Derby County F.C.
Clwb pêl-droed yn ninas Derby, Lloegr, sy'n chwarae yn Pencampwriaeth Lloegr yw Derby County Football Club (llysenw: The Rams).
Enw llawn |
Derby County Football Club (Clwb Pêl-droed Swydd Derby) | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) | The Rams | |||
Sefydlwyd | 1884 | |||
Maes | Stadiwm Pride Park | |||
Cadeirydd | Melvyn Morris CBE | |||
Rheolwr | Frank Lampard | |||
Cynghrair | Pencampwriaeth Lloegr | |||
2018-2019 | 6ed | |||
Gwefan | Gwefan y clwb | |||
|
Yn nodedig am fod yn un o'r 12 aelod gwreiddiol y Gynghrair Bêl-droed yn 1888, mae Derby County yn un o 10 clwb sydd wedi cystadlu ym mhob tymor o'r system gynghrair pêl-droed Lloegr ac, yn 2009, roedd yn safle 137eg yn y rhestr o'r 200 clybiau pêl-droed Ewropeaidd uchaf.
Hanes
golyguSefydlwyd y clwb yn 1884 gan William Morley. Daeth uchafbwynt cystadleuol y clwb yn y 1970au pan enillodd yr 'First Division' ddwywaith a chystadlu mewn cystadlaethau mawr Ewropeaidd ar bedwar achlysur gwahanol, gan gyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan Ewrop yn ogystal ag ennill nifer o dlysau rhanbarthol. Mae lliwiau cartref y clwb wedi bod yn ddu a gwyn ers y 1890au. Mae'r tîm yn cael y llysenw, The Rams, i ddangos teyrnged i'w gysylltiadau â Chatrawd Gyntaf Milisia Derby, a gymerodd hwrdd fel ei fasgot.
Mae Derby yn cael ei gydnabod yn aml fel "tref bêl-droed angerddol" gan gefnogwyr cystadleuol a'r cyfryngau fel ei gilydd. Yn ystod tymor Uwch Gynghrair 2007-08, cyfeiriwyd droeon at gefnogwyr Derby County fel y gorau yn y wlad oherwydd eu teyrngarwch er ymgyrch drychinebus y clwb yn y dymor yna. Gwerthwyd bob tocyn bron pob gêm gartref yn Stadiwm Pride Park i gefnogwyr Derby ac roedd gan y clwb ddilyniant mawr oddi cartref.
Clybiau cystadleuol Derby yw Nottingham Forest, Leicester City a Leeds United, gyda Forest, a leolir yn Nottingham, 14 milltir i'r dwyrain o Derby, nhw yw'r cystadleuwyr mwyaf ffyrnig o bell ffordd. Mae'r tlws Brian Clough ar gael i'r tîm sydd yn ennill yr 'East Midlands Derby' pob blwyddyn.
Yr sgwad
golyguNodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|