Delyth MacDonald
Athrawes ac awdur yw Delyth Mair MacDonald (ganwyd 7 Hydref 1950).[1]
Delyth MacDonald | |
---|---|
Ganwyd | 7 Hydref 1950 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, athro ysgol gynradd |
Priod | Elvey MacDonald |
Yn wraig i Elvey MacDonald o'r Wladfa yn wreiddiol, ganed yn Llundain, lle'r oedd ei thad, y Parchedig Edwin Alun Thomas, yn Weinidog yng nghapel Wood Green. Symudodd y teulu yn ôl i Gymru pan oedd yn naw oed. Graddiodd mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion cynradd Ceredigion cyn cael ei phenodi'n Bennaeth Ysgol Llanfarian tan ei hymddeoliad yng Ngorffennaf 2012.
Cyhoeddwyd y gyfrol Llawlyfr y Wladfa gan wasg Y Lolfa yn 2018.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 1784615730". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Delyth MacDonald ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |