar brydiau mewn harmonïau jazz a churiadau Affricanaidd.

Safai cerddoriaeth Aberjaber ar wahân i duedd gyffredinol grwpiau gwerin Cymreig; fel yn achos Cromlech, roeddynt yn cynnwys cyfartaledd uwch na grwpiau eraill o’r cyfnod o ddeunydd tu allan i Gymru, ac mae eu recordiadau offerynnol yn cynnwys llai o dipyn o gadwyni o alawon. Er gwaethaf is-deitl eu recordiad cyntaf (‘Music from the Celtic Countries’), buont hefyd yn estyn ffiniau eu repertoire yn ehangach, gan berfformio cerddoriaeth o lawysgrif Robert ap Huw o gerddoriaeth telyn o’r 17g a chyfansoddiadau gwreiddiol ochr yn ochr ag alawon dawns o Gymru a gwledydd Celtaidd eraill. Mae eu cyfansoddiadau gwreiddiol hefyd yn mynd y tu hwnt i’r alawon dwy-ran cymesur a ddisgwylir yn repertoire y dawnsiau. Roedd awgrym o hynny wedi bod eisoes yn albwm Cromlech, Igam Ogam (Sain, 1982), gyda’r trefniant estynedig o ‘Hin Deg’, a daeth yn fwy amlwg ar recordiadau Aberjaber lle ysgrifennwyd cyfansoddiad Wishart ‘Stevie’s Tune’, er enghraifft, gyda’r bwriad o ‘ymestyn arferion traddodiadol o gerddoriaeth werin’ (gw. Rees 2007, 334).

Disgyddiaeth

golygu
  • Aberjaber (Sain 1340M, 1985)
  • Aberdaujaber (Sain 1410M, 1986)
  • Y Bwced Perffaith (Sain SCD2157, 1997)[1]
Teitl y gân Clip sain Blwyddyn
cyhoeddi
Rhif Catalog
Braint 2003 SAIN SCD 2358
Braint 1997 SAIN SCD 2157
Darren Uchaf y Maisie Smith 1997 SAIN SCD 2157
Fferm Cadwgan 1997 SAIN SCD 2157
March Processional y Muineira de Chantada 1997 SAIN SCD 2157
O Mama 1997 SAIN SCD 2157
Taith Madoc 1997 SAIN SCD 2157
The Rambling Pitchfork 1997 SAIN SCD 2157
The Singing Line 1997 SAIN SCD 2157
The Winds of Change 1997 SAIN SCD 2157
Y Bwced Perffaith 1997 SAIN SCD 2157
Y Crefftwr 1997 SAIN SCD 2157

Llyfryddiaeth

golygu
  • Stephen P. Rees, ‘Traddodiad Celtaidd Newydd? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr Adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975–c.1989’, Hanes Cerddoriaeth Cymru 7 (2007), 325–43.

Cyfeiriadau

golygu
  1. sainwales.com; adalwyd 29 Awst 2017.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod gan Pwyll ap Siôn ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.