Deniz Naki
Mae Deniz Naki yn beldroediwr o dras Cwrdaidd a aned yn yr Almaen (ganed 9 Gorffennaf 1989), sy'n chwarae i Amed S.K. ar hyn o bryd.[1][2]
Naki yn 2012 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 9 Gorffennaf 1989 | ||
Man geni | Düren, Gorllewin yr Almaen | ||
Taldra | Lua error in Modiwl:Convert at line 1851: attempt to index local 'en_value' (a nil value). | ||
Safle | Canolwr cae ymosodol | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Amed SK | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2001–2003anfwyd wrth | FC Düren 77 | ||
2003–2005 | FC Düren-Niederau | ||
2005–2007 | Bayer Leverkusen | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2007–2009 | Bayer Leverkusen II | 36 | (7) |
2009 | → Rot Weiss Ahlen (ar fenthyg) | 11 | (4) |
2009–2012 | FC St. Pauli | 71 | (12) |
2012–2013 | SC Paderborn 07 | 23 | (2) |
2013–2014 | Gençlerbirliği | 21 | (0) |
2015– | Amedspor | 12 | (1) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2007–2008 | Yr Almaen dan 19 | 15 | (9) |
2008–2009 | Yr Almaen dan 20 | 6 | (3) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 11 Tachwedd 2014. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Gyrfa clwb
golyguDechreuodd Naki ei yrfa gyda Bayer 04 Leverkusen, ond ni chafodd lwyddiant y tu hwnt i'r ail dîm.
Ar 2 Chwefror 2009, aeth ar fenthyg i Rot Weiss Ahlen, gan chwarae unarddeg gêm a sgorio pedair gôl. Ar 8 Chwefror, gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn yr ail adran, pan ddaeth i'r maes fel eilydd yn lle Marco Reus mewn gêm yn erbyn FC Augsburg.[3]
Ar 25 Mehefin 2009, gadawodd Naki Bayer Leverkusen ac arwyddo cytundeb tair blynedd gyda St. Pauli. Ar 2 Tachwedd, ar ôl sgorio ail gôl ei dîm mewn buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Hansa Rostock, achosodd gyn ddadlau pan ddathlodd drwy wneud arwydd 'torri-gwddf' tuag at gefnogwyr y gwrthwynebwyr.[4] Cyfranodd saith gôl wrth i St. Pauli ddychwelyd i'r prif adran.
Ar ôl cyfnod prawf aflwyddiannus gyda Nottingham Forest, symudodd Naki i SC Paderborn 07 yn haf 2012.
Yn nhymor 2013/14 ymunodd â chlwb Gençlerbirliği SK yn Ankara.[5] Ym mis Tachwedd 5, penderfynodd Naki adael Gençlerbirliği yn dilyn ymododiad hiliol honedig.[6][7] Dyweoddod Naki i dri dyn ymosod arno ar y stryd ym mhrifddinas Twrci gan weiddi pethau hiliol ato a'i herio ynglŷn â'i genfogaeth i'r dref Gwrdaidd Kobane y Syria, a oedd dan warchae gan y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS).[1][6][8][9]
Yn mis Chwefror 2016 cafodd Naki ei atal rhag chwarae am 12 gêm a dirwy fawr am ysgrifennu cofnod Facebook yn talu teyrnged i'r rhai a fu farw ac a anafwyd wrth amddiffyn ardaloedd Cyrdaidd rhag y Wladwriaeth Islamaidd.[10].
Gyrfa ryngwladol
golyguFel aelod o dîm Dan-19 yr Almaen cynrychiolodd Naki y wlad ym Mhencampwriaeth Dan-19 UEFA 2008, yn y Weriniaeth Siec.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 http://www.bbc.com/news/blogs-eu-29924670
- ↑ http://www.bbc.com/turkce/haberler/2014/11/141105_deniz_naki_rop
- ↑ "Tolles Solo von Großkreutz" (yn German). kicker. 8 Chwefror 2009. Cyrchwyd 18 Mawrth 2009. Unknown parameter
|trans_title=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ "Cut-Throat: Deniz Naki (St. Pauli) provokes Rostock fans with an unsavoury gesture". 101 Great Goals. 3 Tachwedd 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-07. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2011.
- ↑ SC Paderborn: Wechsel von Deniz Naki zu Gençlerbirliği perfekt
- ↑ 6.0 6.1 http://www.theguardian.com/football/2014/nov/05/deniz-naki-turkey-genclerbirligi-racist-attack
- ↑ http://www.bild.de/sport/fussball/deniz-naki/ist-froh-wieder-in-deutschland-zu-sein-38431746.bild.html
- ↑ http://rudaw.net/english/middleeast/turkey/06112014
- ↑ http://www.hurriyetdailynews.com/alevi-german-turkish-footballer-decides-to-leave-turkey-after-attack.aspx?pageID=238&nID=73890&NewsCatID=361
- ↑ http://www.theguardian.com/football/2016/feb/05/turkish-player-12-match-ban-ideological-propaganda
Dolenni allanol
golygu- Deniz Naki – Cofnod cystadlaethau UEFA
- Proffil Deniz Naki ar Fussballdaten