Ipswich Town F.C.

Clwb pêl-droed proffesiynol o Loegr yw Ipswich Town Football Club (a elwir hefyd yn 'Ipswich', 'The Tractor Boys', 'Town' a 'The Blues'). Lleolir y clwb yn Ipswich, Suffolk. Maent yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr yn sgil gorffen yn ail yn y Bencampwriaeth, ail haen system gynghrair pêl-droed Lloegr, yn nhymor 2023–4.

Ipswich Town
Enw llawn Ipswich Town Football Club
(Clwb Pêl-droed Tref Ipswich)
Llysenw(au) The Tractor Boys, Town, The Blues
Sefydlwyd 1878
Maes Portman Road (sy'n dal 29,673)
Cadeirydd Mike O'Leary
Rheolwr Baner Gogledd Iwerddon Kieran McKenna
Cynghrair Uwch Gynghrair Lloegr
2023–2024 Ail (Y Bencampwriaeth)
Gwefan Gwefan y clwb

Sefydlwyd y clwb ym 1878 ond ni wnaethant droi’n broffesiynol tan 1936. Fe’i hetholwyd i ymuno â’r Gynghrair Bêl-droed ym 1938. Maent yn chwarae eu gemau cartref yn Portman Road yn Ipswich. Ipswich yw'r unig glwb pêl-droed cwbl broffesiynol yn Suffolk ac mae ganddyn nhw berthynas gystadleuol hirsefydlog a ffyrnig â Norwich City yn Norfolk. Mae'r ddau dîm wedi cystadlu yng ngêm darbi East Anglia 148 o weithiau ers 1902.[1] Roedd Ipswich yn un o aelodau cychwynnol Uwch Gynghrair Lloegr yn 1992. Lliwiau cartref traddodiadol y clwb yw crysau glas gyda siorts gwyn a sanau glas.

Mae Ipswich wedi ennill teitl cynghrair Lloegr unwaith, yn eu tymor cyntaf yn yr adran uchaf yn 1961–62, ac wedi gorffen yn ail ddwywaith, yn 1980–81 a 1981–82. Fe wnaethant ennill Cwpan FA ym 1977–78, a Chwpan UEFA ym 1980–81. Maent wedi cystadlu ym mhob un o’r tair cystadleuaeth clwb Ewropeaidd, ac nid ydynt erioed wedi colli gartref mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, gan drechu Barcelona, Real Madrid, A.C. Milan, Inter Milan, a Lazio, ​​ymhlith eraill.[2]

Blynyddoedd cynnar ac ymuno â’r Gynghrair Bêl-droed (1878–1954)

golygu

Sefydlwyd y clwb fel tîm amatur yn 1878 ac fe'u gelwid yn Ipswich A.F.C. tan 1888 pan unwyd â’r Ipswich Rugby Club i ffurfio Ipswich Town F. C.[3] Enillodd y tîm nifer o gystadlaethau cwpan lleol, gan gynnwys y Suffolk Challenge Cup a’r Suffolk Senior Cup.[4] Ar ôl chwarae yn y Norfolk & Suffolk League o 1899 a’r South East Anglian League rhwng 1903 a 1906, fe wnaethant ymuno â’r Southern Amateur League yn 1907 ac wedi i’w canlyniadau wella’n gyson fe ddaethant yn bencampwyr yn nhymor 1921–22.[5] Enillodd y clwb y gynghrair dair gwaith arall, yn 1929–30, 1932–33 a 1933–34, cyn dod yn aelodau sylfaen yr Eastern Counties Football League ar ddiwedd tymor 1934–35. Flwyddyn yn ddiweddarach, troes y clwb yn broffesiynol ac ymuno â’r Southern League. Enillwyd y gynghrair honno ganddynt yn eu tymor cyntaf a daethant yn drydydd yn y flwyddyn ganlynol.

Etholwyd Ipswich i'r Gynghrair Bêl-droed ar 30 Mai 1938, a buont yn chwarae yn y Drydedd Adran (De) tan ddiwedd tymor 1953–54, pan enillwyd yr adran honno ganddynt a'u dyrchafu i’r Ail Adran.

Dyrchafiad a llwyddo yn yr Adran Gyntaf (1954–1963)

golygu
 
Cerflun o Syr Alf Ramsey ger stadiwm Portman Road

Cwympodd y clwb yn syth yn ôl i’r Drydedd Adran (De) y flwyddyn ganlynol ar ddiwedd tymor gwael, ond gwnaethant well cynnydd wedi i Alf Ramsey ddisodli Scott Duncan fel rheolwr ym mis Awst 1955. Enillodd y clwb y Drydedd Adran (De) eto yn 1956–57, a dychwelyd i'r adran uwch. Y tro hwn, ymsefydlodd Ipswich yn yr Ail Adran, gan ennill dyrchafiad, fel pencampwyr yr adran, i lefel uchaf pêl-droed Lloegr, yr Adran Gyntaf, yn 1960–61.[6]

Yn yr adran uchaf am y tro cyntaf, daeth Ipswich yn Bencampwyr y Gynghrair Bêl-droed ar yr ymgais gyntaf ym 1961–62.[7][8] Fel pencampwyr cynghrair Lloegr, fe wnaethant gymhwyso ar gyfer Cwpan Ewrop 1962–63, gan drechu Malta Floriana 14–1 rhwng dwy geêm cyn colli i A.C. Milan. Gadawodd Ramsey y clwb ym mis Ebrill 1963 i fod yn gyfrifol am dîm cenedlaethol Lloegr; ar ôl i'r tîm ennill Cwpan y Byd 1966, fe’u hurddwyd yn farchog am ‘wasanaeth i bêl-droed’ yn 1967.[9]

Dirywio ac adfywio ar ôl Ramsey (1963–1969)

golygu
 
Rhaglen Ipswich – AC Milan, Cwpan Ewrop 1962–63, yn amgueddfa San Siro yn 2005

Dilynwyd Ramsey gan Jackie Milburn, a fuasai'n chwaraewyr ymosodol enwog i Newcastle United. Ond o dan ei arweiniad ef fe blymiodd ffawd y tîm ar y cae. Ddwy flynedd ar ôl ennill y gynghrair, llithrodd Ipswich i lawr i’r Ail Adran yn 1964, gan ildio 121 o goliau mewn 42 gêm – un o’r recordiau amddiffynnol gwaethaf erioed ym mhêl-droed proffesiynol Lloegr.[10]

Gadawodd Milburn ar ôl un tymor llawn yn unig a daeth Bill McGarry yn ei le yn 1964. Arhosodd y clwb yn yr Ail Adran am bedair blynedd nes i McGarry arwain Ipswich i ddyrchafiad gyda’i gynorthwyydd Sammy Chung yn nhymor 1967–68. Enillwyd yr adran un pwynt ar y blaen i Queens Park Rangers.[11]

Gadawodd McGarry i reoli Wolves a daeth Bobby Robson yn ei le ym mis Ionawr 1969. Roedd Robson wedi chwarae i dîm Lloegr ar ugain achlysur, gan sgorio pedair gôl. Cyn cael ei benodi yn Ipswich ei unig brofiad o reoli tîm proffesiynol oedd ychydig fisoedd yn Fulham yn 1968. Sicrhaodd y swydd yn Ipswich wedi iddo gwrdd ar hap ag un o gyfarwyddwyr y clwb, Murray Sangster, pan oedd yn sgowtio yn Portman Road ar ran rheolwr Chelsea, Dave Sexton.[12]

Cyfnod Bobby Robson (1969–1982)

golygu
 
Cerflun o Bobby Robson yn Portman Road

Arweiniodd Robson Ipswich i ddau dlws mawr a sawl tymor yn y cystadleuaethau Ewropeaidd. Dechreuodd y cyfnod llwyddiannus ym 1973 pan enillodd y clwb Gwpan Texaco a gorffen yn bedwerydd yn y gynghrair, gan gymhwyso ar gyfer Cwpan UEFA am y tro cyntaf. Yn nhymor 1974–75 fe gyrhaeddon nhw rownd gynderfynol Cwpan FA am y tro cyntaf, gan golli i West Ham United ar ôl ailchwarae, a gorffen yn drydydd yn y gynghrair.

Erbyn diwedd y 1970au, roedd Robson wedi adeiladu tîm cryf gyda thalent ym mhob rhan o’r cae. Arwyddodd y ddau chwaeraewr o'r Iseldiroedd, Arnold Mühren a Frans Thijssen, i ychwanegu sbarc i dîm a oedd yn cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol o Brydain gan gynnwys John Wark, Terry Butcher a Paul Mariner, er bod carfan Ipswich efallai heb ddyfnder clybiau mawr sefydledig fel Lerpwl a Manchester United.

Yn y cyfnod hwn roedd Ipswich i’w gweld yn gyson ym mhump uchaf y gynghrair ac yng Nghwpan UEFA. Ar eu hanterth yn nhymor 1979–80, fe guron nhw Manchester United 6–0 mewn gêm gynghrair yn Portman Road, gêm lle arbedodd golwr United Gary Bailey dair cic gosb hefyd. Costiodd y golled ddau bwynt i United – sef y bwlch rhyngddyn nhw a’r pencampwyr Lerpwl ar ddiwedd y tymor.[13]

Daeth llwyddiant mawr ym 1978 pan gurodd Ipswich Arsenal yn Stadiwm Wembley i ennill eu hunig Gwpan FA.[14] Dilynwyd hynny gan fuddugoliaeth yng Nghwpan UEFA yn 1981 sgil trechu AZ Alkmaar 5–4 yn y rownd derfynol dros ddau gymal. Bu i’r rhediad i'r rownd derfynol gynnwys buddugoliaeth o 4–1 yn St Etienne, lle roedd Michel Platini yn gapten ar y pryd.[15] Gorffennodd y clwb hefyd yn ail yn y gynghrair ym 1981 a 1982.[16][17][18]

Roedd llwyddiant Robson gydag Ipswich wedi denu sylw llawer o glybiau mwy, ac fe gafodd ei gysylltu â Manchester United pan ddiswyddwyd Dave Sexton ym mis Mai 1981, ond aeth y swydd i Ron Atkinson. Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a ddenodd Robson i ffwrdd o Portman Road flwyddyn yn ddiweddarach, pan dderbyniodd eu cynnig i reoli tîm cenedlaethol Lloegr ym mis Gorffennaf 1982.

Diraddio ar ôl Robson a dyrchafiad o dan Lyall (1982–1994)

golygu

Olynydd Robson yn Ipswich oedd ei reolwr cynorthwyol Bobby Ferguson. O dan Ferguson, gorffennodd Ipswich ddwywiath tua chanol y tabl,[19][20] ond gyda dirywiad yn safon y chwarae dechreuwyd cael trafferth i aros yn yr adran uchaf. Roedd adeiladu stand newydd wedi cyfyngu ar gyllideb y clwb, er gwaethaf yr arian a gafwyd o werthu chwaraewyr allweddol megis Frans Thijssen a John Wark.

Cafodd Ipswich eu diraddio i’r Ail Adran ar ddiwedd tymor 1985–86. Gwerthwyd Terry Butcher, eu chwaraewr allweddol olaf o dîm llwyddiannus 1981, i Rangers yr haf hwnnw.[21][22] Ymddiswyddodd Ferguson, a oedd wedi aros wrth y llyw er gwaethaf y diraddio, ym mis Mai 1987 ar ôl cyrraedd y gemau ail-gyfle ond methu ag ailesgyn i'r Adran Gyntaf. Penodwyd yr Albanwyr John Duncan yn rheolwr. Roedd y tîm yn dal yn yr Ail Adran pan gafodd ef ei ddiswyddo ar 8 Mai 1990.

Ei olynydd oedd cyn-reolwr West Ham, John Lyall.[23] O dan arweinyddithiaeth Lyall enillodd Ipswich yr Ail Adran a'u dyrchafu i Uwch Gynghrair newydd yr FA, yn barod ar gyfer tymor 1992–93.[24] Wedi wyth gêm o’r tymor hwnnw, Ipswich oedd yr unig dîm diguro yn yr Uwch Gynghrair. Roeddent yn bedwerydd ym mis Ionawr 1993 yn sgil colli dwy gêm yn unig.[25] Ond wedi hynny gwelwyd dirywiad a gorffennodd y clwb yn yr 16eg safle.[26] Bu’r tymor canlynol yn un anodd a llwyddodd Ipswich i osgoi diraddio o drwch blewyn wedi i Sheffield United ildio gôl yn amser anafiadau a cholli 3–2 yn Chelsea ar ddiwrnod olaf y tymor. Chwe mis yn ddiweddarach, nid oedd safon y chwarae wedi gwella, a diswyddwyd Lyall fel rheolwr ym mis Rhagfyr 1994 a’r clwb wedi ei sodro i waelod yr Uwch Gynghrair.

Diraddio ac adfywio o dan George Burley (1994–2002)

golygu

Ni lwyddodd olynydd Lyall, George Burley, i weddnewid perfformiadau’r tîm, a dioddefodd Ipswich eu canlynaid gwaethaf yn yr Uwch Gynghrair drwy golli 9–0 i Manchester United ar eu ffordd i gael ei diraddio.[27][28] Yn ôl yn ail haen y gynghrair, fe arweiniodd Burley y clwb i’r gemau ailgyfle deirgwaith o’r bron, ond cawsant eu trechu yn y rownd gynderfynol bob tro. Dychwelodd Ipswich i’r Uwch Gynghrair o’r diwedd yn 2000 ar ôl dod o’r tu ôl i guro Barnsley 4–2 yn Stadiwm Wembley.

Perfformiodd Ipswich yn rhagorol yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair drwy orffen yn y pumed safle, gan idlio lle yng Nghynghrair y Pencampwyr i Lerpwl ar ddiwrnod olaf y tymor. Roedd cysur i’w gael y ffaith i’r tîm sirhau lle yng Nghwpan UEFA ac i Burley ennill Gwobr Rheolwr y Flwyddyn yn yr Uwch Gynghrair.[29]

Fodd bynnag, dim ond un fuddugoliaeth a gafodd y tîm yn eu dwy gêm ar bymtheg gyntaf yn y gynghrair y tymor canlynol gan eu gadael ar y gwaelod ym mis Rhagfyr. Er gwaethaf rhediad da ym mis Ionawr a mis Chwefror, ni allai Burley arbed y clwb rhag cael ei ddiraddio’n ôl i'r Bencampwriaeth. Yn sgil colli incwm oherwydd diraddiad aeth y clwb i weinyddiaeth ariannol.[30] Cafwyd peth cysur unwaith eto drwy gyfrwng Cwpan UEFA, y tro hwn ar sail cynllun Chwarae Teg UEFA, a goroesodd Ipswich ddwy rownd cyn colli yn yr ail rownd lawn i Slovan Liberec o’r Weriniaeth Siec.[31] Cafwyd dechrau araf i'r tymor hwnnw yn y gynghrair, gan gynnwys colli 0-3 i Grimsby Town, a chafodd Burley ei ddiswyddo ym mis Hydref 2002 ar ôl bron i wyth mlynedd.[32]

Hirlwm yn y Bencampwriaeth (2002–2018)

golygu

Cafodd hyfforddwr y tîm cyntaf, Tony Mowbray, bedair gêm fel rheolwr dros dro, gan ennill unwaith, ond cafodd ei ddisodli fel rheolwr gan gyn-reolwr Oldham Athletic, Everton a Manchester City, Joe Royle, a oedd wedi chwarae i’r gelyn lleol Norwich City.[33] Etifeddodd Royle dîm a oedd yn ymlafnio tua gwaelod yr Adran Gyntaf, ond adfywiodd hynt y tîm fel eu bod bron â chyrraedd y gemau ailgyfle.[34] Yn nhymor 2003–04 daeth y clwb allan o weinyddiaeth a pharhau i gystadlu am ddyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair.[35] Gorffennon nhw'r tymor hwnnw yn bumed, ond fe'u trechwyd yn rownd gynderfynol y gemau ailgyfle gan West Ham United.[36]

Yn sgil methu â chael dyrchafiad uniongyrchol yn 2004–05, aeth Royle ag Ipswich i'r gemau ailgyfle, ond unwaith eto fe gollon nhw i West Ham United yn y rownd gynderfynol.[37] Yn 2005–06 gorffennodd Ipswich yn y pymthegfed safle – y safle isaf i’r clwb ers 1966.[38] Ymddiswyddodd Joe Royle gyda chydsyniad y clwb ar 11 Mai 2006,[39] a mis yn ddiweddarach, enwyd Jim Magilton yn rheolwr newydd.[40] Ym mis Tachwedd 2007, bu'r clwb yn rhan o drafodaethau gyda'r gŵr busnes Marcus Evans a chyn-gyfarwyddwr Birmingham City, David Sullivan.[41][42] Ym mis Rhagfyr 2007, prynodd Evans gyfran o 87.5% yn y clwb, gan fuddsoddi oddeutu £ 44 miliwn, a oedd yn cynnwys prynu dyled y clwb o £32 miliwn.[43] Cytunodd Ipswich gytundeb nawdd gyda Grŵp Marcus Evans ar 20 Mai 2008, a barhaodd tan 2018, yr hwyaf yn hanes y clwb.[44]

Ar ôl methu â chyrraedd y gemau ailgyfle er gwaethaf buddsoddiad sylweddol, diswyddwyd Magilton ym mis Ebrill 2009, ac fe apwyntiwyd Roy Keane yn ei le gan y Prif Weithredwr newydd, Simon Clegg.[45] Daeth cyfnod Keane fel rheolwr i ben ar ôl 18 mis aflwyddiannus, pan gafodd ei ddiswyddo ym mis Ionawr 2011. Bu Ian McParland yn rheolwr dros dro cyn i Paul Jewell gymryd yr awenau yn barhaol.[46] Cafwyd dechrau gwael i’r tymor newydd gydag Ipswich ar waelod y Bencampwriaeth ar ôl ennill dim ond un o’u deuddeg gêm gyntaf. Gadawodd Jewell ei swydd ar 24 Hydref 2012 gyda chydsyniad y clwb.[47]

Bu Chris Hutchings yn rheolwr dros dro ar gyfer un gêm, cyn i gyn-reolwr Wolves, Mick McCarthy, gael ei benodi ar 1 Tachwedd 2012.[48] Diogelodd McCarthy statws Ipswich yn y Bencampwriaeth, gan fynd â nhw o waelod y gynghrair ym mis Tachwedd i orffen yn y 14eg safle,[49] nawfed y tymor canlynol[50] ac yn 2014–15 yn y chweched safle a'r gemau ailgyfle. Ond collodd y clwb yn y rownd gynderfynol i Norwich City.[51] Daeth Ipswich i ben tymor 2016–17 yn yr 16eg safle, eu safle isaf ers tymor 1958–59.[52] Ar 23 Mawrth 2018, cyhoeddodd McCarthy y byddai’n gadael y clwb ar ddiwedd ei gytundeb ar ddiwedd tymor 2017–18. Fodd bynnag, yn dilyn buddugoliaeth 1–0 dros Barnsley ar 10 Ebrill 2018, gadawodd McCarthy yn gynnar a chyhoeddi ei ymddiswyddiad.[53] Bu Bryan Klug yn rheolwr dros dro tan ddiwedd y tymor.[54] Gorffennodd Ipswich yn 12fed ar ddiwedd y tymor.

Ar 30 Mai 2018, penodwyd Paul Hurst yn rheolwr newydd y clwb ar gontract tair blynedd.[55] Ond cafodd Ipswich ddechreuad trychinebus i’r tymor, gan gipio un fuddugoliaeth yn unig yn eu pedair gêm ar ddeg agoriadol yn y gynghrair. Gyda’r tîm ar waelod y tabl, cafodd Hurst ei ddiswyddo ym mis Hydref 2018 ar ôl llai na phum mis wrth y llyw – gan hynny ef, yw’r rheolwr byrraf ei wasanaeth yn hanes y clwb.[56] Penodwyd cyn-reolwr Norwich, Paul Lambert, yn ei le ar 27 Hydref.[57] Yn y pen draw, ni lwyddodd Lambert i wella canlyniadau'r tîm a chafodd y clwb ei israddio yn swyddogol ar 13 Ebrill 2019, gan ddod ag arhosiad 17 mlynedd yn y Bencampwriaeth i ben. Gan hynny, aeth y clwb i drydedd haen y Gynghrair am y tro cyntaf ers 1957.[58]

Cynghrair Un (2019–2023) a dychwelyd i'r Uwch Gynghrair yn 2024

golygu

Arhosodd Lambert fel rheolwr ar gyfer y tymor newydd yn y drydedd haen. Gorffennodd Ipswich y tymor yn yr 11eg safle, safle isaf y clwb ers 1953. Penderfynwyd ar y safleoedd terfynol ar sail pwyntiau-y-gêm oherwydd cwtogi'r tymor ym mis Mawrth 2020 o ganlyniad i'r panedemig COVID-19.[59] Ar ôl methu â chynnal ymdrech ystyrlon i enilll dyrchafiad yn ystod y tymor canlynol, gadawodd Lambert y clwb trwy gydsyniad ar 28 Chwefror 2021.[60] Penodwyd cyn bennaeth Wigan, Paul Cook, yn ei le dridiau'n ddiweddarach.[61]

Ar 7 Ebrill 2021, cyhoeddodd y clwb fod Gamechanger 20 Cyf., grŵp buddsoddi o UDA, wedi prynu cyfran fwyafrifol. Roedd y consortiwm yn cynnwys grŵp buddsoddi ORG o Ohio, y 'Three Lions Fund' (sy'n cynnwys tri aelod o fwrdd Phoenix Rising FC) a'r cyn-berchennog Marcus Evans, a arhosodd yn gyfranddaliwr lleiafrifol.[62] Gorffennodd Ipswich dymor 2020–21 yn y nawfed safle, tri lle y tu allan i’r gemau ail gyfle.[63] Roedd disgwyliadau yn uchel ar gyfer y tymor canlynol, ond yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig, cafodd Cook ei ddiswyddo ym mis Rhagfyr 2021.[64] Ar 16 Rhagfyr 2021, penodwyd Kieran McKenna, hyfforddwr tîm cyntaf Manchester United, i gymryd lle Cook, gyda Martyn Pert yn gynorthwyydd iddo.[65] Gorffennodd Ipswich y tymor yn yr 11eg safle.

 
Kieran McKenna a chwaraewyr Ipswich yn dathlu ar ôl sicrhau ail ddyrchafiad mewn dwy flynedd ym Mai 2024.

Yn nhymor llawn cyntaf Mckenna wrth y llyw, roedd y tîm yn fwy llwyddiannus. Yn dilyn rhediad diguro o ddeunaw gêm gynghrair dyrchafwyd Ipswich yn ôl i'r Bencampwriaeth. Gorffennodd Ipswich y tymor yn yr ail safle, gyda record clwb o 98 pwynt a 101 o goliau cynghrair.[66]

Yn sgil ennill gêm olaf tymor 2023-24, seliodd Ipsiwch ddyrchafiad am yr eildro mewn dwy flynedd, y pumed tîm i wneud hynny. Cawsant eu dyrchafu yn yr ail safle wedi 22 o flynyddoedd y tu allan i'r haen uchaf.[67] Daethant yn ail gyda 96 phwynt a 92 o goliau, y nifer uchaf yn y gynghrair.[68][69]

Stadiwm

golygu
 
Portman Road o'r awyr

Rhwng 1878 a 1884, chwaraeai Ipswich Town ar ddau faes yn y dref, sef Broom Hill a Brook’s Hall.[70] Yn 1884, symudodd y clwb i Portman Road ac maent yn chwarae yno ers hynny.[70] Yn eu cartref newydd, yn 1890, Ipswich oedd un o’r clybiau cyntaf i ddefnyddio rhwydi gôl. Ni ddechreuwyd datbygu’r maes o ddifri hyd nes 1901, pan adeiladwyd ffatri brosesu tybaco wrth ei ymyl deheuol.[70]

Adeiladwyd y stand gyntaf (a oedd â strwythur pren) ar ochr Portman Road o’r cae yn 1905. Yn 1911 chwythwyd y to i ffwrdd, ac yn ddiweddarach cafodd y maes ei meddiannu gan Fyddin Prydain trwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf.[71] Troes y clwb yn broffesiynol yn 1936, a dechreuodd y gwaith ar y banc teras cyntaf ym mhen gogleddol y maes. Y flwyddyn ganlynol, yn sgil ennill Cynghrair y De, adeiladwyd teras tebyg ym mhen deheuol y 'Churchmans'. Rhoddwyd teras ar bob ochr erbyn 1954 a chodwyd llifoleuadau yn 1959.[70]

Yn 1971, adeiladwyd y Portman Stand ar ddwy lefel ar hyd ochr ddwyreiniol y maes yn lle'r terasau, ac estynnwyd Stand y Gorllewin yn 1982 trwy ychwanegu trydedd lefel. Ailenwyd Stand y Gorllewin yn Pioneer Stand o ganlyniad i noddi’r clwb gan y cwmni electroneg Pioneer Corporation ac fe’i troswyd i fod â seddi yn unig yn 1990. Yn y flwyddyn honno, yn dilyn argymhellion Adroddiad Taylor yn sgil Trychineb Hillsborough y flwyddyn flaenorol, troswyd y terasau yn y standiau gogledd a de yn seddi yn unig, gan greu'r stadiwm holl-sedd gyflawn gyntaf yn lefel uchaf pêl-droed yn Lloegr gyda chapasiti o 22,600.[70]

Arweiniodd llwyddiant ar y cae at fuddsoddiad pellach yn yr isadeiledd, wrth i'r clwb wario dros £22 miliwn ar ailddatblygu standiau’r Gogledd a’r De, gan arwain at gapasiti cyfredol o 30,311, y capasiti mwyaf mewn cae pêl-droed yn East Anglia. Yn ystod yr unfed ganrif ar hugain, dadorchuddiwyd cerfluniau o Syr Alf Ramsey a Syr Bobby Robson y tu allan i'r stadiwm.[72][73] Ailenwyd Stand y Gogledd er anrhydedd i'r cyn-reolwr Bobby Robson ym mis Medi 2009. Ar 31 Mawrth 2012, ar y cyd â dathlu hanner canrif ers i Ipswich Town ennill yr Adran Gyntaf ar eu hymgais gyntaf, ailenwyd Stand y De er anrhydedd i gyn-reolwr Lloegr ac Ipswich, Syr Alf Ramsey. Erbyn hyn, felly, mae gan Portman Road ddwy stand wedi eu henwi ar ôl dau reolwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb, a dau reolwr mwyaf llwyddiannus Lloegr. Ar 10 Gorffennaf 2012, ailenwyd Stand y Gorllewin, a elwid gynt yn Pioneer Stand a’r Britannia Stand, yn East of England Co-operative Stand yn dilyn cytundeb nawdd gyda’r East of England Co-operative Society.[74] Enwyd Stand y Dwyrain, yr hen Portman Stand, yn Cobbold Stand, ar ôl cyn berchnogion y clwb.[75]

Mae'r arwyneb chwarae yn Portman Road yn uchel ei barch ac fe'i pleidleisiwyd y cae gorau yn y gynghrair ar sawl achlysur. Derbyniodd y cyn-dirmon, Alan Ferguson, nifer o anrhydeddau, gan gynnwys Tirmon Uwch Gynghrair y Flwyddyn a Thirmon y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth.[76][77] Mae'r stadiwm hefyd wedi cynnal llawer o gemau rhyngwladol ieuenctid Lloegr, ac un gêm ryngwladol gyfeillgar i Loegr, yn erbyn Croatia yn 2003.[78]

Cefnogwyr

golygu

Llysenw diweddar ar gyfer Ipswich yw ‘The Tractor Boys’, a fathwyd yn ystod cyfnod y clwb yn yr Uwch Gynghrair rhwng 2000-01 a 2001–02, pan oeddent yn cystadlu’n gyson yn erbyn clybiau mwy ffasiynol. Mae'r llysenw yn enghraifft o hiwmor hunanddibrisiol sy'n cyfeirio at dreftadaeth amaethyddol ardal Ipswich. Nid yw gwreiddiau'r llysenw’n sicr, ond derbynnir yn gyffredinol iddo ddod i'r amlwg yn dilyn gêm yn erbyn Leeds United yn 2000–2001: roedd Ipswich yn ennill y gêm 2-1 a dechreuodd cefnogwyr Leeds ganu, ‘We're being beaten by a bunch of tractor drivers’. Fe wnaeth heclo gan gefnogwyr clybiau mwy sefydledig yn yr Uwch Gynghrair arwain at y defnydd o’r siant eironig ‘1–0 to the Tractor Boys’ gan gefnogwyr Ispwich. Erbyn heddiw, defnyddir y llysenw yn gyffredin gan y cyfryngau.[79][80] Dywedodd cyn-reolwr Ipswich, Jim Magilton, yn y wasg leol nad oedd yn hoff o’r llysenw a dywedodd ei fod yn cyfleu ‘images of carrot-crunching yokels’,[81] tra bo chwaraewyr fel Matt Holland yn derbyn y siant yn llawen.[82]

Mae gan Ipswich gefnogaeth fyd-eang, ac mae gan Glwb Cefnogwyr Ipswich ganghennau ledled y byd. Mae gan y clwb gysylltiad arbennig o gryf â chlwb Fortuna Düsseldorf yn yr Almaen, gyda chefnogwyr Fortuna yn ymweld yn flynyddol â Portman Road er 2006. Mae cefnogwyr Ipswich hefyd yn trefnu ymweliadau â’r Merkur Spiel-Arena yn Düsseldorf i gefnogi Fortuna yn eu gemau cartref. Trefnodd y ddau glwb gêm gyfeillgar cyn y tymor yn Düsseldorf yn 2015, sef y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau.

Cymry sydd wedi chwarae i Ipswich

golygu

Rhestrir chwaraewyr yn ôl dyddiad eu gêm gyntaf i'r tîm. Mae ymddangosiadau ar gyfer gemau cystadleuol tîm cyntaf yn unig, gan gynnwys ymddangosiadau fel eilydd, tra bo gemau cwpan amser rhyfel a chwpan lleol (fel yr Ipswich Hospital Cup) wedi eu heithrio.

Roedd yr ystadegau'n gywir ar 19 Awst 2021.

* Aelod o Oriel Anfarwolion Ipswich Town
+ Wedi cynrychioli Cymru pan oedd yn chwarae dros Ipswich (gan gynnwys ar fenthyg gyda'r clwb)
Enw Tîm Cenedlaethol Safle Gyrfa Ipswich Town Ymddangosiadau Goliau Capiau tra gyda ITFC Goliau
Ossie Parry Cefnwr 1936–1949 7002122000000000000122 50000000000000000000 50000000000000000000 50000000000000000000
Bryn Davies Ymosodwr 1938–1939 700132000000000000032 70007000000000000007 50000000000000000000 50000000000000000000
Trevor Morris Ymosodwr 1939 70001000000000000001 50000000000000000000 50000000000000000000 50000000000000000000
Doug Rees Mewnwr 1949–1959 7002387000000000000387 70001000000000000001 50000000000000000000 50000000000000000000
John Elsworthy* Hanerwr asgell 1949–1964 7002435000000000000435 700152000000000000052 50000000000000000000 50000000000000000000
Billy Reed Wales  Cymru+ Asgellwr dde 1953–1958 7002168000000000000168 700146000000000000046 70002000000000000002 50000000000000000000
Aled Owen Asgellwr 1958–1963 700130000000000000030 70003000000000000003 50000000000000000000 50000000000000000000
Cyril Lea* Wales  Cymru+ Hanerwr asgell 1964–1969 7002123000000000000123 70002000000000000002 70002000000000000002 50000000000000000000
Mick Hill Wales  Cymru+ Ymosodwr 1969–1972 700177000000000000077 700120000000000000020 70002000000000000002 50000000000000000000
Les Tibbott Canol Cae 1976–1979 700165000000000000065 70001000000000000001 50000000000000000000 50000000000000000000
Geraint Williams Wales  Cymru+ Canol Cae 1992–1998 7002264000000000000264 70002000000000000002 70002000000000000002 50000000000000000000
Andy Legg Wales  Cymru Cefnwr Chwith 1997 70006000000000000006 70001000000000000001 50000000000000000000 50000000000000000000
Lewis Price Wales  Cymru+ Gôl-geidwad 2004–2007 700175000000000000075 50000000000000000000 70003000000000000003 50000000000000000000
Gavin Williams Wales  Cymru+ Canol Cae 2005–2007 700159000000000000059 70003000000000000003 70001000000000000001 50000000000000000000
Ben Thatcher Wales  Cymru Cefnwr Chwith 2008–2010 700120000000000000020 50000000000000000000 50000000000000000000 50000000000000000000
Troy Brown Olwr Canol 2010–2011 700113000000000000013 50000000000000000000 50000000000000000000 50000000000000000000
Elliott Hewitt Cefnwr 2012–2015 700110000000000000010 50000000000000000000 50000000000000000000 50000000000000000000
Johnny Williams Wales  Cymru+ Canol Cae 2014–2015
2016
700128000000000000028 70002000000000000002 70002000000000000002 50000000000000000000
Josh Yorwerth Olwr Canol 2015 70003000000000000003 70001000000000000001 50000000000000000000 50000000000000000000
Tom Lawrence Wales  Cymru+ Asgellwr 2016–2017 700136000000000000036 700111000000000000011 70001000000000000001 50000000000000000000
Kieffer Moore Wales  Cymru Ymosodwr 2017–2018 700111000000000000011 50000000000000000000 50000000000000000000 50000000000000000000
Emyr Huws Wales  Cymru Canol Cae 2017–2021 700150000000000000050 70004000000000000004 50000000000000000000 50000000000000000000
Ellis Harrison Ymosodwr 2018–2019 700117000000000000017 70001000000000000001 50000000000000000000 50000000000000000000
Gwion Edwards Asgellwr 2018–2021 7002104000000000000104 700114000000000000014 50000000000000000000 50000000000000000000
James Collins Wales  Cymru Amddiffynnwr 2019 70006000000000000006 50000000000000000000 50000000000000000000 50000000000000000000
James Wilson Wales  Cymru Olwr Canol 2019–2021 700145000000000000045 70002000000000000002 50000000000000000000 50000000000000000000
David Cornell Gôl-geidwad 2020–2021 700112000000000000012 50000000000000000000 50000000000000000000 50000000000000000000
Wes Burns Wales  Cymru+ Agellwr / Cefnwr Dde 2021– 700139000000000000039 700113000000000000013 70004000000000000004 50000000000000000000
Lee Evans Wales  Cymru Canol Cae 2021– 700128000000000000028 70003000000000000003 50000000000000000000 50000000000000000000
Nathan Broadhead Wales  Cymru+ Ymosodwr 2023– 70001000000000000001 70001000000000000001


Rheolwyr

golygu
 
Alf Ramsey: rheolwr Ipswich rhwng 1955 a 1963, cyn rheoli Lloegr ac ennill Cwpan y Byd yn 1966.
 
Bobby Robson: rheolwr Ipswich rhwng 1969 a 1982.
Hyd at 4 Mehefin 2022. Nodir rheolwyr parhaol yn unig.
Dyddiadau Enw Cenedligrwydd
20 Mai 1936–11 Awst 1937 Mick O'Brien   Iwerddon
12 Tachwedd 1937–7 Awst 1955 Scott Duncan   Yr Alban
8 Awst 1955–30 Ebrill 1963 Alf Ramsey   Lloegr
1 Mai 1963–8 Medi 1964 Jackie Milburn   Lloegr
5 Hydref 1964–23 Tachwedd 1968 Bill McGarry   Lloegr
13 Ionawr 1969–18 Awst 1982 Bobby Robson   Lloegr
19 Awst 1982–17 Mai 1987 Bobby Ferguson   Lloegr
17 Mehefin 1987–5 Mai 1990 John Duncan   Yr Alban
11 Mai 1990–5 Rhagfyr 1994 John Lyall   Lloegr
28 Rhagfyr 1994–11 Hydref 2002 George Burley   Yr Alban
28 Hydref 2002 1955–11 Mai 2006 Joe Royle   Lloegr
5 Mehefin 2006–22 Ebrill 2009 Jim Magilton   Gogledd Iwerddon
23 Ebrill 2009–7 Ionawr 2011 Roy Keane   Iwerddon
13 Ionawr 2011–24 Hydref 2012 Paul Jewell   Lloegr
1 Tachwedd 2012–10 Ebrill 2018 Mick McCarthy   Iwerddon
30 Mai 2018–25 Hydref 2018 Paul Hurst   Lloegr
27 Hydref 2018–28 Chwefror 2021 Paul Lambert   Yr Alban
2 Mawrth 2021–4 Rhagfyr 2021 Paul Cook   Lloegr
16 Rhagfyr 2021–presennol Kieran McKenna   Gogledd Iwerddon

Chwaraewyr

golygu

Tîm hŷn y dynion

golygu

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

Rhif Safle Chwaraewr
1   GG Christian Walton
2   Harry Clarke
3   Leif Davis
4   George Edmundson
5   CC Samy Morsy (capten)
6   Luke Woolfenden
7   CC Wes Burns
8   CC Lee Evans
9   Freddie Ladapo
10   Conor Chaplin
11   CC Marcus Harness
13   GG Cieran Slicker
14   CC Jack Taylor
15   Cameron Burgess
Rhif Safle Chwaraewr
16   Ali Al-Hamadi
25   Massimo Luongo
26   Elkan Baggott
27   George Hirst
30   CC Cameron Humphreys
31   GG Václav Hladký
33   Nathan Broadhead
40   Axel Tuanzebe
44   Janoi Donacien
  Gassan Ahadme
  CC Idris El Mizouni
  Corrie Ndaba

Allan ar fenthyg

golygu

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

Rhif Safle Chwaraewr

Cyfeiriadau

golygu
  1. "East Anglian Derby". Ipswich Town F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2008. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Alexander, David (1 November 2002). "Bent relives Ipswich glory days to give Royle perfect start". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 28 Ebrill 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "A Potted Club History – by Decade – The 1880s". Pride of Anglia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2007. Cyrchwyd 26 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Honours by season". Pride of Anglia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 January 2011. Cyrchwyd 20 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Southern Amateur League archives – Ipswich Town". Southern Amateur League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mawrth 2009. Cyrchwyd 20 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  6. "Club History". Ipswich Town F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2008. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Scott Murray (21 Ionawr 2011). "The Joy of Six: Newly promoted success stories". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 October 2018. Cyrchwyd 3 Hydref 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  8. Karel Stokkermans (17 Mehefin 2018). "English Energy and Nordic Nonsense". RSSSF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2018. Cyrchwyd 3 Hydref 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  9. Cheese, Caroline (31 Gorffennaf 2006). "World Cup 1966 flashback". BBC Sport. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mai 2007. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. "Final 1963 / 1964 English Division 1 (old) Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Awst 2007. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  11. "Final 1967 / 1968 English Division 2 (old) Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ebrill 2008. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. Robson. "The Last Corinthians". Farewell but Not Goodbye. t. 72. ISBN 0-340-84064-1.
  13. "United's 10 worst defeats". Manchester Evening News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Medi 2007. Cyrchwyd 21 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  14. "English FA Cup Final – 1977 / 1978". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2007. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  15. "Frozen in time: 18 March 1981". The Guardian (yn Saesneg). 4 Mawrth 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2014. Cyrchwyd 23 Awst 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  16. "Ipswich thankful for Thijssen". UEFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mawrth 2007. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  17. "Final 1980 / 1981 English Division 1 (old) Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2007. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  18. "Final 1981 / 1982 English Division 1 (old) Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ebrill 2008. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  19. "Final 1982 / 1983 English Division 1 (old) Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2006. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  20. "Final 1983 / 1984 English Division 1 (old) Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ionawr 2007. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  21. "Final 1984 / 1985 English Division 1 (old) Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ionawr 2007. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  22. "Final 1985 / 1986 English Division 1 (old) Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2006. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  23. "John Lyall's managerial career". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2007. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  24. "Ipswich Town F.C. – The Nineties". Ipswich Town F.C. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007.[dolen marw]
  25. "Ipswich 1992 / 1993 results and fixtures". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2007. Cyrchwyd 19 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  26. "Final 1992 / 1993 English Premier Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 February 2007. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  27. "Arsenal 7–0 Everton". BBC Sport. 11 Mai 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Rhagfyr 2006. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  28. "Final 1994 / 1995 English Premier Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2006. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  29. "George Burley fact file". BBC Suffolk. 17 Mawrth 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-20. Cyrchwyd 20 Mawrth 2007.
  30. Francis, Tony (23 Chwefror 2003). "Tractor Boys ploughed out". The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2007. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  31. "Town out of UEFA Cup". BBC Suffolk. 14 Tachwedd 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Tachwedd 2002. Cyrchwyd 19 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  32. "Ipswich sack Burley". BBC Sport. 11 Hydref 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  33. "Royle eyes promotion". BBC Sport. 28 Hydref 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2006. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007.
  34. "Final 2002 / 2003 Football League Championship Table". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 April 2008. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007.
  35. "Ipswich exit administration". BBC Sport. 30 Mai 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Tachwedd 2003. Cyrchwyd 17 Mawrth 2007.
  36. "West Ham reach final". BBC Sport. 18 Mai 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mai 2004. Cyrchwyd 19 Mawrth 2007.
  37. "Championship Play-off 2003 / 2004". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2007. Cyrchwyd 19 Mawrth 2007.
  38. "Plymouth 2–1 Ipswich". BBC Sport. 30 Ebrill 2006. Cyrchwyd 7 Ionawr 2008.
  39. "Who will succeed Joe Royle?". BBC Suffolk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2007. Cyrchwyd 19 Mawrth 2007.
  40. "Magilton is new Ipswich boss". BBC Suffolk. 20 Mehefin 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2012. Cyrchwyd 19 Mawrth 2007.
  41. "Ipswich agree to sell £44m stake". BBC Sport. 31 Hydref 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ionawr 2016. Cyrchwyd 7 November 2007.
  42. "Now Sullivan joins the takeover bidding". East Anglian Daily Times. 7 Tachwedd 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2008. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2007.
  43. "Evans completes Ipswich takeover". BBC Sport. 17 Rhagfyr 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 9 Ionawr 2008.
  44. "New club Sponsor Revealed". Ipswich Town F.C. 20 Mai 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 20 Mai 2008.
  45. "Keane appointed Ipswich manager". BBC Sport. 23 Ebrill 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ebrill 2009. Cyrchwyd 23 Ebrill 2009.
  46. "Roy Keane leaves role as Ipswich manager". BBC Sport. 7 Ionawr 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2011. Cyrchwyd 7 Ionawr 2011.
  47. "Paul Jewell leaves as Ipswich Town manager". BBC Sport. 24 Hydref 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Hydref 2012. Cyrchwyd 24 Hydref 2012.
  48. "Mick McCarthy: Ipswich Town appoint ex-Wolves boss". 1 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2012.
  49. "Burnley 2–0 Ipswich". BBC Sport. 4 Mai 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mai 2013. Cyrchwyd 4 Mai 2013.
  50. "Ipswich 2–1 Sheffield Wednesday". BBC Sport. 2 Mai 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mai 2014. Cyrchwyd 3 Mai 2014.
  51. "Norwich City 3–1 Town (4–2 on Aggregate) – Ipswich Town News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2015. Cyrchwyd 19 Mai 2015.
  52. Watson, Stuart (7 Mai 2017). "The Verdict: Worst season in 58 years – and little light at the end of the tunnel for Ipswich Town". East Anglian Daily Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 7 Mai 2017.
  53. "Mick McCarthy: Ipswich Town boss announces departure in post-match news conference". BBC Sport. 11 Ebrill 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ebrill 2018. Cyrchwyd 11 Ebrill 2018.
  54. Warren, Andy (11 Ebrill 2018). "Klug takes caretaker charge of Ipswich Town after McCarthy's departure". East Anglian Daily Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ebrill 2018. Cyrchwyd 11 Ebrill 2018.
  55. "Paul Hurst: Ipswich Town name Shrewsbury boss as Mick McCarthy's successor". BBC Sport. 30 Mai 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mehefin 2018. Cyrchwyd 30 Mai 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  56. "Paul Hurst: Ipswich Town sack manager after less than five months". BBC Sport. 25 Hydref 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Hydref 2018. Cyrchwyd 25 Hydref 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  57. "Paul Lambert is confirmed as Ipswich Town's new manager". East Anglian Daily Times. 27 Hydref 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Hydref 2018. Cyrchwyd 27 Hydref 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  58. "Ipswich Town 1–1 Birmingham City: Tractor Boys relegated to League One". BBC Sport. 13 Ebrill 2019. Cyrchwyd 13 Ebrill 2019.
  59. "League One: Coventry champions, Tranmere relegated as clubs vote for season to end". Sky Sports. 9 June 2020. Cyrchwyd 9 June 2020.
  60. Doyle, Paul (28 February 2021). "Paul Lambert leaves post as Ipswich manager as takeover moves closer". The Guardian. Cyrchwyd 28 February 2021.
  61. "Welcome Paul Cook". Ipswich Town F.C. 2 March 2021. Cyrchwyd 2 March 2021.
  62. "Ipswich under new ownership". Ipswich Town F.C. 7 April 2021. Cyrchwyd 7 April 2021.
  63. "League One – 2020/2021 – Regular season". Soccerway. Perform Group.
  64. "Paul Cook: Ipswich Town sack boss after nine months at League One club". BBC News. 4 December 2021. Cyrchwyd 4 December 2021.
  65. "Welcome Kieran McKenna". Ipswich Town F.C. 16 December 2021. Cyrchwyd 16 December 2021.
  66. "Ipswich Town 6–0 Exeter City". BBC Sport. 29 April 2023. Cyrchwyd 20 August 2023.. Cyrchwyd 4 Mehefin 2024.
  67. Grunill, Paul (4 May 2024). "Ipswich Town 2–0 Huddersfield Town". BBC Sport.. Cyrchwyd 4 Mehefin 2024.
  68. "We Are Premier League!". Ipswich Town F.C. 4 May 2024.
  69. Liew, Jonathan (4 May 2024). "Ipswich seal stunning promotion to Premier League as Huddersfield drop". The Guardian.. Cyrchwyd 4 Mehefin 2024.
  70. 70.0 70.1 70.2 70.3 70.4 "Ground history for Ipswich Town". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2007. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  71. "Ground history for Ipswich Town". Soccerbase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 October 2007. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  72. "Sir Bobby Robson statue unveiling". Ipswich Town F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  73. "Statue of Sir Alf unveiled – Part One". Ipswich Town F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2008. Cyrchwyd 16 March 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  74. Gooderham, Dave (11 July 2012). "Updated: Britannia Stand becomes the East of England Co-operative Stand". East Anglian Daily Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-21. Cyrchwyd 28 October 2017.
  75. Duncan Adams (21 Chwefror 2012). "What's Portman Road Like?". Ipswich Town: Portman Road. Football Ground Guide. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2012. Cyrchwyd 22 Mawrth 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  76. Tyldesley, Clive (15 Ebrill 2001). "Understated Ipswich begin to betray their excitement". The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2007. Cyrchwyd 19 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  77. "Groundsman admits mistakes made". Ipswich Evening Star. 3 Ionawr 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 April 2008. Cyrchwyd 19 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  78. "FA chooses Portman Road". BBC Sport. 18 Mehefin 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Hydref 2003. Cyrchwyd 12 Hydref 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  79. Warshaw, Andrew (3 Chwefror 2002). "One in a thousand as Tractor Boys plough on". The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2007. Cyrchwyd 19 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  80. Hayes, Alex (18 Mawrth 2001). "Reuser keeps tractor boys rolling". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 January 2016. Cyrchwyd 7 Ionawr 2008. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  81. "That Was The Weekend That Was: Ipswich chant sows seeds of discontent". The Independent. 4 Rhagfyr 2000.
  82. "Tractor boys making noise". BBC Sport. 19 Rhagfyr 2000. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ionawr 2016. Cyrchwyd 7 Mai 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)