Agor y brif ddewislen

Mae Frankfurt am Main yn ddinas yn yr Almaen. Frankfurt yw'r ddinas fwyaf yn nhalaith Hesse a'r bumed dinas yn yr Almaen o ran poblogaeth ar ôl Berlin, Hamburg, München a Cwlen, gyda poblogaeth o 670,095 yn Rhagfyr 2008.

Frankfurt am Main
280px
Wappen Frankfurt am Main.svg
Math dinas fawr, tref goleg, financial centre, dinas annibynnol yr Almaen, European City Edit this on Wikidata
De-Frankfurt am Main.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 746,878 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Peter Feldmann Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Birmingham, Budapest, Deuil-la-Barre, Dubai, Eskişehir, Granada, Guangzhou, Cairo, Kraków, Leipzig, Lyon, Milan, Prag, Tel Aviv, Toronto, Yokohama, Philadelphia, Chennai, Jeddah, Talaith Eskişehir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Stadtregion Frankfurt Edit this on Wikidata
Sir Darmstadt Government Region Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd 248.31 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 112 ±1 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Main Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Offenbach am Main, Wetteraukreis, Main-Kinzig-Kreis, Offenbach, Main-Taunus-Kreis, Hochtaunuskreis, Groß-Gerau, Bad Vilbel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 50.1136°N 8.6797°E Edit this on Wikidata
Cod post 60308–60599, 65929–65936 Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Peter Feldmann Edit this on Wikidata

Gelwir y ddinas yn Frankfurt am Main oherwydd ei lleoliad ar Afon Main ac i'w gwahaniaethu oddi wrth y Frankfurt arall, ar Afon Oder. Fel rheol pan gyfeirir at "Frankfurt", Frankfurt am Main a olygir. Frankurt yw'r drydedd canolfan ariannol yn Ewrop ar ôl Llundain a Paris, ac yn 2001 cyhoeddwyd mai Frankfurt oedd dinas gyfoethocaf Ewrop. Mae'r maes awyr ymhlith y prysuraf yn Ewrop.

Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl i sefydliadau Rhufeinig yn y ganrif gyntaf. O 855 hyd 1792, Frankfurt oedd dinas etholiadol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd y ddinas ei bomio'n drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dinistriwyd y canol hanesyddol.

Treuliodd y Cymro Richard Davies (a fyddai nes ymlaen yn esgob Llanelwy ac wedyn Tyddewi) gyfnod o alltudiaeth yn y ddinas o 1555 hyd 1558 am ei grefydd.

Mae gan y ddinas nifer o dimau peldroed; yr enwocaf ohonynt yw Eintracht Frankfurt.

Pobl enwog o Frankfurt am MainGolygu