Cantores Arabaidd boblogaidd o dras Palesteinaidd yw Diana Karazon (Arabeg: ديانا كرزون) (ganed 30 Hydref 1983 yn Ciwait). Daeth yn ewnog yn y byd Arabaidd ar ôl ennill y fersiwn Arabaidd o'r gyfres Idol, sef SuperStar, yn 2003.

Diana Karazon
Ganwydديانا سمير كرزون Edit this on Wikidata
30 Hydref 1983 Edit this on Wikidata
Dinas Coweit Edit this on Wikidata
Label recordioAlam El Phan, Mazzika Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Galwedigaethactor, canwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, ffwnc Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Cafodd Diana Karazon ei geni yn Ciwait a'i dwyn i fyny yn Amman, prifddinas Gwlad Iorddonen. Dechreuodd ar ei yrfa fel cantores yn blentyn gyda chefnogaeth ei thad, cerddor Palestinaidd yn Iorddonen. Canodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn eneth 6 mlwydd oed pan ganodd y gân wladgarol "Ya ayyuha al meleko" i'r brenin Hussein. Aeth ymlaen i ganu mewn sawl cystadleuaeth ar gyfer cantorion ifainc a'r canlyniad fu iddi gael ei dewis i ymddangos yn y gystadleuaeth deledu Superstar.

Gyrfa gerddorol golygu

Enillodd Karazon y gystadleuaeth honno ac aeth ymlaen i ryddhau CD o'r enw "Ensany Ma Binsak" (Diana, SuperStar yr Arabiaid). Roedd ei steil yn gyfyno cerddoriaeth Arabaidd draddodiadol a cherddoriaeth pop Arabaidd.

Yn nes ymlaen bu rhaid iddi, oherwydd ei chytundeb recordio, gynrychioli'r gwledydd (fel dewis "Pan-Arabia") yn y gystadleuaeth World Idol ryngwladol. Gwnaeth enw iddi ei hun yno drwy wrthod canu yn Saesneg fel y cystadleuwyr rhyngwladol eraill a dewid yn hytrach ganu yn ei mamiaith, yr Arabeg. Daeth yn 9fed yn y gystadleuaeth ond roedd ei safiad dros yr iaith yn boblogaidd a'r cyhoeddusrwydd yn hwb i'w phoblogrwydd yn y byd Arabaidd.

Yn 2005 cyhoeddodd ei ail albwm "El Omr mashy" ("Mae bywyd yn parhau").

Dywed Karazon fod y prif ddylanwadau cerddorol arni yn cynnwys caneuon Fairuz (y gantores enwog o'r Libanus) a Warda.

Discograffeg golygu

  • 2003 Super Star El Arab
  • 2005 El Omr Mashi

Perfformiadau (caneuon) golygu

55 uchaf: أكذب عليك (Akdib Aleyk) gan Warda
8 uchaf: آه يا ليل (Ah Ya Leel) gan Ragheb Alama
7 uchaf: إبعتلي جواب (Iba'atli Jawab) gan Nour Mehana
6 uchaf: ألف ليلة وليلة (Alf Leela W Leela) gan Umm Kulthum
5 uchaf: دنيا الوله (Dinya Min El Wala) gan Abdallah Al Rowaished
4 uchaf: أنا في انتظارك (Ana Fi Entazarak) gan Umm Kulthum
4 uchaf: مغرومة (Maghroume) gan Najwa Karam
3 uchaf: أكذب عليك (Akdib Aleyk) gan Warda
3 uchaf: البوسطه (El Posta) gan Fairuz
3 uchaf:
Grande Finale: لسا فاكر (Lissa Faker) gan Warda
Grande Finale:
Grande Finale: تعا ننسى (Ta'a Ninsa) gan Melhem Barakat

Dolenni allanol golygu