Roedd y Ffranciaid (Lladin: Franci neu gens Francorum) yn wreiddiol yn nifer o lwythau Germanaidd a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair, yn cynnwys y Saliaid, Sicambri, Chamavi, Tencteri, Chattuarii, Bructeri, Usipetes, Ampsivarii a’r Chatti. Roeddynt yn byw ar lannau gogledd-ddwyreiniol Afon Rhein, a chawsant eu defnyddio fel cyfundodwyr (foederati) gan yr ymerawdwr Rhufeinig Iwlian (358). Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia) mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen. Mae 'Ffrainc' yn cymeryd ei henw oddi wrthynt. Daethant yn Gristionogion tua diwedd y 5g.

Ffranciaid
Enghraifft o'r canlynolpobl, diwylliant archeolegol, grwp ethnig hanesyddol, enw un tiriogaeth mewn gwlad unigol, cynghrair milwrol Edit this on Wikidata
MathGermaniaid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cerflun o Siarlymaen yn Frankfurt, Yr Almaen

Arferiad y Ffranciaid, fel y Tywysogion a'r Brenhinoedd Cymreig, ar farwolaeth brenin oedd rhannu’r deyrnas rhwng ei feibion, felly rhannwyd Francia nifer o weithiau.

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth am y Ffranciaid yn dod oddi wrth Gregori o Tours, a ysgrifennodd ei Historia Francorum (Hanes y Ffranciaid) am y cyfnod hyd 594. Cofnodir i’r Ffranciaid ymosod ar yr Ymerodraeth Rufeinig yn 250 a chyrraedd cyn belled a Tarragona yn Sbaen. Tua 358 rhoddodd yr ymeradwr Iwlian y rhan fwyaf o dalaith Gallia Belgica iddynt. Yn raddol daethant yn feistri ar y rhan fwyaf o ran ogleddol Gâl.

Y frenhinllin gyntaf i lywodraethu’r Ffranciaid oedd y Merofingiaid. Dywedir fod y brenhinoedd Merofingaidd yn hannu o lwyth y Sicambri. Fodd bynnag nid y brenin oedd a’r grym mewn gwirionedd ond Maer y Llys. Y mwyaf enwog o’r rhain oedd Siarl Martel, a enillodd fuddugoliaeth enwog dros y Mwslimiaid ym Mrwydr Tours.

Yn 751 diorseddwyd yr olaf o’r brenhinoedd Merofingaidd, a daeth mab Siarl Martel, Pepin Fychan, yn frenin fel y cyntaf o linach y Carolingiaid. Adeiladodd mab Pepin, Siarlymaen, ymerodraeth oedd yn ymestyn dros ran helaeth o Ewrop. O 772 ymlaen, gorchfygodd y Sacsoniaid, ymgorfforodd eu tiroedd yn ei ymerodraeth a gorfododd hwynt i ddod yn Gristionogion. Concrodd y Lombardiaid yn 773-774, ac ychwanegodd ogledd yr Eidal at ei feddiannau. Ar ddydd Nadolig 800 coronwyd Siarlymaen yn “Ymerawdwr y Rhufeiniaid” gan y Pab Leo III.

Pan fu farw Siarlymaen yn 814 yn Aachen, dilynwyd ef gan ei fab Louis Dduwiol, yr unig un o'i feibion oedd wedi goroesi ei dad. Ar farwolaeth Louis yn 840, bu ymladd rhwng ei feibion, ac yn 843 rhannwyd y deyrnas rhyngddynt yn ôl Cytundeb Verdun.

Rhaniad yr ymerodraeth rhwng tri mab Louis Dduwiol