Diplomydd sydd yn cynrychioli ei wladwriaeth fel pennaeth ar lysgenhadaeth mewn gwladwriaeth arall yw llysgennad. Dyma'r swydd uchaf ei radd yn y corfflu diplomyddol.[1]

Portread o Abd el-Ouahed ben Messaoud, llysgennad Swltan Moroco i lys Elisabeth I, brenhines Lloegr.

Mae'n rhai i wladwriaethau gyfathrebu er mwyn cynnal cysylltiadau rhyngwladol, ac felly gwaith y llysgennad sydd wedi galluogi gwladweinyddiaeth ryngwladol erstalwm. Gellir olrhain hanes y llysgennad i'r Hen Tsieina ac India, er nad oedd cyfundrefn ffurfiol o lysgenadaethau parhaol wedi datblygu yn yr un o'r systemau gwladwriaethau hynafol. Yr arfer yn yr Henfyd oedd i ddanfon rhedegyddion neu genhadon gyda negeseuon neu lawnalluogwyr dros dro gyda'r awdurdod i drafod a dod i delerau ar gytundebau.

Datblygodd yr arfer o lysgenhadon preswyl ar y cyd â'r system wladwriaethau Ewropeaidd yn y 14g a'r 15g, yn gyntaf yng Ngweriniaeth Fenis a Dugiaeth Milan. Bu'r syniad o freinryddid diplomyddol y llysgennad yn preswyl ynghlwm wrth y drefn newydd hon, ac yn ddiweddarach estynnwyd y fraint hon i'w staff. Dyma'r egwyddor a osodai sail i'r gyfraith ryngwladol fodern gan iddi warantu diogelwch personol y llysgennad a phreifatrwydd ei ohebiaeth ddiplomyddol, rheol a gytunwyd arni gan bob gwladwriaeth er mwyn sicrhau triniaeth debyg.

Cydnabuwyd y drefn lysgenhadol breswyl yng Nghynhadledd Fienna (1815), a gytunodd i ddiffinio gwahanol swyddi'r corfflu diplomyddol a chyhoeddi protocol yn pennu dyletswyddau a threfn blaenoriaeth y cenhadaethau diplomyddol. Perchir y protocol hwnnw hyd heddiw, a chadarnhawyd trefn lysgenhadol Cytgord Ewrop gan Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Diplomyddol (1961).

Mae ambell ysgolhaig a sylwebydd ar bwnc diplomyddiaeth yn dadlau bod llinellau cyfathrebu modern, yn ogystal â dirywiad honedig y genedl-wladwriaeth draddodiadol wedi tanseilio'r hen drefn o lysgenhadon. Annhebygol fyddai llywodraethau yn cael gwared â'r system ffurfiol sydd wedi profi mor lwyddiannus ers canrifoedd, er bod nifer ohonynt wedi cwtogi ar adnoddau'r gwasanaethau diplomyddol ac yn ffafrio cysylltiadau masnachol dros faterion uwch-bolisi, sef rôl draddodiadol y llysgennad. Mae twf sefydliadau rhyngwladol a goruwchgenedlaethol, a threfnau newydd sydd yn adeiladu at y syniad o gymuned ryngwladol, wedi trawsnewid yr hen batrwm diplomyddol dwyochrog yn un amlochrog, ond mae'n debyg byddai'r angen am gynrychiolaeth mewn gwladwriaethau eraill drwy gyfrwng llysgenhadon yn parhau.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  llysgennad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Awst 2020.
  2. Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998), tt. 16–17.