Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen

gwlad oedd yn bodoli rhwng 1949–1990 yng nghanol Ewrop, wedi uno gydag Almaen modern

Gwlad gomiwnyddol oedd yn aelod o Gytundeb Warsaw oedd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (Almaeneg: Deutsche Demokratische Republik neu DDR /deːdeːʔɛʁ/) a elwir yn aml yn Dwyrain yr Almaen. Y brifddinas oedd Dwyrain Berlin. Sefydlwyd y wlad yn 1949 wedi'r Ail Ryfel Byd. Ers 3 Hydref, 1990, nid yw'r DDR yn bodoli, gan iddi uno â Gweriniaeth Ffederal yr Almaen. Nes 1989 roedd yn disgrifio ei hun fel gwladwriaeth sosialaeth y "gweithwyr a'r gwerinwyr".[1] Cafodd yr economi ei ddisgrifio fel un canolog ac wedi ei berchen gan y wladwriaeth.[2]

Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasDwyrain Berlin Edit this on Wikidata
Poblogaeth16,111,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 7 Hydref 1949 Edit this on Wikidata
AnthemAuferstanden aus Ruinen Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethOtto Grotewohl, Willi Stoph, Horst Sindermann, Willi Stoph, Hans Modrow, Lothar de Maizière Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladGweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd108,179 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGweriniaeth Ffederal Tsiec a Slofacia, Gwladwriaeth Sosialaidd Tsiecoslofac, Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl, Y Gymuned Ewropeaidd, Gorllewin yr Almaen, Gwlad Pwyl, yr Undeb Ewropeaidd, yr Almaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.05°N 12.39°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCyngor Gweinidogion y DDR Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholVolkskammer Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, Llywydd y Volkskammer Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethWilhelm Pieck, Walter Ulbricht, Willi Stoph, Erich Honecker, Egon Krenz, Manfred Gerlach, Sabine Bergmann-Pohl Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethOtto Grotewohl, Willi Stoph, Horst Sindermann, Willi Stoph, Hans Modrow, Lothar de Maizière Edit this on Wikidata
Map
ArianMark Dwyrain yr Almaen, Deutsche Mark Edit this on Wikidata

Y ddau brif ffigwr yn hanes y DDR oedd Walter Ulbricht, arweinydd y wlad o 1950 i 1971, ac Erich Honecker, arweinydd y wlad o 1971 i 1989.[3] System un bleidiol oedd mewn lle a'r blaid lywodraethol oedd y Blaid Undod Sosialaidd (SED).[4] Fe alwyd y wlad yn aml yn un o 'wladwriaethau lloeren' yr Undeb Sofietaidd, gyda haneswyr yn ei alw'n gyfundrefn awdurdodaidd.[5] Yn ystod ei hanes daeth yn un o'r gwledydd mwyaf datblygedig yn economaidd yn y Bloc Dwyreiniol.[6] Yn ddaearyddol roedd ffin fewnol yn rhedeg rhwng y DDR a Gorllewin yr Almaen ond hefyd yn Berlin. Adeiladwyd Mur Berlin yn 1961 er mwyn rhwystro pobl rhag dianc i'r Gorllewin.[7] Daeth hyn yn symbol o'r wladwriaeth a'r ffin ideolegol rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin (Y Llen Haearn). Ar ôl cwymp y Mur yn 1989, flwyddyn yn ddiweddarach fe wnaeth y wlad uno gyda Gorllewin yr Almaen er mwyn creu Gweriniaeth Ffederal yr Almaen.[7]

Yn Chwefror 1945 fe wnaeth arweinwyr y Cynghreiriaid cwrdd yn Yalta. Yn ystod y gynhadledd cytunodd yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, a’r Undeb Sofietaidd ar rannu'r Almaen wedi’i threchu yn barthau meddiannaeth, ac ar rannu Berlin, prifddinas yr Almaen, ymhlith pwerau’r Cynghreiriaid.[7] I ddechrau, roedd hyn yn golygu ffurfio tri pharth meddiannaeth, sef y parthau'r Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a'r Undeb Sofietaidd. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd parth Ffrainc a grewyd o barthau UDA a Phrydain.[7] Yn 7 Hydref 1949 fe sefydlwyd gwladwriaeth y DDR ym mharth meddiannu'r Sofietiaid. Roedd creu'r DDR yn ymateb uniongyrchol i ffurfio Gweriniaeth Ffederal yr Almaen yn y parthau a feddiannwyd yn y Gorllewin yn gynharach yr un flwyddyn.[8]

Yn ei flynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd y DDR ar ailadeiladu ei heconomi o dan fodel economi gynlluniedig.[9] Roedd y wladwriaeth yn gwladoli diwydiant ac yn ffurfio amaethyddiaeth gyfunol, gan arwain at heriau economaidd cychwynnol, gan gynnwys prinder nwyddau ac anfodlonrwydd eang. Digwyddodd streic gweithwyr a phrotestiadau fis Mehefin 1953, ac fe wnaeth y fyddin Sofietaidd ymyrryd. Gweithredodd llywodraeth y DDR hefyd reolaeth lem dros fywyd gwleidyddol, gyda'r Stasi, gwasanaeth cudd wybodaeth a diogelwch y wladwriaeth, yn chwarae rhan allweddol wrth atal gwrthwynebiad.[7]

Wrth i'r Rhyfel Oer ddwysau, roedd y DDR yn wynebu problem sylweddol gydag ymfudiad ei ddinasyddion i Orllewin yr Almaen, a oedd ag economi mwy ffyniannus a mwy o ryddid gwleidyddol. Erbyn 1961, roedd tua 3.5 miliwn o ddwyreinwyr wedi ffoi i'r Gorllewin, gan arwain at argyfwng a oedd yn bygwth sefydlogrwydd y DDR.[10] Ar 13 Awst 1961, cododd llywodraeth y DDR, gyda chefnogaeth yr Undeb Sofietaidd, Wal Berlin, gan rannu Dwyrain a Gorllewin Berlin yn gorfforol a symboleiddio rhaniad ehangach yr Almaen ac Ewrop.[11] I bob pwrpas, ataliodd Mur Berlin yr ymfudo torfol, ond daeth hefyd yn symbol o natur ormesol y DDR. Cyfiawnhaodd llywodraeth y DDR y wal fel mesur amddiffynnol yn erbyn ymddygiad ymosodol y Gorllewin, gan ei alw'n "Rhaglen Amddiffyn Gwrth-Ffasgaidd."[12] Fodd bynnag, roedd y wal yn cael ei hystyried yn rhyngwladol yn eang fel rhwystr i ryddid.

Erbyn yr 1980au, roedd y DDR yn wynebu anawsterau economaidd cynyddol, gan brwydro â dyled, prisiau cynyddol ar gyfer mewnforio deunydd crai, prinder, gyda buddsoddiadau’n dirywio a chynhyrchiant yn isel.[13][14] Tyfodd anniddigrwydd ymhlith y boblogaeth, gan arwain at allfudo a chynnydd mewn gweithgareddau gwrthwynebol, gan gynnwys protestiadau a thwf grwpiau gwrthblaid.[15]

Daeth y sefyllfa i’r pen yn 1989, wrth i’r Bloc Dwyreiniol ehangach ddechrau profi newidiadau gwleidyddol sylweddol. Dechreuodd protestiadau torfol, a elwir yn Chwyldro Heddychol, ar draws y DDR, gan fynnu diwygio gwleidyddol, rhyddid i symud, ac yn y pen draw, ailuno â Gorllewin yr Almaen. Ar 9 Tachwedd 1989, cyhoeddodd llywodraeth y DDR yn annisgwyl y gallai Dwyreinwyr groesi'r ffin yn rhydd i Orllewin Berlin a Gorllewin yr Almaen, gan arwain at gwymp Mur Berlin.[15]

Yn dilyn cwymp y Mur, chwalodd y DDR yn gyflym fel endid gwleidyddol. Ym mis Mawrth 1990, cynhaliwyd yr etholiadau rhydd cyntaf, gan arwain at fuddugoliaeth i bleidiau o blaid ailuno. Ar 3 Hydref 1990, diddymwyd y DDR yn ffurfiol, a daeth ei diriogaeth yn rhan o Weriniaeth Ffederal yr Almaen, gan ddod â dros bedwar degawd o ymraniad i ben.[16]

Diwylliant

golygu

Yn gymdeithasol, roedd y DDR yn hyrwyddo fersiwn o sosialaeth a oedd yn pwysleisio cydgyfrifoldeb a chydymffurfiaeth â delfrydau gwladwriaethol. Darparodd y llywodraeth wasanaethau cymdeithasol helaeth, gan gynnwys addysg am ddim, gofal iechyd, a thai â chymhorthdal, a fwriadwyd i feithrin teyrngarwch i'r wladwriaeth.[17] Fodd bynnag, cyfyngwyd yn ddifrifol ar ryddid gwleidyddol gyda sensoriaeth, a chynhaliodd y Stasi rwydwaith gwyliadwriaeth dreiddiol o fewn cymdeithas i fonitro a rheoli'r boblogaeth.[18]

Cysylltiadau rhwng y DDR a Chymru

golygu

Roedd y DDR yn cynnwys ardaloedd o bobl oedd yn siarad yr iaith leiafrifol y Sorbeg, a drwy gydol bodolaeth y wladwriaeth roedd pobl o Gymru wedi teithio draw er mwyn rhannu a deall sut oedd y wladwriaeth yn ymdrin â'r iaith.[19] Mae yna dystiolaeth bod o leiaf tair dirprwyaeth o fyd addysg Gymraeg, o Sir y Fflint yn benodol, wedi teithio i'r DDR.[19] Benjamin Haydn Williams, a sefydlodd y ddwy ysgol Cymraeg cyntaf yng Nghymru yn Sir y Fflint, oedd yn arwain y dirprwyaethau hyn.

Fe wnaeth Sorbiaid hefyd gystadlu yn Eisteddfod ryngwladol Llangollen rhwng 1959 a 1972 drwy anogaeth Benjamin Haydn Williams a Huw T. Edwards.[19]

Honnir bod y DDR wedi rhoi arian, parseli bwyd, dillad a gwyliau am ddim i lowyr yng Nghymru a Phrydain yn ystod Streic y Glowyr rhwng 1984 a 1985.[20]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Major, Patrick; Osmond, Jonathan (2002). The Workers' and Peasants' State: Communism and Society in East Germany Under Ulbricht 1945–71. Manchester University Press. ISBN 978-0-7190-6289-6.
  2. Arwyn, Arddun. "7. GDA: Yr Undeb Sofietaidd ar yr Elbe". prezi.com. Cyrchwyd 2024-08-10.
  3. "Erich Honecker and Walter Ulbricht". ghdi.ghi-dc.org. Cyrchwyd 2024-08-10.
  4. Leichsenring, Dr Jana. "German Bundestag - The German Democratic Republic (1949 - 1990)". German Bundestag (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-10.
  5. Kocka, Jürgen, gol. (2010). Civil Society & Dictatorship in Modern German History. UPNE. t. 37. ISBN 978-1-58465-866-5. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 March 2015. Cyrchwyd 14 October 2015.
  6. "Business America. (27 February 1989). German Democratic Republic: long history of sustained economic growth continues; 1989 may be an advantageous year to consider this market[[:Nodyn:Snd]]Business Outlook Abroad: Current Reports from the Foreign Service". Business America. 1989. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 November 2007. Cyrchwyd 2 October 2007. URL–wikilink conflict (help)
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Datblygiad yr Almaen, 1919–1991 Rhan 1: Datblygiadau Gwleidyddol yn yr Almaen (PDF). CBAC.
  8. See Anna M. Cienciala "History 557 Lecture Notes" Archifwyd 20 Mehefin 2010 yn y Peiriant Wayback
  9. Peter E. Quint. The Imperfect Union: Constitutional Structures of German Unification, Princeton University Press, 2012, pp. 125–126.
  10. Dowty 1989, t. 122
  11. Taylor, Frederick (2006). Berlin Wall: A World Divided, 1961–1989. HarperCollins. ISBN 9780060786137.
  12. "Goethe-Institut – Topics – German-German History Goethe-Institut". 9 April 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 April 2008. Cyrchwyd 6 August 2011.
  13. "The collapse of the German Democratic Republic (GDR) - Subject files - CVCE Website". www.cvce.eu. Cyrchwyd 2024-08-21.
  14. "The Plans That Failed: An Economic History of the GDR – EH.net" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-21.
  15. 15.0 15.1 Flemming, Thomas. The Berlin Wall: Division of a City. BeBra Verlag. ISBN 978-3814802725.
  16. "Leben in der DDR". www.mdr.de (yn Almaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 February 2024. Cyrchwyd 2022-03-06.
  17. Hoyer, Katja (2024). Beyond the Wall: East Germany, 1949-1990. London: Penguin Books Ltd. ISBN 978-0-14-199934-0.
  18. Germans campaign for memorial to victims of communism Archifwyd 10 Mai 2023 yn y Peiriant Wayback, BBC News, 31 January 2018
  19. 19.0 19.1 19.2 Thomas, Rhian (2014). Wales and the German Democratic Republic: Expressions and perceptions of Welsh identity during the Cold War (PDF). Prifysgol De Cymru.
  20. "GDR 'finance' for 1984-85 miners' strike". BBC News (yn Saesneg). 2010-07-07. Cyrchwyd 2024-08-11.