Telyn

offeryn cerdd cenedlaethol Cymru

Offeryn cerdd gyda thannau a genir â'r bysedd yw telyn. Mae'n offeryn cerdd hynafol y cyfeirir ato yn y Beibl, mewn hen lawysgrifau Cymraeg canoloesol a ffynonellau cynnar eraill, a cheir tystiolaeth archaeolegol sy'n dangos fod telynau i'w cael ym Mesopotamia yng nghyfnod gwareiddiad Sumer, rai milflynyddau Cyn Crist.

Telyn
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o offerynnau cerdd Edit this on Wikidata
Mathofferyn â thannau wedi'i blycio, composite chordophone Edit this on Wikidata
Rhan oMIMO's classification of musical instrument, Guizzi's classification of musical instruments Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymru a'r gwledydd Celtaidd golygu

Yn ôl Cyfraith Hywel Dda byddai'r brenin yn rhoi offeryn cerdd i'r pencerdd, - telyn, crwth neu bibgorn. Roedd tri math o delyn yn ôl cyfraith Hywel. Roedd telyn y brenin a telyn y pencerdd werth cant ac ugain o geiniogau, tra roedd telyn uchelwr werth trigain ceiniog.

Mae Gerallt Gymro yn disgrifio telynau Iwerddon, Cymru a'r Alban fel rhai a oedd â thannau efydd. Mae'n defnyddio union yr un geiriau i ddisgrifio cerddoriaeth Iwerddon a Chymru. Yn ôl Gerallt roedd dau fath o delyn yn llysoedd Cymru a dichon mai telyn rawn ar gyfer perfformio a datgan barddoniaeth oedd y naill ac mai telyn tannau efydd i berfformio'r gerddoriaeth offerynnol oedd y llall.

Mae peth o gerddoriaeth y Canol Oesoedd wedi goroesi yn llawysgrif enwog Robert ap Huw a gopiwyd tua 1613. Mae'r llawysgrif yn cynnwys tua 30 o ddarnau ar gyfer y delyn sydd wedi eu dyddio i'r cyfnod 1340-1485. Mae'n cynnwys y trebl a'r bas a dyma'r llawysgrif hynaf o gerddoriaeth delyn yn y byd. Technegau'r delyn tannau efydd a amlygir yn llawysgrif Ap Huw drwyddi draw. Mae'n cynnwys nifer o ffurfiau cerddorol megis Gostegion, Caniadau a Phrofiadau ar bedwar mesur ar hugain cerdd dant (Corffiniwr, Mac y Mwn Hir, Tytyr Bach at ati). Mae'r gerddoriaeth wedi ei seilio ar strwythur dau ddosbarth o nodau sy'n ffurfio harmoni'r Cyweirdant a'r Tyniad ar sylfaen harmonig nid annhebyg i'r double tonic a glywir yng ngherddoriaeth pibau mawr yr Alban.

Mae nifer o feirdd cyfnod Beirdd yr Uchelwyr yn disgrifio'r delyn yn eu barddoniaeth. Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r 16g â cholofn syth iddi gyda'r seinfwlch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen.

Roedd Llanrwst yn enwog am ei gwneuthurwyr telyn. Gwnaeth John Richards, Llanrwst 1711 - 1789, er enghraifft delyn deires yn 1755 i John Parry (Parry Ddall Rhiwabon) o Wynnstay, Rhiwabon.

Y delyn deires golygu

Ymhlith y telynorion cyfoes sy'n canu'r delyn deires mae Llio Rhydderch, Gwyndaf Roberts (Ar Lôg), Carwyn Tywyn a Robin Huw Bowen.

Hen benillion golygu

Ceir sawl hen bennill sy'n cysylltu'r delyn â chariad neu yn ei chymharu â merch. Er enghraifft:

Llun y delyn, llun y tannau,
Llun cyweirgorn aur yn droeau:
Dan ei fysedd, O na fuasai
Llun fy nghalon union innau!
Tebyg ydyw'r delyn dyner
I ferch wen a'i chnawd melysber;
Wrth ei theimlo mewn cyfrinach,
Fe ddaw honno'n fwynach, fwynach.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhifau 244, 247.

Llyfryddiaeth golygu

  • Allwedd y Tannau, cylchgrawn Cymeithas Cerdd Dant Cymru
  • Dafydd Wyn Williams, Traddodiad Cerdd Dant ym Môn (1989)

Oriel golygu

Y ddeuawd DnA (Delyth & Angharad Jenkins); ffidil a thelyn. Cân draddodiadol 'Glyn Tawe', o'u halbwm Adnabod.
Chwiliwch am telyn
yn Wiciadur.