Saint-Denis, Seine-Saint-Denis
Commune yn Ffrainc ac un o faesdrefi Paris yw Saint-Denis. Saif tua 5 km i'r gogledd o ddinas Paris ei hun, yn département Seine-Saint-Denis, ac roedd y boblogaeth yn 1999 yn 85.832.
Math | cymuned, dinas fawr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Eglwys Gadeiriol Saint-Denis |
Poblogaeth | 113,942 |
Pennaeth llywodraeth | Mathieu Hanotin |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Sesto San Giovanni, Córdoba, Gera, Porto Alegre, Dinas Gaza, Tiznit, Djélébou, Karakoro, Tuzla, Nasareth, Tulkarm |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement of Saint-Denis, Seine-Saint-Denis, Seine-Saint-Denis |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 12.36 km² |
Uwch y môr | 33 metr, 23 metr, 46 metr |
Gerllaw | Afon Seine, Canal Saint-Denis |
Yn ffinio gyda | Paris, Saint-Ouen-sur-Seine, L'Île-Saint-Denis, Épinay-sur-Seine, Villetaneuse, Pierrefitte-sur-Seine, Stains, La Courneuve, Aubervilliers, La Chapelle |
Cyfesurynnau | 48.9356°N 2.3539°E |
Cod post | 93200, 93210 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Saint-Denis |
Pennaeth y Llywodraeth | Mathieu Hanotin |
Enwyd Saint-Denis ar ôl Sant Denis neu Dionysius, a ferthyrwyd tua 250 ym Mharis, ar y safle a elwir yn awr yn Montmartre. Yn y fan lle claddwyd ef, adeiladodd Dagobert I, brenin y Ffranciaid, abaty, a dyfodd i fod yn bwysig dan yr Abad Suger o 1120 ymlaen. Claddwyd y rhan fwyaf o frenhinoedd Ffrainc ym Masilica Sant Denis yma.
Tyfodd Saint-Denis yn gyflym fel canolfan ddiwydiannol yn y 19g, ond gyda machlud llawer o'r diwydiannau hyn yn yr 20g tyfodd problemau economaidd. Yn 1998, adeiladwyd y stadiwn rygbi cenedlaethol, Stade de France, yma.