Elvey MacDonald
Roedd Elvey Jones MacDonald (17 Mehefin 1941 – 23 Tachwedd 2022) yn frodor o'r Wladfa a ymsefydlodd yng Nghymru. Bu'n gweithio i'r Eisteddfod Genedlaethol cyn gweithio fel pennaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am 23 mlynedd. Ei syniad ef hefyd oedd sefydlu Radio Ceredigion, a ddechreuodd ddarlledu yn 1992.
Elvey MacDonald | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1941 Trelew |
Bu farw | 23 Tachwedd 2022 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, gweithredwr mewn busnes |
Priod | Delyth MacDonald |
Bywgraffiad
golyguFe'i anwyd yn Nhrelew, Patagonia yn fab i Hector MacDonald a'i wraig Sara (Jones gynt). Fe'i magwyd yn y Gaiman - roedd ei fam yn gryf iawn dros y Gymraeg, ac nid oedd yn fodlon clywed gair o Sbaeneg yn y cartref felly magwyd Elvey a'i chwaer Edith ar aelwyd Gymraeg. Ymwelodd â Chymru am y tro cyntaf yn 1965, sef canmlwyddiant sefydlu'r Wladfa, gyda'r bwriad o aros am 3 mlynedd. Pan ddaeth yma gyntaf nid oedd ganddo air o Saesneg, dim ond Cymraeg a Sbaeneg.
Arhosodd yng Nghymru wedi cyfarfod ei ddarpar wraig, Delyth. Ymgartrefodd yn Llanrhystud ger Aberystwyth, a bu'n llefarydd cyson dros Gymry Patagonia ar hyd ei oes.[1]
Cychwynnodd ei yrfa yn gweithio mewn banc yn Nhrelew. Wedi symud i Gymru bu'n drefnydd cynorthwyol Eisteddfod Genedlaethol Cymru am bum mlynedd yn swyddfa'r de. Yna fe'i benodwyd yn Bennaeth Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru lle bu yn y swydd rhwng 1974 ac 1997.
Ar ôl ymddeol bu'n hyrwyddo popeth yn ymwneud â'r Wladfa, ac yn trefnu teithiau ac yn tywys ymwelwyr o Gymru draw i Batagonia.[2]
Ysgrifennodd Yr Hirdaith, llyfr sy'n adrodd hanes sefydlu'r Wladfa gan ganolbwyntio ar fywyd un o'i phrif sylfaenwyr, Edwin Cynrig Roberts. Cyhoeddodd ei hunangofiant yn 2009.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Delyth MacDonald ac yn byw yn Llanrhystud. Bu farw yn 81 mlwydd oed.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mr Patagonia , WalesOnline, 1 Awst 2009. Cyrchwyd ar 24 Tachwedd 2022.
- ↑ Y Cymro o Batagonia Elvey MacDonald wedi marw yn 81 oed , BBC Cymru Fyw, 23 Tachwedd 2022. Cyrchwyd ar 24 Tachwedd 2022.
- ↑ Elvey MacDonald - yn ateb ein holiadur. BBC Cymru (18 Medi 2009).