Deutsche Nationalbibliothek
llyfrgell genedlaethol yr Almaen
Llyfrgell genedlaethol yr Almaen yw'r Deutsche Nationalbibliothek (DNB), a leolir yn ninasoedd Leipzig a Frankfurt am Main. Mae'n dal cyfanswm o ryw 27.8 miliwn o eitemau.[1] Mae'r DNB yn olynydd i'r Deutsche Bücherei, a sefydlwyd yn Leipzig, canolfan diwydiant argraffu yr Almaen, ym 1912, er mwyn casglu pob gwaith yn yr iaith Almaeneg. Oherwydd rhaniad yr Almaen ym 1945, â'r Deutsche Bücherei bellach yn y Dwyrain Comiwnyddol, agorodd llyfrgell gyfwerth yn y Gorllewin, yn Frankfurt, a alwyd yn y Deutsche Bibliothek. Cyfunodd y ddau sefydliad dan yr enw Die Deutsche Bibliothek yn dilyn uno'r Almaen ym 1990, ac yn 2006 ail-gyfansoddwyd y llyfrgell dan ei henw cyfredol.[2]
Delwedd:Eingang Deutsche Nationalbibliothek Leipzig.jpg, Deutsche Buecherei Hauptgebaeude mit Buecherturm.JPG | |
Math | llyfrgell genedlaethol, bibliographic database |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Leipzig, Frankfurt am Main |
Gwlad | Yr Almaen |
Cyfesurynnau | 50.1311°N 8.6833°E |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Jockel, Stephan. The German National Library in Brief. Deutsche Nationalbibliothek. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2014.
- ↑ (Saesneg) Fischer, Barbara. History. Deutsche Nationalbibliothek. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2014.
Dolenni allanol
golygu- (Almaeneg) Gwefan swyddogol