Denis
Nawdd-sant Ffrainc yw Sant Denis neu Dionysius (bu farw c. 250 neu tua 270). Merthyrwyd ef ym Mharis, ar y safle a elwir yn awr yn Montmartre.
Denis | |
---|---|
Ganwyd | 3 g Italia |
Bu farw | c. 250 Lutetia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Blodeuodd | 3 g |
Swydd | Roman Catholic bishop of Paris |
Dydd gŵyl | 9 Hydref |
Yn ôl y chwedl, wedi torri ei ben, cododd ei ben yn ei ddwylo a cherddodd am rai milltiroedd, gan bregethu. Yn y fan lle claddwyd ef, yn awr Saint-Denis i'r gogledd o ganol Paris, adeiladodd Dagobert I, brenin y Ffranciaid, abaty, a dyfodd i fod yn bwysig dan yr Abad Suger o 1120 ymlaen. Claddwyd y rhan fwyaf o frenhinoedd Ffrainc ym Masilica Sant Denis yma.