Demosthenes
Areithydd a gwladweinydd Athenaidd oedd Demosthenes, Groeg: Δημοσθένης, Dēmosthénēs (384 CC - 322 CC).
Demosthenes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
384 CC ![]() Upper Paiania ![]() |
Bu farw |
12 Hydref 0322 CC ![]() Achos: Gwenwyn ![]() Poros ![]() |
Dinasyddiaeth |
Classical Athens ![]() |
Galwedigaeth |
gwleidydd, diplomydd, areithydd ![]() |
Swydd |
llysgennad ![]() |
Mam |
Kleobule ![]() |
Perthnasau |
Gylon, Demon ![]() |
Astudiodd Demosthenes gelfyddyd rhethreg trwy ddysgu o areithiau enwogion y gorffennol. Traddododd ei areithiau cyntaf mewn achosion cyfreithiol pan nad oedd ond ugain oed. Am gyfnod, bu'n ennill bywoliaeth trwy ysgrifennu areithiau i eraill ac fel cyfreithiwr.
Yn ystod ei gyfnod fel ysgrifennydd areithiau, datblygodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a dechreuodd draddodi areithiau gwleidyddol yn 354 CC. Daeth y ffigwr amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus Athen, ac roedd yn flaenllaw ymysg y rhai oedd yn gwrthwynebu dylanwad cynyddol Philip II, brenin Macedon dros Wlad Groeg. Treuliodd lawer o amser yn ceisio adeiladu cynghrair i wrthwynebu Philip.
Wedi marwolaeth Philip, roedd Demosthenes yn un o arweinwyr y gwrthryfel yn erbyn mab Philip, Alecsander Fawr. Methodd y gwrthryfel, a mynnodd Alecsander fod Demosthenes yn cael ei alltudio o Athen. Wedi marwolaeth Alecsander, ceisiodd Demosthenes ddechrau gwrthryfel arall yn erbyn Macedon, ond methodd y gwrthryfel eto a gyrrodd Antipater, olynydd Alecsander yng Ngroeg, ei wŷr i chwilio amdano. Lladdodd Demosthenes ei hun rhag cael ei gymeryd i'r ddalfa.
Ystyrir areithiau Demosthenes yn glasuron; yr enwocaf yw ei areithiau yn erbyn Philip II, y Philipicau.